This is the second in a collection of 4 blogs to journal & share the journey of my professional development in the hope that it may help others who, like me, need to explore innovative solutions when facing challenges within their creative practice.
|
Dyma'r ail o gasgliad o 4 blog a fydd yn cofnodi ac yn rhannu taith fy natblygiad proffesiynol – yn y gobaith y gall helpu pobl eraill sydd, fel finnau, yn gorfod chwilio am atebion arloesol wrth wynebu heriau yn eu hymarfer creadigol.
|
In my last blog, I explained the beginnings of Inclusive Orchestration and how I got to this point. In this blog, I’m excited to say that we have started the work.
The very first thing to organise was contacting everyone involved. You may remember from my first blog that it was quite a big team. Once I had done that, Delyth and I got together for our first sessions. We had a really good chat about the aims of the work and we decided that we would both update our Sibelius music programs. Sibelius is a score writer program developed and released by Sibelius Software Limited. Basically, it enables you to write your compositions onto music staves and then creates fabulous scores, much tidier than my handwritten notation. |
n y blog diwethaf, esboniais sut wnaeth Offeryniaeth Gynhwysol ddechrau a sut wnes i ddod i’r man hwn. Yn y blog hwn, rwy'n falch o ddweud wrthych ein bod ni wedi dechrau'r gwaith.
Y peth cyntaf oll oedd cysylltu â phawb oedd ynghlwm. Efallai byddwch yn cofio yn fy mlog cyntaf fod y tîm yn un eithaf mawr. Ar ôl gwneud hyn, dechreuais innau a Delyth gwrdd ar gyfer ein sesiynau cyntaf. Cawsom sgwrs dda am amcanion y gwaith a phenderfynom y byddem yn diweddaru ein rhaglenni cerddoriaeth Sibelius. Mae Sibelius yn rhaglen ysgrifennu sgoriau a ddatblygwyd ac a ryddhawyd gan Sibelius Software Limited. Yn syml, mae'n eich galluogi i ysgrifennu eich cyfansoddiadau ar erwyddi cerddoroiaeth ac yna creu sgoriau bendigedig, sydd yn llawer mwy taclus na'm nodiant innau wedi'i ysgrifennu â llaw. |
We had a few hiccups with the updates and I called in Aaron Conway a computer science officer in schools across our area. He has installed Sibelius for students across the county and by using a remote app called Team View, he was able to sort everything out for me. I’ve lost count of how many times Aaron has saved my (veggie) bacon over the years.
Technology in place, we set about installing my original composition into Sibelius. Don’t get confused. The program doesn’t do it automatically. You still have to input all the notes. I decided that we would work on a shortened version of the first movement of Cân y Coed. Once I had edited it, I sent the score over to Delyth, who then spotted our first challenge. I composed Cân y Coed Rainforest Symphony on piano across 5 scales but the bass recorder quintet only has 3 scales to work with. In other words, we were short of notes! My choices were to compromise my hyperacusis and put the higher range recorders in, which means I'd be excluded from listening to my own composition OR exploring ways to condense the Symphony into fewer scales, but keeping the integrity of the trees. Remember, every note is transcribed from readings taken beneath the bark. My fear was that by condensing it, we’d be losing the essence of the readings, which are the voices of the trees, particularly with regard to this composition because the data all came from oaks at Coed Llennyrch Rainforest in Maentwrg, North Wales. |
Roedd un neu ddau broblem gyda'r diweddariadau felly gelwais ar Aaron Conway, sy'n swyddog cyfrifiadureg mewn ysgolion ar draws ein hardal. Mae wedi gosod Sibelius i fyfyrwyr ar draws y sir a thrwy ddefnyddio ap pell o'r enw Team View, llwyddodd i drefnu popeth i mi. Dw i wedi colli cyfrif ar sawl gwaith mae Aaron wedi achub fy nghroen ar hyd y blynyddoedd.
Gyda'r dechnoleg yn ei lle, aethom ati i osod fy nghyfansoddiad gwreiddiol yn Sibelius. Peidiwch â drysu. Dydy'r rhaglen ddim yn gwneud hyn yn awtomatig – mae'n rhaid i chi fewnbynnu'r holl nodau o hyd. Penderfynais y byddem yn gweithio ar fersiwn byrrach o symudiad cyntaf Cân y Coed. Ar ôl i mi ei olygu, anfonais y sgôr at Delyth, a gwelodd hithau'r her gyntaf. Cyfansoddais Symffoni'r Coedwigoedd Glaw Cân y Coed ar y piano ar draws 5 graddfa ond dim ond 3 graddfa sydd gan y pumawd recorders bas i weithio â nhw. Mewn geiriau eraill, roedden ni'n brin o nodau! Roedd gen i ddau ddewis – naill ai ildio i fy hyperacusis oherwydd, pe byddem yn cynnwys y recorders ag amrediad uwch, byddai'n golygu na allwn i wrando ar fy nghyfansoddiad fy hun NEU archwilio ffyrdd o gywasgu'r Symffoni i lai o raddfeydd, ond gan gadw’n driw i gân y coed. Cofiwch, mae pob nodyn wedi'i drawsgrifio o ddarlleniadau a gymerwyd dan y rhisgl. Wrth gywasgu, roeddwn i’n ofni y byddem yn colli hanfod y darlleniadau, sef lleisiau'r coed – yn enwedig mewn perthynas â'r cyfansoddiad hwn gan fod yr holl ddata wedi dod o goed derw yng Nghoedwig Law Coed Llennyrch ym Maentwrog, Gogledd Cymru. |
Before moving on, I’d like to show you a quote from Coed Cadw about Coed Felenrhyd. it is a very important rainforest. it’s not just ecologically important it’s culturally significant, too.
‘Coed Felenrhyd is mentioned by name (Melenrhyd, Y Felen Rhyd) in the famous collection of Welsh legends, the Mabinogion, as the last resting place of Pryderi, King of Dyfed, who was killed in single combat with Gwydion the trickster. These tales were written in the 12th century, but the oral tradition is much older. Walks through Coed Felenrhyd trace some of the adventures of the famous Welsh mercenary and magician – Huw Llwyd. At the height of his fame, people who were plagued with demons would be publicly exorcised by Huw at his famous pulpit – a massive rock in the middle of the River Cynfal – which is still there today.’ – Coed Cadw The readings that I used to compose the Symphony are from saplings guzzling by the river, through to the enormous and oldest oaks in the rainforest. Therefore, this first movement that we are working on, is called ‘Lifecycle of an Acorn.’ Let’s get back to Inclusive Orchestration and what to do about my scale dilemma. Obviously, this research and development is focussed on inclusivity, so Delyth & I decided to attempt the latter option, which is to condense the composition into 3 scales. |
Cyn symud ymlaen, hoffwn ddangos dyfyniad i chi gan Goed Cadw ynglŷn â Choed Felenrhyd. Mae'n goedwig law bwysig iawn nid yn unig am ei harwyddocâd ecolegol ond am ei bod yn nodedig yn ddiwylliannol, hefyd.
‘Cyfeirir at Goed Felenrhyd wrth ei henw (Melenrhyd, Y Felen Rhyd) yn y casgliad enwog o chwedlau Cymreig, y Mabinogi, fel man gorffwys olaf Pryderi, Brenin Dyfed, a laddwyd mewn gornest gyda Gwydion y twyllwr. Ysgrifennwyd y straeon hyn yn y 12fed ganrif, ond mae'r traddodiad llafar yn hŷn o lawer. Mae'r llwybrau cerdded trwy Goed Felenrhyd yn olrhain anturiaethau'r hurfilwr a'r dewin Cymreig enwog, Huw Llwyd. Ar anterth ei enwogrwydd, byddai Huw yn gwella pobl drwy fwrw allan gythreuliaid yn gyhoeddus ar ei bulpud enwog – y graig anferth yng nghanol Afon Cynfal, sydd yno hyd heddiw.’ – Coed Cadw Mae'r darlleniadau a ddefnyddiais i gyfansoddi'r Symffoni yn amrywio o lasbrennau’n llowcio ger yr afon, i'r coed derw mwyaf a hynaf yn y goedwig law. Felly, y symudiad cyntaf rydyn ni'n gweithio arno yw ‘Cylch Bywyd Mesen’. Yn ôl a ni felly at Offeryniaeth Gynhwysol a beth i'w wneud ynglŷn â phenbleth y raddfa. Gan fod cynwysoldeb yn elfen flaenllaw yn y gwaith ymchwil a datblygu hwn, penderfynodd Delyth a minnau fynd am yr ail opsiwn, sef cywasgu'r cyfansoddiad i 3 graddfa. |
Once edited on Sibelius, Delyth came over to my studio and I recorded her playing all 5 parts on the different recorders. We used the incredible contrabass, which is a huge bass recorder, C Bass recorder and finally tenors, which you are probably more familiar with and likely encountered at school. They have the same finger placement for notes as the descant.
Recording all the parts live, enabled me to play back the condensed piece through my adapted audio system to hear how it sounds in real time with all 5 parts, before we commit to this method for the whole first movement. I could have played it back in Sibelius, but we found out very early on, that the sound of the electronic woodwind section is not compatible with my hearing. Besides, it felt important to know what it felt like in the live context. Just an aside here, I would like to say thank you to Unlimited who last year funded my new computerised home studio & individually tailored 1:1 training in how to use it with John Rolls, the founder & Director of Showboat TV in Pembrokeshire, which is how I am able to be the sound engineer for us. What a tremendous time Delyth and I had, recording the recorders. I find it much quirkier having the 5 recorder voices rather than the 1 piano, almost jazz-like in places and I love how even though it’s still one melody, it is played on different instruments according to the range and that makes it feel like all the different trees singing out. I’ve put a rough sketch below of our first take which still have the click track in it – but it will give you an idea of how it might sound later. |
Wedi i mi olygu hyn ar Sibelius, daeth Delyth i'm stiwdio a recordiais hi'n chwarae'r 5 rhan ar recorders gwahanol. Defnyddiom fas dwbl anhygoel, sef recorder bas anferth, recorder bas C, ac yn olaf recordwyr tenor a fydd yn fwy cyfarwydd i chi efallai ac y byddwch wedi dod ar eu traws yn yr ysgol. Mae ganddynt yr un lleoliad bysedd â'r desgant o ran nodau.
Wrth recordio'r holl rannau'n fyw, roeddwn yn gallu chwarae'r darn wedi'i gywasgu yn ôl drwy fy system sain addasedig i glywed sut mae'n swnio mewn amser real gyda'r 5 rhan, cyn i ni ymrwymo i'r dull hwn ar gyfer y symudiad cyntaf i gyd. Gallwn fod wedi ei chwarae’n ôl yn Sibelius, ond sylweddolom yn gynnar iawn nad yw sain yr adran chwythbrennau electronig yn gydwedd â'm clyw. A hefyd, roedd yn bwysig gwybod sut oedd yn teimlo mewn cyd-destun byw. Gyda llaw, hoffwn roi diolch yma i Unlimited a ariannodd fy stiwdio gyfrifiadurol newydd yn fy nghartref a’r hyfforddiant 1:1 ar sut i'w defnyddio gan John Rolls, sylfaenydd a Chyfarwyddwr Showboat TV yn Sir Benfro – dyna sut rydw i'n gallu bod yn beiriannydd sain ar gyfer y gwaith hwn. Cefais innau a Delyth amser anhygoel yn recordio'r recorders. Dwi'n meddwl bod y 5 llais recorder yn hytrach nag 1 piano yn swnio’n reit fympwyol, bron fel jazz mewn rhai mannau, ac rwy'n dwli ar y ffaith mai un gainc yw hi o hyd er ei bod yn cael ei chwarae ar wahanol offerynnau yn ôl yr amrediad ac mae hyn yn creu’r argraff bod yr holl goed gwahanol yn canu. Gallwch weld braslun isod o'n cynnig cyntaf – mae'r trac clicio ynddo o hyd, ond bydd yn rhoi syniad i chi o sut gallai swnio'n ddiweddarach. |
This has made me re-think my original ideas, as I could envisage many recorder players playing this one, divided melody of many voices from different locations, either in a gallery, or more deliciously, in the rainforests themselves: Singing the Song of the Trees back to the Rainforest through wood & breath.
Delyth has cleverly shown me how, by dropping octaves we can keep the voice of the trees AND stay within a safe range for my hyperacusis. I was quite chuffed that I was able to record all 5 parts. I couldn't hear the metronome, so Delyth waved when it was time to stop recording. These small & yet important lessons will shape the way I develop my practice going forward, but I think the most important thing is the kindness & generosity of heart by Delyth Holland who is, for me, the Wonder Woman of recorders & yet so quietly unassuming that it makes working with her even more beautiful. After she went home, I spent the next few days mixing the 5 recorders. This is tricky for me because I can’t really hear it properly, not even with my hearing aids in and my adapted speakers, but for our purposes, which is for me to see how it feels condensed, it is fine. If I were to record the end piece with the quintet, I would look to bring in a hearing sound engineer to help me with placings, because I think it would be really cool to have the different recorder/tree voices coming left, right & mid in the spectrum of sound; for sure it would make it even more Avant guard. In terms of this mix, I boosted the bass, took out some mid-range, boosted the very top end and then placed all five recorders in a great hall, using the effects edits in Adobe. Although the effect is called great hall, I’d rather like to think of it as the ambience you might get when at the top of the rainforest singing out over the valley. I’ve written an Action Plan for Delyth based on our sessions so far, so that we know what our journey is between now and the end of June when I will be meeting up with the Bass recorder Quintet to try out our work to date. At that point, we’ll review to see what will be the next phase of the work together, likely looking at putting a bass line for the contrabass, but I don’t want to jump ahead of myself. For now, I am so happy with how things are going and utterly grateful to the Arts Council of Wales for funding this work through the Creative Steps program. In my dreams, there are hundreds of recorder players performing Cân y Coed Rainforest Symphony, singing out the voice of the rainforests engaging even more people in the importance of our fragile ecologies and our vulnerability as part of them, but for now, I am taking one step at a time and trusting the pathway laid out upon the rainforest floor. Video: Scottish Recorder Orchestra @2019
|
Mae hyn wedi gwneud i mi ailfeddwl fy syniadau gwreiddiol gan y gallwn ddychmygu llawer o chwaraewyr recorders yn chwarae’r un gainc ranedig hon gyda llawer o leisiau o wahanol leoliadau, naill ai mewn oriel, neu'n fwy bendigedig, yn y coedwigoedd glaw eu hun: Canu Cân y Coed yn ôl i'r Goedwig Law yn defnyddio pren ac anadl.
Mae Delyth wedi dangos i mi yn fedrus sut i ostwng yr wythfedau er mwyn gall cadw llais y coed YNGHYD Â chadw o fewn amrediad diogel ar gyfer fy hyperacusis. Roeddwn mor falch ‘mod i wedi gallu recordio'r 5 rhan. Doedden i ddim yn gallu clywed y metronom, felly byddai Delyth yn codi ei llaw pan oedd yn amser i stopio recordio. Bydd y gwersi bach, ond pwysig, hyn yn llywio sut fyddaf yn datblygu fy arfer o hyn ymlaen ond dwi'n meddwl mai'r peth pwysicaf yw caredigrwydd a rhadlondeb Delyth Holland, sy'n Wyrthwraig recorders yn fy marn i, ond sydd mor dawel ddiymhongar nes bod gweithio gyda hi yn bleser anferth. Ar ôl iddi fynd adref, treuliais y diwrnodau nesaf yn cymysgu'r 5 recorder. Mae hyn yn anodd i mi gan na allaf ei glywed yn iawn, hyd yn oed gyda fy nheclynnau clyw a'm seinyddion wedi'u haddasu. Ond at ein dibenion ninnau, sef caniatáu i mi weld sut mae'n teimlo pan fydd wedi'i gywasgu, mae'n iawn. Pe byddwn yn recordio’r darn olaf gyda’r pumawd, byddwn yn gofyn i beirianydd sain fy helpu gyda'r lleoliadau, oherwydd dwi'n meddwl y byddai'n cŵl iawn cael y gwahanol leisiau recorders/coed yn dod o'r chwith, o’r dde a'r canol yn y sbectrwm sain. Yn wir byddai hyn yn golygu ei fod yn fwy avant-garde nag erioed. Yn nhermau'r cymysgiad hwn, chwyddais y bas, cefais wared â rhai o'r amrediad canol, chwyddais y rhan uchaf oll ac yna gosod y pum recorder mewn neuadd fawr, gan ddefnyddio'r effeithiau sain yn Adobe. Er y gelwir yr effaith yn ‘neuadd fawr’, mae'n well gen i feddwl amdano fel y naws y gallech ei theimlo yn rhan uchaf y goedwig law yn canu dros y dyffryn. Rydw i wedi ysgrifennu Cynllun Gweithredu i Delyth ar sail ein sesiynau hyd yn hyn fel y byddwn yn gwybod sut fydd ein taith rhwng nawr a diwedd Mehefin pan fyddaf yn cwrdd y Pumawd Recorders Bas i roi prawf ar ein gwaith hyd yma. Ar yr adeg honno, byddwn yn adolygu cam nesaf y gwaith gyda'n gilydd, ac efallai gosod llinell fas ar gyfer y bas dwbl – ond dw i ddim eisiau edrych yn rhy bell. Am nawr, rwy'n fodlon iawn ar sut mae pethau'n mynd ac yn gwbl ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am ariannu'r gwaith hwn trwy'r rhaglen Camau Creadigol. Yn fy mreuddwydion, mae cannoedd o chwaraewyr recorders yn chwarae Symffoni'r Coedwigoedd Glaw Cân y Coed, yn canu llais y coedwigoedd glaw i ysgogi mwy o bobl i ddeall pwysigrwydd ein hecolegau bregus a'n breuder ninnau fel rhan ohonynt. Ond am nawr, rwy'n cymryd un cam ar y tro ac yn ymddiried yn y llwybr sy'n ymagor ar lawr y goedwig law. |
In my next blog, I’ll be talking about how we introduced the Quintet to the piece and whether we faced any challenges. Meanwhile, if you’d like more regular updates, why not add me as a friend on Facebook.
Thankyou for taking an interest in my work. Your feedback matters to me, so if you have any comments, please feel free to contact me HERE. Thankyou. |
Yn fy mlog nesaf, byddaf yn disgrifio sut cyflwynom y darn i'r Pumawd a ph'un ai ymgododd unrhyw heriau. Yn y cyfamser, os hoffech gael diweddariadau mwy rheolaidd, beth am fy ychwanegu fel ffrind ar Facebook.
Diolch am ddangos diddordeb yn fy ngwaith. Mae eich adborth yn bwysig i mi, felly os oes gennych unrhyw sylwadau, mae croeso i chi gysylltu â mi YMA. Diolch yn fawr. |