Mae pob un ohonom yn gwybod bod natur yn ein helpu i deimlo'n fwy dynol.
Croeso, f'enw i yw Cheryl Beer. Rwy'n Artist Sain Amgylcheddol ac yn Gyfansoddwr Sianelu, sy'n golygu fy mod yn casglu synau amgylchynol hardd natur, fel caneuon yr adar ac afonydd yn llifo, ond hefyd rwy’n coladu ac yn trawsnodi'r union fiorhythmau o du mewn i'r byd naturiol ac yn eu trosi’n sain ddigidol. Yn eu tro, byddaf yn nodiannu'r rhain i gerddoriaeth gan greu gwaith arloesol, arobryn sy'n gwthio ffiniau ac yn archwilio’r berthynas rhwng lle sonig a barddoneg y ddynoliaeth. Nid dyma'r ffordd rydw i wedi byw erioed. Roeddwn i'n gerddor am fwy na 30 mlynedd nes i mi gael nam ar y clyw yn sydyn 4 blynedd yn ôl. Yn wir, yr hyn â'm rhybuddiodd yn gyntaf fy mod yn colli fy nghlyw, ac yn dioddef o tinitws a hyperacwsis, oedd methu clywed caneuon yr adar. Dysgais o lygad y ffynnon pa mor ddinistriol mae datgysylltu oddi wrth natur yn gallu bod, a hefyd, bod cael eich ailgysylltu yn anhygoel o iachaol. Wrth i mi gael dealltwriaeth ddyfnach o sut mae'r byd naturiol yn meithrin lles, cefais fy ysbrydoli i addasu’r dechnoleg sy'n gyrru fy nheclynnau clywed, gan gyfuno'r celfyddydau â rhyngwynebau defnyddwyr a gwyddor fiofeddygol i gerflunio rhith-sainluniau sy'n ein cysylltu'n reddfol ag ymwybyddiaeth ddyfnach o le. |
Oeddech chi'n gwybod bod gennym goedwigoedd glaw, yma, yng Nghymru?
Mae iddynt ddyddiad carbon o 10,000 o flynyddoedd, a lle roeddynt gynt wedi'u cysylltu â'i gilydd dan y ddaear, wedi ymweu o'r gwreiddyn i'r goedwig drwy’r we fyd-eang wreiddiol, myseliwm, bellach mae'r trysorau mawreddog hyn yng nghalon ein mamwlad wedi'u rhannu a than fygythiad. Y gwir yw, doedden i ddim hyd yn oed yn gwybod bod coedwigoedd glaw yn bodoli yng Nghymru, ond unwaith i mi sylweddoli hyn, teimlais mai fy ngalwedigaeth fel artist sain amgylcheddol oedd eu hailuno, a thrwy wneud hynny, codi ymwybyddiaeth o'u bodolaeth fregus Hoffech chi gysylltu â churiad calon mewnol ein coedwigoedd glaw? Rydyn ni'n dal darn o eco-hanes o bwys byd-eang yn ein dwylo: mae’n drysor yng nghoron Cymru. Dros y 12 mis nesaf, byddaf yn gosod fy offer sain o'r radd flaenaf yng nghanol coedwigoedd glaw Cymru i goladu biorhythmau mewnol y coed, planhigion a'r mwsogl. Mae fy nghomisiwn newydd yn gerflun sain amgylcheddol rhyfeddol, yn rhywbeth na cheisiwyd ei wneud erioed o'r blaen. Mae Cân Y Coed, Song of the Trees yn grymuso natur fel llais newydd i Gymru, na chlywsom erioed mo’i fath. Felly, gwisgwch eich rhith-welintons ac ymunwch â mi yng Nghoedwigoedd Glaw Cymru, i brofi rhai o'r biorhythmau hynaf sy’n dal i fodoli yn y byd naturiol... |
AELOD MYGEDOL O'R 100 O FENYWOD MWYAF ARLOESOL AM EI CHYFRANIAD I'R CELFYDDYDAU ( WWEN : 2020 )
Iacháu Ein Cymuned
Fel Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gorsaf Radio Dementia-Gyfeillgar Atgofion Sain, rwy'n dylunio ac yn cyflawni prosiectau sy’n helpu pobl hŷn i greu eu Hadnoddau Atgofion personol, drwy Naratif Natur a Storïau Bywyd. Mae'r gwaith wedi ennill Gwobr AUR Genedlaethol gan Fforwm Gofal Cymru a’r dyfarniad Cyfraniad Eithriadol i Ddrama gan Brifysgol De Cymru. Yn ogystal, cyhoeddwyd fy Model Grymuso Iechyd mewn erthygl a gyd-ysgrifennwyd gyda Nick Andrews ar gyfer yr International Journal of Storytelling in Health. Derbyniodd Radio Atgofion Sain Wobr Rhagoriaeth yn y Cyfryngau Digidol gan y mudiad Dathlu Celfyddydau a Diwylliant. Mae'n wych bod ein gwaith yn cael ei gydnabod yn y ffordd hon, ond yr hyn sy'n wir bwysig yw'r modd y gallwn drawsnewid bywydau pobl. Yn ystod y pandemig, daeth Atgofion Sain yn adnodd ar-lein ysbrydoledig yn gyflym, ac mae'n parhau i weithio'n galed i ddod â natur iachaol yr awyr agored i'r tu mewn i’r gymuned hŷn.
''Mae Cheryl yn ddyngarwr creadigol. Mae ei phrosiectau gweledigaethol yn hwyluso newid cymdeithasol cynaliadwy
ac maent yn parhau i effeithio ar strategaeth y Celfyddydau ac Iechyd wrth graidd bywyd yng Nghymru. '' |