Rydw i’n llawn cyffro o gael dod â darn o waith rhyngwladol yma, i Lanelli, ar garreg ein drws. F’enw i yw Cheryl ac rwy’n Artist Sain Amgylcheddol, yn Gyfansoddwr ac yn Storïwr, a’r wythnos hon rydw i wedi bod yn gweithio gyda Matt yng Ngwlypdiroedd Llanelli. Mae Matt wedi bod yn dangos y lleoedd gwyllt i mi, gan chwilio am fannau lle gallwn ffilmio’r cydweithrediad cyffrous hwn gydag artist o Ogledd Cymru a fydd yn ymuno â mi yma ar gyfer y prosiect. Fyddech chi erioed wedi meddwl ei bod yn bosibl cael llais sy’n siarad ar draws y byd, yma, yn lleol, ar garreg ein drws, o gartref?