In 2022, I was selected to join a group of sound artists from around the world, to join the Helmholtz Institute for Functional Marine Biodiversity in Germany, working remotely with recordings made by scientists at Antarctica. I was sent the recording of a single killer whale, calling out from the melting ice caps. The very notion of this moved me deeply & I began researching what life is like for a pod of killer whales.
When together, they communicate in a series of whistles for closeness; It's a high pitched private way of communicating, as the soundwaves do not travel far. Better known, they also use pulse calls. Each pod has its own dialect - The recording I was working with, a pulse call, reaches for miles across the ocean to connect with its own pod. - what message would this killer whale be sending out from the melting ice caps to its community - or even, to us? The answer for me, is simple & yet poignant, a warning, a siren, a prayer? Due to my hearing impairments, it was difficult for me to work with the sound of the whale, so I decided to convert the recording into visual soundwaves. After all, it is the soundwaves that make the killer whales whistles & pulses possble. When I looked at the pulse call of the killer whale visually, I could see that what appears as a whole sound to us, is in fact, a number varying vibrations at different levels. I edited these into distinct sounds or voices, if you like, & used these to compose the sound art in my studio. The sound recording below gives you more of an insight & enables you to hear the piece. |
Cymraeg
Yn 2022, cefais fy newis i ymuno â grŵp o artistiaid sain o bob cwr o'r byd gan yr Helmholtz Institute for Functional Marine Biodiversity yn yr Almaen, gan weithio o bell gyda recordiadau a wnaed gan wyddonwyr yn Antarctica. Derbyniais recordiad o forfil danheddog ar ei ben ei hun, yn galw o'r capiau iâ sy'n toddi. Cefais fy nghyffroi'n ddwfn gan yr union syniad a dechreuais ymchwilio i fywyd ysgol o forfilod danheddog.
Pan fyddan nhw gyda'i gilydd, maent yn cyfathrebu drwy gyfres o chwibanau er mwyn cadw'n agos. Mae'n ffordd dreiddgar, breifat o gyfathrebu am nad yw'r seindonnau'n teithio'n bell. Mae'n fwy hysbys eu bod hefyd yn defnyddio galwadau pwls. Mae gan bob ysgol ei thafodiaith ei hun – mae'r recordiad roeddwn yn gweithio gydag ef, y galwad pwls, yn ymestyn am filltiroedd ar draws y cefnfor i gysylltu â'i ysgol ei hun. Pa neges fyddai'r morfil danheddog hwn yn ei hanfon at ei gymuned o'r capiau iâ sy'n toddi – neu hyd yn oed, atom ni? Mae'r ateb i minnau'n syml ac eto'n ingol, rhybudd, seiren, gweddi?
Oherwydd y namau ar fy nghlyw, roedd yn anodd i mi weithio gyda sŵn morfil danheddog, felly penderfynais drosi'r recordiad yn seindonnau gweledol. Wedi'r cyfan, y seindonnau hyn sy'n hwyluso chwibanau a phylsiau'r morfil danheddog. Pan edrychais ar alwad pwls morfil danheddog yn weledol, gallwn weld bod yr hyn sy'n ymddangos fel sŵn i ni, yn cynnwys nifer o ddirgryniadau amrywiol ar wahanol lefelau mewn gwirionedd. Golygais y rhain i’w troi’n synau neu leisiau gwahanol a'u defnyddio i gyfansoddi'r gelf sain yn fy stiwdio. Mae'r recordiad sain isod yn rhoi dealltwriaeth well i chi ac yn eich galluogi i glywed y darn.