Cheryl Beer
  • HOME
    • Cymraeg
  • #songofthetrees tour
  • Press Pack
  • Blog
  • Symphony Store
  • SOUND ARTIST
    • Addo R & D
    • My Story >
      • Cymraeg
  • Connect
PRESS PACK / PECYN I’R WASG
CÂN Y COED Rainforest Symphony is a unique collaboration between the Rainforests of Wales and Environmental Sound Artist, Cheryl Beer. The composition is led by the vascular systems of ancient trees, ferns and moss, collated by repurposing hearing aid and biomedical sound technology, empowering nature from beneath the bark, where every note is led by the rainforests, themselves.

​LAUNCHING 21st June @ ​National Botanic Garden of Wales

To launch CÂN Y COED Rainforest Symphony, Cheryl will be at the National Botanic Garden of Wales in the Theatr Botanica with an invited audience. The QR Code to CÂN Y COED will be unveiled & permanently sited at an old oak tree where visitors are transported to the Rainforests of Wales through their mobile devices. Guests will  have the opportunity to experience the symphony in their chosen locations throughout the Garden, by using a CÂN Y COED Rainforest Symphony wooden QR Code.
Picture

Picture
Picture
Picture

Picture
July 13th - August
​BBC RADIO 4 & BBC SOUNDS
Sketches: Stories of Art & People

​Join Cheryl in June/July at BBC Radio 4 & BBC Sounds where she gives a personal insight into her work as a hearing impaired, Environmental Sound Artist & Composer whilst being interviewed at The National Botanic Garden of Wales about the launch of her acclaimed & far reaching tour of her ​CÂN Y COED Rainforest Symphony
y.
Picture
​18th June - Celtic Rainforest
​Woodland ​Festival - Elan Valley
​
Before the Official Launch, CÂN Y COED Rainforest Symphony will be at the Celtic Rainforest Woodland Festival - a beautiful family day with the trees. As the Third Movement of the Symphony, 'Dancing Fern' was composed in Cwm Elan Rainforest & so it is fitting indeed, for it to return home.​
Picture
June/July ​Artist of the Month & Launch Screening
In recogintion of CÂN Y COED Rainforest Symphony. Disability Arts Cymru are celebrating Cheryl's success by making her Artist of the Month for June/July 2022. In addition, her launch video delivered in Welsh, English & British Sign Language will be shared at their website & with their partner AM Creative App - giving it a national platform.
Picture
20th July Unity Film Festival @ CHAPTER
Cheryl has been invited by Hijnx to be part of their Unity Film Festival on Monday 20th July, where audiences will have the opportunity to scan their QR Codes & delve beneath the bark at the Rainforests of Wales. Chapter is the first venue that Cheryl performed at as a musician in Wales, more than 30 years ago. so it feels poignant indeed, for her music to be returning ... 
Picture

HOT OFF THE PRESS ...

The Senedd, Cardiff 21st - 2nd July

CÂN Y COED Rainforest Symphony is being exhibited for 2 weeks at The Senedd, Cardiff,  sponsored  by Deputy Minister for Climate Change, Assembly Member, Lee Waters. The Audio Visual will be displayed on a rolling schedule for 2 weeks,
Picture
​22nd - 26th June - Wales Millennium Centre, Cardiff
CÂN Y COED Rainforest Symphony joins Hijinx Unity Festival at the Millennium Centre in Cardiff for 4 days as an installation, where audience are invited to take a wooden QR Code and access CÂN Y COED in a place of their choice, either within the Millennium Centre or the outdoors space, transporting them from the busy urban capital, to the calm & tranquil Rainforests of Wales.
Picture
28th - 29th June 
Pontio Arts & Innovation Centre

CÂN Y COED Rainforest Symphony installation tours with Hijinx Unity Festival to Pontio in Bangor, North Wales ...
Picture
​1st - 2nd July
​Y Ffwrnes Theatre

CÂN Y COED Installation tours with Hijinx Unity Festival to Y Ffwrnes Theatre in Llanelli, Carmarthenshire, the home town of the Artist.
Picture
2nd July The Pier Arts Centre, Orkney Islands, Scotland Cheryl is part of a ground breaking UK wide Arts Intervention called WAIWAV marking the 102nd anniversary of Dadafest. Her piece 'Sound heArt' invites audience to listen inside the environmental sound artist, whilst delving beneath the bark of the trees that saved her @ CÂN Y COED Rainforest Symphony. WAIWAV Disability Arts Intervention will  be televised nationally.

​3rd July WAIWAV SPECIAL EDITION BOOK LAUNCH
As part of the intervention, a WAIWAV special edition zine/book is being published, featuring Cheryl's work alongisde all 31 of the artists taking part. The limited edition copies are collector's items & will be distributed throughout the UK as well as reference material in the foyer of the 30 Galleries taking part, as follows - 

Arnolfini Arts Centre, Bristol / Baltic Centre of Contemporary Art, Gateshead / Centre for Contemporary Arts, Glasgow  Firstsite Art Gallery, Colchester / Glynn Vivian Gallery, Swansea / Golden Thread Art Centre, Belfast / Grizedale Arts, Conniston / Harris Museum & Art Gallery, Preston / The Hepworth Art Museum, Wakefield / HOME, Manchester / Ikon Gallery, Birmingham / John Hansard Gallery, Southampton / Leeds Art Gallery / Liverpool Biennial Gallery / MIMA – Middelsbourough Institute of Moden Art / Manchester Art Gallery / MK Gallery, Milton Kenes / Modern Art Oxford
Newlyn Art Gallery / Nottingham Contemporary / Pier Arts Centre, Orkney Islands, Scotland / Site Gallery, Sheffield  Tate Britain, London / Tate Liverpool / Tate Modern, London / Tate Gallery St Ives / Towner , Eastbourn / Turner Contemporary, Kent / VOID Gallery Londonderry, Ireland.
Picture
Cheryl is in talks with a number of very exciting venues & events & will let you know about these dates as they come in. ​If you would like to start a conversation with Cheryl about including CÂN Y COED Rainforest Symphony into your event, please feel free to get in touch.

CYMRAEG

Picture
Ymunwch â Cheryl ym Mehefin/Gorffennaf ar BBC Radio 4 a BBC Sounds, pan fydd yn rhoi cipolwg personol iawn ar ei gwaith fel Artist Sain Amgylcheddol a Chyfansoddwr. Yn y cyfweliad yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, bydd yn trafod taith lansio ei Symffoni'r Coedwigoedd Glaw, CÂN Y COED.
PRESS PACK / PECYN I’R WASG
​Ymunwch â Cheryl yma ar 21 Mehefin 2022 ar gyfer Rhith lansiad ei Chomisiwn Unlimited clodfawr: - Symffoni Coedwigoedd Glaw CÂN Y COED, wrth iddo ddarlledu ar 100 o rith blatfformau Cenedlaethol a Rhyngwladol a dechrau ei daith o gwmpas Cymru.

Mae Symffoni Coedwigoedd Glaw CÂN Y COED yn gydweithrediad unigryw rhwng Coedwigoedd Glaw Cymru a'r Artist Sain Amgylcheddol, Cheryl Beer. Arweinir y cyfansoddiad gan systemau fasgwlaidd coed hynafol, rhedyn a mwsogl, a goladwyd drwy ailbwrpasu technoleg teclynnau clyw a biofeddygol, a grymuso natur oddi tan y rhisgl, lle mae pob nodyn yn ymgodi o'r coedwigoedd glaw eu hun.
 

LANSIAD AMSER REAL 21 MEHEFIN
Wrth i chi fwynhau'r rhith Symffoni Coedwigoedd Glaw CÂN Y COED, bydd Cheryl yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Theatr Botanica gyda chynulleidfa wahoddedig. Mae'r Cod QR ar gyfer CÂN Y COED yn cael ei osod wrth hen goeden dderw lle bydd y gynulleidfa yn cael ei chludo i'r goedwig law drwy God QR.
Picture
18 Mehefin - Gŵyl Goedwig y Coedwigoedd Glaw Celtaidd - Cwm Elan
​
Cyn y Lansiad Swyddogol, bydd Symffoni'r Coedwigoedd Glaw CÂN Y COED yn bresennol yng Ngŵyl Goedwig y Coedwigoedd Glaw Celtaidd - diwrnod hyfryd i'r teulu yng nghwmni'r coed. Gan i Drydydd Symudiad y Symffoni, 'Rhedynen yn Dawnsio' gael ei gyfansoddi yng Nghoedwig Law Cwm Elan, mae'n weddus iawn ei fod yn cael dod adref.​
Picture
Mehefin/Gorffennaf ​  Artist y Mis a Sgrinio'r Lansiad
Mewn cydnabyddiaeth o Symffoni'r Coedwigoedd Glaw CÂN Y COED, mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn dathlu llwyddiant Cheryl drwy ei dynodi'n Artist y Mis ar gyfer Mehefin/Gorffennaf 2022. Yn ogystal, bydd ei fideo lansio, a gyflwynir yn Gymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain, yn cael ei rannu ar eu gwefan a gyda'u partner Ap AM Creative - gan roi llwyfan cenedlaethol iddo.​
Picture
20 Gorffennaf   Gŵyl Ffilmiau Undod @ CHAPTER
Mae Cheryl wedi cael gwahoddiad gan Hijinx i fod yn rhan o'u Gŵyl Ffilmiau Undod ddydd Llun 20 Gorffennaf, lle bydd cynulleidfaoedd yn cael cyfle i sganio'u Codau QR a thurio dan y rhisgl yng Nghoedwigoedd Glaw Cymru. Chapter yw'r lleoliad cyntaf i Cheryl berfformio ynddo fel cerddor yng Nghymru dros 30 mlynedd yn ôl, felly mae'n deimlad ingol wrth i'w cherddoriaeth ddychwelyd yno ... 
Picture
Picture
Picture
21 Mehefin -  Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
I lansio Symffoni'r Coedwigoedd Glaw CÂN Y COED, bydd Cheryl yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Theatr Botanica gyda chynulleidfa o wahoddedigion. Bydd y cod QR ar gyfer CÂN Y COED yn cael ei ddadorchuddio a'i leoli'n barhaol ar hen goeden dderw lle bydd ymwelwyr yn cael eu cludo i Goedwigoedd glaw Cymru. Bydd y gwesteion hefyd yn cael cyfle i brofi'r symffoni yn eu lleoliad dewisol yn yr Ardd, drwy ddefnyddio cod QR pren Symffoni'r Coedwigoedd Glaw CÂN Y COED, fel y gwelir yn y lluniau uchod.
Picture
22 - 26 Mehefin - Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
Mae CÂN Y COED yn ymuno â Gŵyl Undod Hijinx yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd am 6 diwrnod fel gosodiad lle bydd cynulleidfa o bobl yn cael eu gwahodd i dderbyn Cod QR pren a chyrchu CÂN Y COED yn eu lle dewisol, naill ai yng Nghanolfan Mileniwm Cymru neu allan yn yr awyr agored.
Picture
28 - 29 Mehefin - Canolfan Gelfyddydau ac Arloesedd Pontio - Teithiau Gosodiad CÂN Y COED gyda Gŵyl Undod Hijinx i Bontio ym Mangor
Picture
1/2 Gorffennaf - Theatr  Ffwrnes - Teithiau Gosodiad CÂN Y COED gyda Gŵyl Undod Hijinx i Theatr Y Ffwrnes yn Llanelli, Sir Gâr.
Picture
2 Gorffennaf Canolfan Gelfyddydau'r Pier, Ynysoedd Orkney, Yr Alban
Mae Cheryl rhan o Ymyriad Celfyddydau arloesol o'r enw WAIWAV,  a gynhelir ledled y DU i ddathlu pen-blwydd yn 102 oed Dadafest. Mae ei darn  'Sound heArt' yn gwahodd y gynulleidfa i wrando ar du mewn artist sain amgylcheddol, wrth iddi durio dan risgl y coed a'i hachubodd @ Symffoni'r Coedwigoedd Glaw CÂN Y COED. Bydd Ymyriad Celfyddydau Anabledd WAIWAV yn ymddangos ar y teledu yn genedlaethol.

3 Gorffennaf, LANSIAD LLYFR ARGRAFFIAD ARBENNIG WAIWAV
Fel rhan o'r ymyriad, mae rhifyn arbennig sin/llyfr yn cael ei gyhoeddi, gan gynnwys gwaith Cheryl ymhlith y 30 o artistiaid anabl sy'n cymryd rhan. Mae'r copïau argraffiad cyfyngedig yn eitemau casglwr, a byddant yn cael eu dosbarthu ledled y DU ar y cyd â deunydd cyfeirio yng nghyntedd y 29 o Orielau sy'n cymryd rhan, fel a ganlyn -

Arnolfini Arts Centre, Bryste / Baltic Centre of Contemporary Art, Gateshead / Centre for Contemporary Arts, Glasgow  / Firstsite Art Gallery, Colchester
Oriel Glynn Vivian, Abertawe / Golden Thread Art Centre, Belfast / Grizedale Arts, Conniston / Harris Museum & Art Gallery, Preston / The Hepworth Art Museum, Wakefield / HOME, Manceinion / Ikon Gallery, Birmingham / John Hansard Gallery, Southampton / Leeds Art Gallery / Liverpool Biennial Gallery / MIMA - Middelsbourough Institute of Moden Art / Manchester Art Gallery / MK Gallery, Milton Kenes / Modern Art Oxford / Newlyn Art Gallery / Nottingham Contemporary / Pier Arts Centre, Orkney Islands, Scotland / Site Gallery, Sheffield / Tate Britain, London / Tate Liverpool / Tate Modern, London / Tate Gallery St Ives / Towner , Eastbourn / Turner Contemporary, Kent / VOID Gallery Londonderry, Ireland.


Gwyliwch y gofod hwn am ddyddiadau newydd ... 
Mae Cheryl mewn trafodaeth gyda nifer o leoliadau a digwyddiadau cyffrous a bydd yn rhoi gwybod i chi am y dyddiadau hyn wrth iddynt gael eu cadarnhau. Os hoffech gael sgwrs gyda Cheryl ynglŷn â chynnwys Symffoni'r Coedwigoedd Glaw CÂN Y COED yn eich digwyddiad chi, mae croeso i chi cysylltwch â hi.  - this should be 'gysylltu â hi'. 

Celtic Rainforest Locations
Picture
Commissioned and supported by Unlimited, celebrating the work of disabled artists, with funding from Arts Council of Wales

Picture
Picture
  • HOME
    • Cymraeg
  • #songofthetrees tour
  • Press Pack
  • Blog
  • Symphony Store
  • SOUND ARTIST
    • Addo R & D
    • My Story >
      • Cymraeg
  • Connect