Friends, I am so excited to share with you that I am Artist in Residence at the National Botanic Garden of Wales for the next 16 months. I’m there for a very specific reason, as a base for my research with regard to the Future Wales Fellowship. The Future Wales Fellowship brings together 8 artists from across Wales to look closely at our relationship to nature and how we might deepen it. The partnership consists of the Arts Council of Wales, Natural Resources Wales, National Trust & Elan Valley Trust. It is managed by Peak Cymru.
‘The Fellowship is an opportunity to challenge the understanding of our relationship to nature and unearth ways of reconnecting with it, exploring our own relationships with nature, both as individuals and communities.’
– Arts Council of Wales. |
Gyfeillion, rydw i wrth fy modd yn rhannu'r newyddion fy mod wedi cael fy newis yn Artist Preswyl Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am y 16 mis nesaf. Rydw i yno am reswm penodol iawn – byddaf yn gweithio oddi yno ar fy ymchwil i Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol. Mae Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn dod ag 8 artist o bob rhan o Gymru at ei gilydd i astudio'n perthynas â natur a sut gallen ni ei dyfnhau. Mae'r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Cwm Elan. Rheolir y bartneriaeth gan Peak Cymru.
'Mae'r Gymrodoriaeth yn gyfle i herio ein dealltwriaeth o’n perthynas â byd natur ac i chwilio am ffyrdd o ailgysylltu â hi, gan archwilio ein perthynas ni ein hunain â byd natur, fel unigolion ac fel cymunedau.’ – Cyngor Celfyddydau Cymru.
|
Living with hearing loss, tinnitus & hyperacusis, it felt very important to be based in a safe space, where the access was excellent and within the context of a team that understood and supported my work. The National Botanic Garden of Wales is all of these things and many more. Of course, it is also extremely beautiful and what an utter privilege to be welcomed as their official Artist in Residence for the duration of my research.
Whilst there, I’m having conversations with visitors, volunteers and staff about their favourite places in nature, recording them telling me how these places make them feel and why. I’ll also be inviting & supporting people that may not necessarily have access to the Garden, so that my work represents people from different walks of life. If you’d like to meet with me at the Garden and be part of my Fellowship research, I’d be so pleased to hear from you. Simply drop me an email on my Contact page & I’ll get straight back to you with the full details. Meanwhile, I will find a bench, sit with a flask of tea & look out over the incredible landscape, feeling very blessed indeed. |
Gan fy mod yn byw gyda cholli clyw, tinitws a hyperacusis, roedd yn bwysig iawn i mi gael man gweithio diogel, gyda mynediad ardderchog, ac yng nghyd-destun tîm sy’n deall ac yn cefnogi fy ngwaith. Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ticio'r bocsys hyn i gyd a llawer mwy. Wrth gwrs, mae hefyd yn fan hynod hardd ac mae'n gymaint o fraint cael fy nghroesawu fel eu Hartist Preswyl swyddogol hyd ddiwedd fy ymchwil.'
Tra mod i yno, rwy'n cael sgyrsiau gydag ymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff am eu hoff leoedd ym myd natur, gan eu recordio'n dweud wrthyf sut mae'r lleoedd hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo a pham. Byddaf hefyd yn gwahodd ac yn cefnogi pobl nad ydynt efallai yn gallu mynd i’r Ardd, felly mae fy ngwaith yn cynrychioli pobl o bob cefndir. Os hoffech gwrdd â mi yn yr Ardd a bod yn rhan o'm hymchwil i'r Gymrodoriaeth, byddwn yn falch iawn o glywed gennych. Yn syml, anfonwch e-bost at fy nhudalen Cysylltu a byddaf yn ateb yn syth gyda'r holl fanylion. Yn y cyfamser, byddaf yn chwilio am fainc, yn eistedd gyda fy fflasg o de a mwynhau'r dirwedd anhygoel, gan deimlo mai gwyn yw fy myd. |