Wedi ei gyfieithu gan Joy Davies
(Mae Cheryl yn siarad)
Cheryl Beer yw f'enw i. Rydw i’n Artist Sain Amgylcheddol â nam ar y clyw. 4 blynedd yn ôl dihunais gyda thinitws a hyperacwsis. Drwy fy nheclynnau clywed gan y GIG, adferwyd fy mywyd i mi, a dysgais dros fy hunan pa mor bwysig yw sain Amgylcheddol i les pobl.
Nod fy Mentoriaeth Ymchwil a Datblygu Addo oedd creu celfyddyd gyhoeddus drwy ail-bwrpasu amledd sbectrol, sef y dechnoleg mewn teclynnau clyw, trwy ddelweddu sain. Gwnes recordiadau o'r penllanw y tu ôl i'r amddiffynfeydd rhag llifogydd ar Lwybr Arfordir y Mileniwm. Wedyn fe'u trosais i amledd sbectrol ac amgáu stori ein harfordir erydog mewn gwydr mosaig
Defnyddir amledd sbectrol mewn technoleg teclynnau clyw am ei fod yn mesur gweadau sain. Yma, felly, yn y gwydr mosaig, mae marc yn sŵn gwahanol gan ddangos y rhai na allwch eu clywed hyd yn oed.
Rydw i eisiau i chi ddychmygu bod y gwydr wedi'i blannu mewn mecanwaith fel llygaid cath, wedi'i osod fel archif o erydiad glan môr ar hyd yr amddiffynfeydd rhag llifogydd, gan ddod â chelf a chydwybod gymdeithasol at ei gilydd mewn perthynas ag actifiaeth newid hinsawdd
Ariannodd Fusion hyfforddiant gydag Ash Edwards a roddodd dealltwriaeth ddyfnach i mi o Amledd Sbectrol. Yn ystod yr hyfforddiant hwn, cefais foment Aha! sydd wedi newid fy holl bersbectif.
Pan gollais fy nghlyw, roeddwn yn credu bod fy ngyrfa 35 mlynedd fel cerddor ar ben, ond wrth ddelweddu'r amledd sbectrol, deuthum yn gyfansoddwr sianel, gan ail-bwrpasu’r dechnoleg sy'n sail i declynnau clywed i nodiannu biorhythmau morol y byd naturiol.
Am y 60 eiliad nesaf, mae detholiad o fiorhythmau wedi'u nodiannu yn cael ei chwarae ar allweddellau digidol. Yn atgoffa rhywun o alwad i weddïo o doeon meudwyfaoedd. Mae fy nghasgliad llawn o fiorhythmau morol wedi'u nodiannu yn ystod fy Mentoriaeth YaD Addo ar gael ar fy ngwefan - www.cherylbeer.com
Cymhwysiad Posibl
Beth mae hyn yn ei olygu yn nhermau cymwysiadau posibl?
Fodd bynnag, ers y foment pan glywais y galwad cyntaf hwnnw i weddïo gan y môr ei hun, rwy'n angerddol dros nodiannu biorhythmau natur a dod yn gyfansoddwr sianel iddi, gan rymuso cân natur yn fyd-eang yn ei hawr o alar, a chodi ymwybyddiaeth drwy alluogi'r byd naturiol i siarad â ni drwy iaith cerddoriaeth.
O'r capiau iâ sy'n toddi yn Antartica, i Wlypdiroedd Tsieina, i'r lleiniau diflannol o Goedwigoedd Glaw Celtaidd sy’n dal i fodoli yma yng Nghymru – sef fy nghomisiwn nesaf.
Cân Y Coed - Song of the Trees: rydw i wedi cael fy newis gan Unlimited, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, i greu rhith gerflun sain mewn partneriaeth â Choed Cadw, a fydd yn trosi’r biorhythmau naturiol yn y pridd i'r byd digidol, trwy ail-bwrpasu’r union dechnoleg sy'n sail i’m teclynnau clywed.
Felly, pan fyddwch yn gofyn i mi beth yw effaith eich Mentoriaeth Y&D Addo, gallen i roi restr hirfaith i chi, fel yr un sydd gen i yma, ond drwy'r cipolwg hwn ar fy nhri mis, gobeithio y gallwch weld bod cymorth lle/amser, cael bod mewn lle diogel i arbrofi, i archwilio, yn hanfodol, er mwyn i'r diwydiannau creadigol allu parhau i helpu'r byd i wella ar ôl y pandemig.
Rwy'n credu mai'r canlyniad mwyaf radical wrth i mi ymadael yw’r newid llwyr mewn persbectif mewn perthynas â myfi fy hunan, ac fel artist anabl, a'r capasiti sydd gan y celfyddydau anabledd i newid y byd.
(Cefndir : Biorhythmau Morol wedi'u Nodiannu o'r penllanw)
Gyda diolch a diolchgarwch diffuant i:
Addo Creative Consultancy
Fy Mentor, Sarah Pace
Cyngor Celfyddydau Cymru
Y 4 Artist arall a rannodd y daith
Suzanne Samuel @ FUSION
Ash Edwards am Hyfforddiant Sain
Dragon Art Glass am Saernïo
Glassy London am Brintio Digidol ar Wydr
Rhedir y rhaglen hon gan Addo ac fe'i hariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru
drwy eu Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru – COVID-19: Cymorth i Sefydliadau’r Celfyddydau

- Rydw i wedi bod yn arbrofi gyda threfniant cerddorfaol drwy gydweithio gyda cherddorion eraill.
- Rydw i wedi cynnal sgyrsiau ynglŷn â chelfyddyd gyhoeddus, gan ennyn diddordeb pobl hŷn mewn cartrefi gofal mewn actifiaeth newid hinsawdd drwy eu gwahodd i greu eu mosaigau sbectrol eu hun.
- Ac yn nhermau perfformiad, rydw i wedi cynnal sgyrsiau ynglŷn â gosodiadau lleisiol, mewn rhes ar hyd yr amddiffynfa, gyda'r nod o greu perfformiad penodol i'r safle, ac wedyn atgynhyrchu hyn i deithio i fannau awyr agored eraill.