Inclusive Orchestration Part 1 of 4 |
Offeryniaeth Gynhwysol: Rhan 1 o 4 |
This is the first in a collection of 4 blogs to journal & share the journey of my professional development in the hope that it may help others who, like me, need to explore innovative solutions when facing challenges within their creative practice.
Introduction For 18 months, my Rainforest Symphony, Cân y Coed / Song of the Trees has been touring internationally, raising awareness of fragile ecologies through music composed from the biorhythms beneath the bark of trees. You can read about Cân y Coed by browsing back through my blog posts. In December 2023, Cân y Coed completed the tour by exhibiting at the Houses of Parliament & the Inaugural Festival of Silence adjacent to Hyde Park. From the start, I had set a clear intention: to empower the rainforests of Wales so that they can raise awareness of themselves, through their own voice. The global reach of the tour that unfolded was way beyond anything I could have imagined. However, I have a dream that drives me further with the work, to engage musicians with the Symphony so that ensembles can come together and play the Song of the Trees, almost as if they are rainforests themselves. The problem is that I composed Cân y Coed on a single instrument, the piano. I did this to tailor around my hyperacusis, a condition that is associated with my hearing loss and tinnitus. It means that I am excluded from Orchestrated music because literally one instrument might trigger the hyperacusis and render me very unwell. It feels like chalk squeaking down a blackboard. My central nervous system responds aggressively but instead of it being just for the duration of the sound, the feeling stays with me. Recently, I had a 4-week spike which meant I couldn’t even speak without it being painful. |
Dyma'r cyntaf o gasgliad o 4 blog a fydd yn cofnodi a rhannu taith fy natblygiad proffesiynol – yn y gobaith y gall helpu pobl eraill sydd, fel finnau’n gorfod chwilio am atebion arloesol wrth wynebu heriau yn eu hymarfer creadigol.
Cyflwyniad Ers 18 mis, mae fy Symffoni'r Coedwigoedd Glaw, Cân y Coed / Song of the Trees wedi bod yn teithio'n rhyngwladol, gan godi ymwybyddiaeth o ecolegau bregus trwy gerddoriaeth a gyfansoddwyd o'r biorhythmau dan risgl coed. Gallwch ddarllen am Gân y Coed drwy bori trwy fy mhostiadau blog blaenorol. Yn Rhagfyr 2023, gorffennodd taith Cân y Coed drwy arddangos yn y Senedd yn Llundain ac yn yr Ŵyl Dawelwch Agoriadol gerllaw yn Hyde Park. O'r cychwyn cyntaf, roeddwn wedi pennu bwriad clir, sef grymuso coedwigoedd glaw Cymru fel y gallant godi ymwybyddiaeth o'u hunain trwy eu llais eu hun. Roedd cyrhaeddiad byd-eang y daith a ddilynodd ymhell y tu hwnt i unrhyw beth y byddwn wedi'i ddychmygu. Fodd bynnag, mae gen i freuddwyd sy'n fy ngyrru ymhellach gyda'r gwaith – i ennyn diddordeb cerddorion yn y Symffoni fel y gall ensembles ddod at ei gilydd a chwarae Cân y Coed, bron fel pe byddent yn goedwigoedd glaw eu hunain. Y broblem yw fy mod wedi cyfansoddi Cân y Coed ar un offeryn, y piano. Gwnes i hyn i ymaddasu â’m hyperacusis, cyflwr sy'n gysylltiedig â cholli fy nghlyw a chael tinitws. Mae'n golygu nad wyf yn gallu cymryd rhan mewn cerddoriaeth Offerynnol oherwydd gallai ond un offeryn yn llythrennol sbarduno'r hyperacusis a'm gwneud yn anhwylus iawn. Mae'n teimlo fel sialc yn crafu ar fwrdd du. Mae fy mhrif system nerfol yn ymateb yn gryf iawn, ond yn hytrach na phara dim ond nes i'r sŵn stopio, mae'r teimlad yn aros gyda mi. Yn ddiweddar, cefais sbigyn a barodd pedair wythnos a olygai nad oeddwn yn gallu siarad hyd yn oed am ei fod mor boenus. |
Last year, I took a brave step and with funding from Ty Cerdd, the Music Centre for Wales, I went into their studio at the Millennium Centre, Cardiff and experimented with different instruments to see which might be compatible with my hearing. Finding that the bass recorders were compatible and that I could actually hear them, was so moving and it helped me formulate a plan.
Devising the Method What if I could find a way to devise an inclusive orchestration method that enabled me to arrange Cân y Coed for 5 bass recorder parts … that way, I would still be included in the development of my composition for ensembles. I reached out to two industry professionals to see if they could help. Delyth Holland is a recorder player & teacher. She is Music Director for the Wales branch of the Society of Recorder Players, arranging & conducting sheet music for national and international performance. We had a meeting and she very kindly agreed to offer me one to one mentoring, working together to find an individually tailored way forward. Deaf musician & composer Lloyd Coleman is the Associate Music Director with the Paraorchestra. He is Chair of the Classical Council of the Ivors Academy, a judge for BBC Young Composer of the Year & a presenter for the BBC Proms. Lloyd very kindly agreed to oversee the sheet music for us, offering advice and guidance at certain points as we travel through the process. Testing the composition
But how will we test the piece? Delyth agreed to organise a Quintet of bass recorders players. As an ensemble, we will meet on 4 occasions to test the composition live. That way, I will know if it is causing any resonance or disruption to my hyperacusis. Where will we practice? Eleanor Shaw is the Director and Founder of People Speak Up based at Fwrnes Fach, a converted chapel adjoined to Y Fwrnes, a beautiful new theatre here, in Llanelli. I’m so grateful to Eleanor; she offered venue space and supervision for the 4 practice sessions in-kind – which in short, means that People Speak Up are funding the cost of the venue hire. Funding Now, I needed to work out how to fund the total cost of the work. Creative Steps is a strand of funding from the Arts Council of Wales. It aims to support artists, creatives, and organisations who face barriers & need support throughout their developmental journey. You can apply for the Individual strand if you are an artist or creative who identifies as being ethnically and culturally diverse, as Deaf, disabled and/or neurodivergent, or as someone who has experienced racism or discrimination. I arranged a meeting with my ACW Arts Development Officer, Suzanne Griffiths Rees, and we had a conversation. She was so supportive and advised me to apply. Sharing the Journey Whilst bringing everything together, I realised that in sharing my journey, I may be able to help others feel brave enough to face the challenges in their own professional development. Without this funding, my vision for my work would have reached a dead end. Now, I can push the boundaries and focus on solution-based ways forward instead. I decided to write 4 blogs with pictures & video, and to help distribute them, I contacted Ty Cerdd, the Music Centre for Wales mentioned earlier and also Disability Arts Cymru who support the disabled arts community across the country. Both agreed to disseminate my blogs through their newsletters across Wales. |
Y llynedd, cymerais gam dewr, a gyda chyllid gan Dŷ Cerdd, Music Centre Wales, es i'w stiwdio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ac arbrofi gyda gwahanol offerynnau i weld pa rai allai fod yn gydwedd â'm clyw. Roeddwn yn llawn cynnwrf pan sylweddolias bod y recorders bas yn gydwedd a 'mod i'n gallu eu clywed go iawn – helpodd hyn fi i ffurfio cynllun.
Dyfeisio'r Dull Beth pe baswn yn gallu dod o hyd i ffordd o ddyfeisio dull sgorio cynhwysol a fyddai'n fy ngalluogi i drefnu Cân y Coed ar gyfer 5 rhan recorder … fel hynny, byddwn yn dal i chwarae rhan yn natblygiad fy nghyfansoddiad ar gyfer ensembles. Cysylltais â dau gerddor proffesiynol yn y diwydiant i weld a allent helpu. Mae Delyth Holland yn athrawes ac yn chwaraewr recorder. Mae hi'n Gyfarwyddwr Cerddoriaeth i gangen Cymru Cymdeithas y Chwaraewyr Recorders, ac yn trefnu ac yn arwain cerddoriaeth ddalen ar gyfer perfformiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Cawsom gyfarfod, a bu mor garedig â chynnig mentora un i un i mi, gan gydweithio i chwilio am ffordd ymlaen wedi’i theilwra'n at fy angenhion. Mae'r cerddor a'r cyfansoddwr byddar Lloyd Coleman yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Cysylltiol gyda'r Paragerddorfa. Mae'n Gadeirydd Cyngor Clasurol Academi Ivor, yn feirniad ar gyfer Cyfansoddwr Ifanc y Flwyddyn y BBC ac yn gyflwynydd i’r BBC Proms. Cynigiodd Lloyd yn garedig i arolygu'r gerddoriaeth ddalen i ni, gan gynnig cyngor ac arweiniad ar bwyntiau penodol wrth i ni deithio trwy'r broses. Rhoi’r cyfansoddiad ar brawf
Ond sut allen ni roi'r darn ar brawf? Cytunodd Delyth i drefnu Pumawd o chwaraewyr recorders bas. Fel ensemble, byddwn yn cwrdd 4 gwaith i brofi'r cyfansoddiad yn fyw. Fel hyn, byddaf yn gwybod a yw'n achosi unrhyw atsain neu aflonyddwch i’m hyperacusis. Ble byddwn ni'n ymarfer? Mae Eleanor Shaw yn Gyfarwyddwr a Sylfaenydd People Speak Up yn Ffwrnes Fach, sef capel wedi'i addasu wrth ochr theatr newydd hardd Y Ffwrnes, yma, yn Llanelli. Rydw i mor ddiolchgar i Eleanor: cynigiodd fan cyfarfod a goruchwyliaeth ar gyfer 4 sesiwn ymarfer – sy'n golygu yn gryno bod People Speak Up yn talu’r gost am hurio’r man cyfarfod. Cyllid Yn nesaf, roedd angen i mi weithio allan sut i gyllido holl gost y gwaith. Mae Camau Creadigol yn ffrwd gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Ei nod yw cefnogi artistiaid, creawdwyr a sefydliadau sy'n wynebu rhwystrau ac sydd angen cymorth ar hyd eu taith ddatblygiadol. Gallwch wneud cais am y ffrwd Unigolyn os ydych yn artist neu greawdwr sy'n ei nodi ei hun yn berson ethnig neu ddiwylliannol amrywiol, fel pobl Fyddar, anabl ac/neu niwrowahanol, neu’n rhywun sydd wedi profi hiliaeth neu wahaniaethu. Trefnais gyfarfod gyda fy Swyddog Datblygu'r Celfyddydau CCC, Suzanne Griffiths Rees, a chawsom sgwrs. Roedd hi mor gefnogol ac awgrymodd ‘mod i’n gwneud cais. Rhannu'r Daith Wrth i mi ddod â phopeth at ei gilydd, sylweddolais y gallai rhannu fy nhaith helpu pobl eraill i deimlo'n ddigon dewr i wynebu'r heriau yn eu datblygiad proffesiynol nhw. Heb y cyllid hwn, byddai fy ngweledigaeth ar gyfer fy ngwaith wedi methu. Nawr, gallaf wthio'r ffiniau a chanolbwyntio ar ffyrdd ymlaen sy'n chwilio am atebion. Penderfynais ysgrifennu 4 blog gyda lluniau a fideo, ac i helpu i'w dosbarthu, cysylltais â Thŷ Cerdd, Music Centre Wales, y soniais amdano’n gynharach, a hefyd Celfyddydau Anabledd Cymru sy'n cefnogi'r gymuned celfyddydau anabl ar draws y wlad. Cytunodd y ddau i ddosbarthu fy mlogiau trwy eu cylchlythyrau ar draws Cymru. |
Welsh Language
It felt really important therefore, that the blogs are translated into Welsh language. I contacted Fusion Carmarthenshire, who kindly contributed the cost of the Welsh translation and then contacted Joy Davies, a Welsh language translator that I use regularly. Access There was just one part of the jigsaw missing. I need a palantypist for my Zoom meetings with Lloyd. A palantypist types the voices of everyone in the Zoom meeting, in real time. So, I applied under the Access section of the Creative Steps application for a palantypist. Summary The following summary shows clearly how Creative Steps has enabled me to build a fantastic team around me in terms of overcoming the barriers my hyperacusis presents to my professional development as a composer for ensembles -
NEXT TIME In my next blog, I’ll be telling you all about the first hurdles Delyth and I faced and how we found solutions to overcome them. Meanwhile, for more regular updates why not add me as a friend on Facebook. Thankyou for your interest in my work. If you have any feedback regarding this blog post I’d love to hear from you and will always reply. You can contact me HERE. |
Y Gymraeg
Roeddwn yn teimlo'i bod yn bwysig iawn bod y blogiau'n cael eu cyfieithu i'r Gymraeg. Cysylltais â Fusion Sir Gâr, a fu mor garedig â chyfrannu cost y cyfieithu, ac yna cysylltais â Joy Davies, y cyfieithydd Cymraeg a ddefnyddiaf yn rheolaidd. Mynediad Ond roedd un rhan o'r jig-so yn eisiau o hyd. Roedd angen palandeipydd arnaf ar gyfer fy nghyfarfodydd Zoom gyda Lloyd. Mae palandeipydd yn teipio lleisiau pawb yn y cyfarfod Zoom, mewn amser real. Felly gwnes gais am balandeipydd dan adran Mynediad y cais Camau Creadigol. Crynodeb Mae'r crynodeb canlynol yn dangos yn glir sut mae Camau Creadigol wedi fy ngalluogi i adeiladu tîm anhygoel o’m cwmpas yn nhermau goresgyn y rhwystrau mae fy hyperacusis yn eu creu i'm datblygiad proffesiynol fel cyfansoddwr ensembles -
Y TRO NESAF Yn fy mlog nesaf, byddaf yn dweud wrthych am y rhwystrau cyntaf a wynebodd Delyth a minnau, a sut ddaethom o hyd i atebion i'w goresgyn. Yn y cyfamser, am ddiweddariadau mwy rheolaidd, beth am fy ychwanegu fel ffrind ar Facebook. Diolch yn fawr am eich diddordeb yn fy ngwaith. Os oes gennych unrhyw adborth ynghylch y blog hwn, byddwn wrth fy modd yn clywed gennych a byddaf bob amser yn ateb. Gallwch gysylltu â mi YMA. |