Cheryl Beer
  • HOME
    • Cymraeg
  • #songofthetrees tour
    • Press Pack
  • Blog
  • Symphony Store
  • SOUND ARTIST
    • Addo R & D
    • My Story >
      • Cymraeg
  • Work with me
  • Connect
WORLD CUP 2022 PODCAST : PRESS PLAY

​''We are proud to have Cheryl Beer as part of our Garden of Great.
A celebration of the incredible talent cultivated by the UK
’s fresh way of thinking. ''

                                                                                                                              Alex Tucker, Senior Campaigns & Partnership Manager at The Prime Minister's Office for GREAT

I AM AT THE WORLD CUP

​Hello friends, I have got some AMAZING NEWS to share with you, so instead of writing a post I thought I'd tell you in person - !!!!!!!!!!!! in Qatar, in Saudi Arabia. WHAT! WHAT! I hear you say. Let me tell you how it happened ...
​
 Couple of weeks ago, I had an email from the Prime Minister's Office from a department called GREAT Britain & they are putting together the celebrations for the WORLD CUP in Qatar, looking for artists to represent Wales & England, because they are in the WORLD CUP & what they have decided to do is build an incredible garden to represent the diversity of Britain, particularly Wales & England, & so, they wrote to me to say would I be interested in having a conversation about featuring Can Y Coed Rainforest Symphony to represent Great Britain & Wales at the WORLD CUP in Qatar! And so, we had a meeting ...
They also cc'd into that email Lowri at Welsh Gov.t & Eluned, the Director of Wales Arts International, who, bless her, immediately write back & said that she 100% endorsed my work & that she had the great privilege to come to my launch that she could vouch for & be very pleased to support the work. So, THANKYOU SO MUCH for doing that. What a fantastically supportive team they are at Wales Arts International, thank you so much.

 As soon as they received Eluned's email, from Alex at the Prime Minister's Office, can we all jump on & have a Teams meeting. So we did, The Welsh Gov.t, Wales Arts International, the GREAT project at the Prime Minister's Office & little ol' me! So, we had a discussion about how it might work & within this garden that they are planting to represent Great Britain, they are installing a tree, which will stay insitu, in Qatar, in the Gardens & my work will be displayed at the tree. I've sent them a large wooden QR Code version of my Rainforest Symphony ...
So, they can scan in to listen & watch the work & there will also be a big information stand with a photograph of me, saying all about my work & who I am & how it all works & everything.

Basically, this Garden will be open to all of the Sports aficionados, foreign dignitaries, global dignitaries, famous people, the footballers, all of the special guests, 10's of thousands of people from all over the world - & here I am. It's just me. It's just little ol ‘me. How did that happen? So, I really wanted to share that with you, because many of you know what this 5-6 years has been like, since waking up with sudden hearing loss & trying to live with severe tinnitus & a sound sensitivity known as Hyperacusis. Lots of you know that there was a time I couldn't come out of my bedroom ...

My work is going off to represent not just Wales, but also Great Britain. I'm so proud, not so much of myself, but I'm so proud to have made this platform for the trees, for the rainforests themselves to reach out their mycelium across the world for people to - you know I want to raise awareness nature in distress & I've enabled this love letter from the rainforests to reach out around the world in ways that I could only - I could never - if you said to me, 'Do you think your work would be exhibited at the World Cup? Er ... No, I would never have thought that would happen. But it is happening. So, yeah - WOW -Thanks, thank you so much, all of you, for your love & support & believing in me even when I doubted myself.
Picture
Picture
Picture

​RWY'N MYND I GWPAN Y BYD

​Helo ffrindiau, mae gen i NEWYDDION ANHYGOEL i'w rhannu gyda chi, felly yn lle ysgrifennu postiad, penderfynais ddweud wrthych mewn person – RWY'N MYND I GWPAN Y BYD!!!!!!!!!!!! yn Qatar, yn Saudi Arabia. BETH! BETH! fe'ch clywaf yn dweud. Gadewch i mi esbonio sut ddigwyddodd ...

Wythnos neu ddwy yn ôl, cefais e-bost o Swyddfa'r Prif Weinidog, gan adran o'r enw GREAT Britain. Maen nhw'n trefnu'r dathliadau ar gyfer CWPAN Y BYD yn Qatar ac yn chwilio am artistiaid i gynrychioli Cymru a Lloegr am fod y ddwy wlad yn cymryd rhan yng NGHWPAN Y BYD. Maen nhw wedi penderfynu creu gardd anhygoel i gynrychioli amrywiaeth Prydain, yn enwedig Cymru a Lloegr, felly ysgrifennon nhw ataf yn gofyn a fyddwn i’n hoffi cael sgwrs ynglŷn â chynnwys Symffoni'r Coedwigoedd Glaw Cân y Coed i gynrychioli Cymru a Phrydain Fawr yng NGHWPAN Y BYD yn Qatar! Ac felly y bu, cawson ni gyfarfod ...

Copïon nhw'r e-bost i Lowri yn Llywodraeth Cymru, ac i Eluned, Cyfarwyddwr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, ac atebodd hon yn syth gan ddweud ei bod yn cefnogi fy ngwaith 100%. Dywedodd ei bod wedi cael y fraint o ddod i fy lansiad ac y byddai'n falch iawn o warantu'r gwaith. Felly DIOLCH YN FAWR IAWN am wneud hyn. Mae tîm Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn anhygoel o gefnogol, diolch o galon.

Cyn gynted ag y derbynion nhw e-bost Eluned, awgrymodd Alex yn Swyddfa'r Prif Weinidog ein bod yn cael cyfarfod Timau. Ac felly y bu – Llywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, y prosiect GREAT yn Swyddfa'r Prif Weinidog, a minnau fach. Trafodom sut gallai pethau weithio yn yr ardd maen nhw'n ei phlannu i gynrychioli Prydain Fawr. Maen nhw'n plannu coeden a fydd yn aros yno yn y gerddi yn Qatar, a bydd fy ngwaith yn cael ei arddangos ar y goeden. Rydw i wedi anfon fersiwn mawr o’r cod QR pren ar gyfer fy Symffoni'r Coedwigoedd Glaw atyn nhw ...

Gallan nhw ei sganio a chlywed a gwylio'r gwaith, a bydd stondin wybodaeth fawr yno hefyd gyda llun ohonof, yn esbonio fy ngwaith, pwy ydw i a sut mae'r cyfan yn gweithio.

Yn syml, bydd yr Ardd hon yn agored i'r holl ddilynwyr Chwaraeon, urddasolion estron, urddasolion byd-eang, enwogion, y chwaraewyr pêl-droed, yr holl westeion arbennig, a degau o filoedd o bobl o bob cwr o’r byd – ac felly dyma fi. Dim ond y fi. Dim ond minnau fach. Sut yn y byd wnaeth hyn ddigwydd? Roedden i wir eisiau rhannu hyn gyda chi, gan fod llawer ohonoch yn gwybod beth sydd wedi digwydd dros y 5-6 blynedd diwethaf ers i mi ddeffro wedi colli fy nghlyw yn sydyn a cheisio byw gyda tinitws difrifol a sensitifrwydd i sŵn o'r enw Hyperacusis. Mae llawer ohonoch yn gwybod am y cyfnod pan nad oeddwn yn gallu dod allan o'm hystafell wely hyd yn oed ...
​
A nawr, mae fy ngwaith yn mynd i gynrychioli nid yn unig Cymru, ond Prydain Fawr hefyd. Rydw i mor falch, nid cymaint dros fy hunan, ond dw i mor falch o fod wedi gallu creu'r platfform hwn ar gyfer y coed, ar gyfer y coedwigoedd glaw eu hun, fel y gallant estyn eu myceliwm i bobl ar draws y byd. Rydych chi’n gwybod mod i eisiau codi ymwybyddiaeth o natur mewn cyfyngder, ac rydw i wedi cael cyfleoedd i anfon y llythyr cariad hwn gan y coedwigoedd at bobl ledled y byd mewn ffyrdd na fyddwn i erioed wedi dychmygu. Pe byddech wedi dweud wrthyf ‘Wyt ti'n meddwl y byddai dy waith yn cael ei arddangos yng Nghwpan y Byd?’ Yym ... Na. Fyddwn i fyth wedi meddwl y gallai hyn ddigwydd. Ond mae'n digwydd! Ac felly – WAW – diolch, diolch o galon i bob un ohonoch am eich cariad a'ch cefnogaeth ac am gredu ynof hyd yn oed pan oeddwn yn fy amau fy hunan.
  • HOME
    • Cymraeg
  • #songofthetrees tour
    • Press Pack
  • Blog
  • Symphony Store
  • SOUND ARTIST
    • Addo R & D
    • My Story >
      • Cymraeg
  • Work with me
  • Connect