Exhibiting at The SeneddThis was a monumental day for me on so many levels, going to The Senedd to meet the Exhibition Manager & Programming team in person, knowing that Cân y Coed Rainforest Symphony will soon be singing out & embracing the space, from slate floor to wooden ceiling. Who will hear it, how will it touch them? The biorhythms of the rainforests connecting with the political heartbeat of Wales.
The structure of the Senedd is based on a tree, where the politicians meet in chambers at its roots, with the structure reaching out through the gallery into the main area & beyond. What better place for the Song of the Trees to sing out & raise awareness of our beautiful rainforests. And today was only possible because Alison, my beautiful Hearing Assistant & dear, dear friend, supported me to do it. It's the first time I've been to Cardiff since my hearing loss, tinnitus & hyperacusis & I didn't think it would be possible, but Alison held the space for it to be. What a special angel she is. I feel blessed that she is in my life. I am home now, exhausted, overwhelmed & tearful, a release of the fear that so nearly stopped me from going. |
Arddangos yn y Senedd
Roedd hwn yn ddiwrnod anhygoel i mi ar gymaint o lefelau - cael mynd i'r Senedd fy hun, i gwrdd â'r Rheolwr Arddangosfeydd a'r Tîm Rhaglennu, gan wybod y bydd Symffoni'r Coedwigoedd Glaw Cân Y Coed yn atseinio cyn hir ac yn llenwi'r man hwn, o'r llawr llechi i'r nenfwd pren. Pwy fydd yn ei chlywed, sut fydd yn cyffwrdd â nhw? Biorhythmau'r coedwigoedd glaw yn cysylltu â churiad calon gwleidyddol Cymru.
Mae adeiledd y Senedd yn seiliedig ar goeden – mae'r gwleidyddion yn cwrdd mewn siambrau wrth ei gwreiddiau, tra bod yr adeiledd yn ymestyn allan trwy'r oriel i'r prif fan a thu hwnt. Does dim lle gwell lle i Gân y Coed atseinio a chodi ymwybyddiaeth o'n coedwigoedd glaw hardd. Ac ni fyddai heddiw wedi bod yn bosibl heb anogaeth Alison, fy nghynorthwyydd clywed hyfryd a'm ffrind annwyl iawn, i wneud hyn. Dyma'r tro cyntaf i mi fynd i Gaerdydd ers i mi golli fy nghlyw, a chael tinitws a hyperacusis, ac nid oedwn yn meddwl y byddai'n bosibl. Ond helpodd Alison fi i fynd yno. Mae'n angel mor arbennig. Mae'n fendith i mi ei chael yn fy mywyd. Rydw i gartref nawr, yn lluddedig, wedi fy ngorlethu ac yn ddagreuol, teimlad o ryddhad o'r ofn a fu bron iawn a'm hatal rhag mynd. |