On the Summer Solstice, Cân y Coed Rainforest Symphony was birthed into being by Environmental Sound Artist & Composer, Cheryl Beer, at The National Botanic Garden of Wales. A year in the making, Cheryl has been working in 5 rainforest enclaves in a unique & innovative way. Here, in her launch presentation, she tells us how she repurposed hearing aid technology & sensitive biomedical sound equipment to collate digital & visual readings from the vascular systems beneath the bark of the rainforests, took these to her studio & composed a Symphony where every note, phrase, rest, is led by the rainforests themselves!
Cheryl introduces us to the trees she collaborated with & explains what we can expect from the Symphony experience when we visit it online or at one of the tour venues. Cân y Coed Rainforest Symphony is an Unlimited Main Commission funded by the Arts Council of Wales. If you would like to visit one of the tour venues or listen to Cheryl's BBC Radio 4 interview - here's the link - www.cherylbeer.com/songofthetrees If you would prefer to experience the Symphony at home, follow this link -www.cherylbeer.com/symphony-store |
Yn ystod Heuldro'r Haf, daeth Symffoni'r Coedwigoedd Glaw, Cân y Coed ‒ gwaith yr Artist Sain Amgylcheddol a'r Cyfansoddwr, Cheryl Beer ‒ i fodolaeth yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Ers blwyddyn, mae Cheryl wedi bod yn gweithio mewn ffordd unigryw ac arloesol mewn 5 clofan o goedwig law. Wrth gyflwyno’i lansiad yma, mae'n esbonio sut yr aeth ati i ailbwrpasu technoleg teclynnau clyw ac offer sain biofeddygol sensitif i goladu darlleniadau digidol a gweledol o'r systemau fasgwlaidd dan risgl y coedwigoedd glaw. Yna aeth â'r rhain i'w stiwdio a chyfansoddodd Symffoni lle mae pob nodyn, cymal a churiad gwag yn cael eu harwain gan y coedwigoedd glaw eu hun!
Mae Cheryl yn ein cyflwyno i'r coed y bu'n cydweithio â nhw, ac mae'n esbonio beth i’w ddisgwyl wrth brofi’r Symffoni pan fyddwn yn ei chyrchu ar-lein neu yn un o leoliadau'r daith. Mae Symffoni'r Coedwigoedd Glaw, Cân y Coed, yn Gomisiwn Unlimited Main a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Os hoffech ymweld ag un o'r lleoliadau ar y daith neu wrando ar gyfweliad Cheryl ar BBC Radio 4 ‒ dyma'r ddolen: www.cherylbeer.com/songofthetrees-tour Os yw'n well gennych brofi'r Symffoni gartref, dilynwch y ddolen hon: www.cherylbeer.com/symphony-store |