ROOTED RESILIENCE - GWYTNWCH WEDI'I WREIDDIO
Listen to a 100 year old tree
It was traumatic waking up with hearing loss. At the time, I didn’t think I would ever get over it. I sold my instruments and gave up any hope of ever being a musician again. Instead, I submerged myself in nature, and poignantly, it is nature that led me right back to writing music again, only this time, I am a conduit for her voice. Just as she gave me all of herself in my hour of distress, so now, I give her all of myself, as an environmental sound artist.
I really want to tell you about the tree in the header of my website, because her story is what motivated me when I was at my lowest ebb. I was living in an old weaver’s cottage in West Wales, opposite a woods. No-one much knows about the woods or goes there. I think it might be privately owned but there is a signposted public footpath through it and the local community volunteer to take care of it. The woods are on a never-ending hill, that goes up in tiers, and on the second level is a tree who is resilience itself. There must have been a landslide at some point, likely when the footpath was created, and the woodland floor fell away from beneath her, you can see all the dead roots and interestingly, you can see the mycelium, too. It isn’t until fairly recently that the true power of fungi and how it helps trees to stay in touch with each other, has been understood. The fine feathery threads that you can see hanging from the exposed roots of the tree, are mycelium. Mycelium not only connects trees with each other within the one woods, or forest, but connects forests to each other, so that they can take care of each other by warning of impending disease, or reassuring that everything is well. It is thought that all trees were connected in this way across the globe, before we came along and started chopping them all down. Indeed, the 4 pockets of remaining rainforest in Wales were connected by mycelium. That’s why, when I come to compose the end sound sculpture for Cân Y Coed, I will be focussing on how to intertwine the sounds from all 4 rainforests, reuniting them with each other after thousands of years. |
Spoken Word
I digress, back to the tree in Carmarthenshire – I remember being so utterly sad about my hearing loss. I had been a singer/songwriter, and now I couldn’t hear my voice in my head, leave alone compose music – so I had gone to the woods to see the bluebells and I happened upon a brave, courageous tree, who was not prepared to let go of the soil, hanging on a thread, instead, she sent her roots inwards, and in so doing, was nurturing a new tree, a daughter tree, who now grew beside her.
When I was successful in securing a Main Commission with Unlimited for Cân Y Coed, I knew I wanted to go back to that tree, and when I did, I couldn’t believe how big the daughter had become, and beside her, another sapling – the granddaughter. How magical nature is. On that very first day, when the tree and I met, I thought to myself, ‘If that tree can live in hope, so can I.’ And this was a turning point for me – instead of saying I was ‘broken’, I described myself as healing – in changing that one word, everything changed. I really wanted to record the tree for you, and I will, I promise, but the weather has been against me and so instead, I include here the tree from my back yard. I live in town now, that’s a long story for another time, and my street is lined with these trees – I guess 100 years ago, when they were all planted, there was a one going spare that ended up in my garden. Lucky me! Either way, it is a joy to transpose her biorhythms and sit listening to her. My name is Cheryl Beer. I am the conduit composer, an environmental sound artist, notating nature in her hour of distress, enabling you to hear her song. |
CYMRAEG
Gwydnwch o’r Gwraidd
Roedd dihuno ar ôl colli fy nghlyw yn drawmatig. Ar y pryd, roedden i'n meddwl na fydden i fyth yn dod dros y peth. Gwerthais fy offerynnau a rhoi'r gorau i'r gobaith o fod yn gerddor fyth eto. Ymrwymais i wella drwy drwytho fy hunan yn natur, a natur sydd wedi fy ngalluogi i ysgrifennu cerddoriaeth unwaith eto. Ond y tro hwn, sianel ydw i ar gyfer ei llais hithau. Yn yr un ffordd ag y rhoddodd natur ei hun yn llwyr i mi yn fy awr o gyfyngder, rydw innau nawr yn rhoi fy hun yn llwyr iddi hithau fel artist sain amgylcheddol.
Rydw i wir eisiau dweud wrthych am y goeden a welwch ym mhennyn fy ngwefan, gan mai ei stori hithau â'm symbylodd pan oeddwn yn teimlo'n fwyaf isel. Roeddwn yn byw mewn hen fwthyn gwehydd yng Ngorllewin Cymru, gyferbyn â choedwig. Ychydig o bobl sy'n gwybod am y goedwig neu'n mynd yno. Rwy'n meddwl efallai ei bod mewn perchenogaeth breifat ond mae llwybr cyhoeddus ag arwyddbyst yn mynd drwyddi ac mae'r gymuned leol yn gwirfoddoli i ofalu amdani.
Mae'r goedwig yn sefyll ar riw ddiddiwedd, sy'n dringo fesul lefelau, ac ar yr ail lefel mae coeden sy'n ymgorffori gwydnwch. Ar ryw adeg, bu tirlithriad – efallai pan grëwyd y llwybr troed, a syrthiodd llawr y coetir i ffwrdd oddi tani. Gallwch weld yr holl wreiddiau marw, ac yn ddiddorol, gallwch weld y myseliwm hefyd.
Nid yw gwir bŵer ffyngau, a'r ffordd maent yn helpu coed i aros mewn cysylltiad â'i gilydd, wedi cael ei ddeall tan yn ddiweddar. Myseliwm yw'r edeifion pluog mân a welwch yn hongian wrth wreiddiau datguddiedig coeden. Mae myseliwm nid yn unig yn cysylltu coed â'i gilydd o fewn un goedwig, neu fforest, ond mae hefyd yn cysylltu fforestydd â'i gilydd, fel y gallant ofalu am ei gilydd drwy anfon rhybudd am glefyd sydd wrth law, neu roi gwybod bod popeth yn iawn. Credir bod yr holl goed wedi'u cysylltu yn y ffordd hon cyn i ninnau gyrraedd, a mynd ati i’w torri i gyd. Yn wir, roedd y 4 llain o goedwig law sydd ar ôl yng Nghymru wedi'u cysylltu gan fyseliwm. Dyna pam, wrth i mi gyfansoddi'r cerflun sain terfynol ar gyfer Cân Y Coed, byddaf yn canolbwyntio ar sut i gydblethu'r synau o'r 4 coedwig law, gan eu hailuno â'i gilydd ar ôl miloedd o flynyddoedd.
Ond rwy'n crwydro, nôl â ni at y goeden yn Sir Gâr – rwy'n cofio teimlo’n hollol drist ynglŷn â cholli fy nghlyw. Roeddwn wedi bod yn ganwr/cyfansoddwr caneuon, ac yn awr doedden i ddim yn gallu clywed fy llais y fy mhen hyd yn oed, heb sôn am gyfansoddi cerddoriaeth. Felly roeddwn wedi mynd i'r goedwig i weld clychau'r gog, a dod ar draws y goeden ddewr, wrol hon, nad oedd yn fodlon gollwng ei gafael ar y pridd. Yn lle hynny, roedd wedi cyfeirio’i gwreiddiau tuag at i mewn, a thrwy wneud, hynny, roedd wedi meithrin coeden newydd, coeden ferch, a oedd nawr yn tyfu wrth ei hochr.
Pan lwyddais i sicrhau Comisiwn Lleiafswm gyda Diderfyn ar gyfer Cân Y Coed, roeddwn yn gwybod mod i eisiau mynd nôl at y goeden honno. Pan wnes i hynny, allwn i ddim credu cymaint oedd y ferch wedi tyfu, ac wrth ei hochr roedd glasbren – yr wyres.
Ar y diwrnod cyntaf hwnnw pan wnaethon ni gwrdd, meddyliais, 'Os gall y goeden hon fyw mewn gobaith, gallaf innau wneud hefyd.’ Roedd hwn yn drobwynt i mi – yn lle dweud fy mod wedi torri, disgrifiais fy hun fel rhywun sy'n gwella – wrth newid yr un gair hwnnw, roedd popeth wedi newid.
Roeddwn i wir eisiau ei recordio i chi, ac rwy'n addo y byddaf yn gwneud hynny. Ond mae'r tywydd wedi troi yn fy herbyn ac felly, yn lle hynny, rwy'n cynnwys y goeden yn fy iard gefn. Rwy'n byw yn y dref nawr – stori hir ar gyfer tro arall, ac mae'r coed hyn yn tyfu ar hyd fy stryd. Am wn i, roedd un goeden yn sbâr pan gawsant eu plannu 100 mlynedd yn ôl, a nawr mae honno’n tyfu yn fy ngardd innau. Beth bynnag, mae'n bleser cael eistedd yn fy ngardd a gwrando arni.
Croeso, f'enw i yw Cheryl Beer. Y fi yw'r cyfansoddwr cwndid, yr artist sain amgylcheddol, sy'n nodiannu natur yn ei hawr o gyfyngder, a'ch galluogi i glywed ei chân.