Our intention had been to go to Pembrokeshire in search of Ancient Celtic Ogham Stones. I felt that I wanted to climb inside the Language of the Trees devised by the Celts, ancestors of our ancient rainforests of Wales. So, I set upon research into their whereabouts, but the day we were supposed to go, the weather was absolutely terrible & both myself & Annette, who is my spoken word Welsh adviser for my CÂN Y COED commission, decided that it may be best to go instead, to Swansea Museum, where they is an Ogham stone exhibited.
However, the museum just happened to be closed on that day. Not one to give up, I did a google search - nearest Ogham stone to Llanelli? ... and to my surprise, up popped the coordinates for an Ogham stone in Cilymaenllwyd, which is a little village not far out of town. Annette & I drove in circles, in the pouring rain. I jumped out of the car looking for clues, getting drenched for seemingly no reason ... and then I had a thought. What if the ogham stone were in the Nursing Home? Surely not ... last year I worked with the older people living there, during the pandemic, creating nature narrative sound resources, so I contacted the Activities Coordinator, Diane, who confirmed that yes, the ancient ogham stone was in fact, on the grounds of the home & not only that, I had likely driven past it! In the above video blog I share with you a slow motion poetic video of my first connection with the stone. In my following blog, we'll speak with Dianne & in the 3rd of this trilogy, I will use the tree alphabet to decipher the ogham, so that we can get an idea of what it might say ... |
Roedden ni wedi bwriadu mynd i Sir Benfro i chwilio am Gerrig Ogam Celtaidd Hynafol. Teimlwn fy mod eisiau ymdrwytho yn Iaith y Coed a ddyfeisiwyd gan y Celtiaid, hynafiaid ein coedwigoedd glaw hynafol yng Nghymru. Felly bwriais ati i ymchwilio i'w lleoliad, ond ar y diwrnod pan ddylen ni fod wedi mynd yno, roedd y tywydd yn ofnadwy. Penderfynais innau ac Annette, y cynghorydd Cymraeg llafar ar gyfer fy nghomisiwn CÂN Y COED, y byddai'n well i ni fynd i Amgueddfa Abertawe, lle mae carreg Ogam yn cael ei harddangos.
Ond fel mae'n digwydd, roedd yr amgueddfa ar gau'r diwrnod hwnnw. Dwi ddim yn dda am roi'r gorau iddi, felly gwnes chwiliad Google – y garreg Ogam agosaf at Lanelli? – ac er mawr syndod, dyma gyfesurynnau'n ymddangos ar gyfer carreg Ogam Cilymaenllwyd, sef pentref bach ar gyrion y dref. Bu Annette a minnau'n gyrru mewn cylchoedd, a'r glaw yn pistyllio. Neidiais allan o'r car i chwilio am gliwiau, a gwlychu'n shwps heb unrhyw ganlyniad amlwg ... ac yna daeth syniad i'm mhen. Tybed a oedd y garreg Ogam yn y Cartref Nyrsio? Doedd bosib ... yn ystod y pandemig y llynedd, bûm yn gweithio gyda'r bobl hŷn sy'n byw yno, gan greu adnoddau sain ar naratifau natur, felly cysylltais â'r Cydlynydd Gweithgareddau, Dianne, a gadarnhaodd bod yr hen garreg Ogam ar diroedd y cartref, ac ar ben hynny – roedden ni wedi gyrru heibio iddi! Yn y blog hwn, rwy'n rhannu fideo barddonol araf gyda chi o'm cysylltiad cyntaf â'r garreg. Yn fy mlog nesaf, byddwn yn siarad â Dianne, ac yn y 3ydd blog yn y triawd hwn, byddaf yn defnyddio'r wyddor goed i ddehongli'r Ogam, a chael syniad am yr hyn gallai fod yn dweud ... |