This time last year, I set an intention to create work that impacted social change, which began Christmas week within my own community, by forging winter partnerships during lockdown with Peoplespeakup CAVS, Age Cymru, Llanelli Town Council, FUSION, Heritage Lottery & #soundmemoriesradio - securing funding to coordinate 2 community projects, the first Creative Companions, Intergenerational befriending for older people & the 2nd, Square Stories, working with YPSU to create an online Heritage resource for & with the young people of Llanelli.
Meanwhile, in January, I began a 4 month creative research mentorship with ADDO creative consultancy, based at the flood defense walls of the Millennium Coastal Path, creating contemporary art from the visualisation of sound. During this time, I was experimenting with hearing aid technology. FUSION funded spectral frequency training online with Ash Edwards. In the process, I found a way to notate the biorhythms of nature & took these findings with me into an Unlimited Main Commission from May onwards, reuniting 4 pockets of rainforest across Wales. |
Yr adeg hon y llynedd, pennais Fwriad i greu gwaith a fyddai'n cael effaith ar newid cymdeithasol. Dechreuodd yn ystod wythnos y Nadolig yn fy nghymuned, pan sefydlais bartneriaethau gaeaf gyda Peoplespeakup, CAVS, Age Cymru, Cyngor Tref Llanelli, FUSION, Treftadaeth y Loteri a #soundmemoriesradio, gan sicrhau cyllid i gyd-drefnu 2 brosiect cymunedol. Y cyntaf, Creative Companions – cyfeillachu sy'n pontio'r cenedlaethau ar gyfer pobl hŷn, a'r ail, Square Stories – yn gweithio gydag YPSU i greu adnodd Treftadaeth ar-lein ar gyfer, ac ar y cyd â phobl ifanc Llanelli.
Yn y cyfamser, ym mis Ionawr, dechreuais fentoriaeth ymchwil creadigol 4 mis gydag ymgynhoriaeth greadigol ADDO, yn gweithio ar furiau llifogydd Llwybr Arfordir y Mileniwm – lle bûm yn creu celfyddyd gyfoes drwy ddelweddu sain. Yn ystod y cyfnod hwn, roeddwn yn arbrofi gyda thechnoleg teclynnau clyw. Ariannodd FUSION hyfforddiant amledd sbectrol ar-lein gydag Ash Edwards. Yn ystod y broses, ffeindiais ffordd o nodiannu biorhythmau natur a defnyddiais y casgliadau hyn yng Nghomisiwn Unlimited Main o fis Mai ymlaen, gan aduno 4 llain o goedwig law ar draws Cymru. |
My #cânycoed rainforest residencies were in collaboration with Coed Cadw, RSPB, the Wildlife Trust & Snowdonia National Trust where I spent 6 months with my wonderful hearing Assistant, Alison, pushing the boundaries of hearing aid & biomedical technology, collating the biorhythms of our most precious & globally significant eco system.
In May, I was invited as a filmmaker to tell my story at Everything Change, a tri- National event headed up by Taliesin Art Centre, Dhaka Literature Festival & Margaret Atwood. My work was included in the event`s sharing for COP26 in Glasgow. In the Spring, I created a partnership between Sound Memories Radio, FUSION, Reconnecting Carmarthenshire & Feel Good Records for The Virtual Bird Table Project that brought the joy of your gardens to older people in care settings. Unlimited invited me as a panellist at a National event discussing the ways in which art can impact climate change & my film H2O was shown as 1 of 4 artists across the UK, to Industry experts informing ways of creatively addressing environmental issues. Wales Arts International picked up the film, & H20 was shown as part of the Wales at COP26 content. Following this, Disability Arts Cymru commissioned a piece for the launch of the Cultural & International Manifesto for disabled people, as part of the United Nations. Bard of the Bark opened the live online launch which reached 8 different countries in attendance. Bard of the Bark was then included as part of #PethauBychain curated by Marc Rees showing work across Wales that reflects the aims of the Future Generations Act, embedded at Wales Arts International. During this time, my tree led composition 'Lifecycle of an Oak' was selected & Exhibited for the International Exhibition of Disabled Arts at the Indonesian National Gallery. A year on, I am now studio based, writing eco blogs, recording environmental podcasts, whilst converting tree biorhythms into music, creating a virtual platform from which to exhibit my Rainforest Sound Sculpture. I could never have imagined 12 months ago that I would be composing tree led music in collaboration with the rainforests of Wales by repurposing hearing aid & biomedical technology! This coming year my Sound Sculpture is launching in Spring at the National Botanic Garden of Wales & I am setting an intention to tour & internationally disseminate the work by QR code & live ZOOM Events. There are so many people to thank. Mostly, Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales for so many reasons. During the first lockdowns, without their emergency support, I would have likely gone under & none of this would have been possible. They funded the ADDO research & Unlimited Main Commission. They also core fund Disability Arts Cymru & Wales Arts International... so in some way, they have made almost every aspect of my work possible. Thankyou Unlimited. Nearly 800 artists applied from across the UK & 8 received a Main commission... thankyou for seeing me & my practice. Thankyou Isabella Tulloch Gallego my supervisor & to my mentors, Simon Coates Lyndy Cooke Angharad Lee & Sarah Pace. Thankyou to my Welsh language team Joy Davies & Annette Bowen James & of course, to Alison Williams who has become a tree sister rather than a hearing assistant. Together, we have pushed ourselves beyond our physical limits & I will love her always for her dedication to helping me. Thankyou to @peoplespeakup YPSU & heritage lottery, to CAVS & the Llanelli Town Council & community partnership that made our teamwork possible. Thankyou to FUSION & Reconnecting Carmarthenshire, the Fifty Plus Forum & the Carmarthenshire Disability Coalition who are funding my access research behind the scenes. I am meeting with User groups in January testing sensory solutions that enable people who are deaf/blind to access virtual sound. Thankyou to the makers who have made my designs possible. And thankyou to YOU, my Facebook family & friends, for sharing my life with me, the ups & the downs xx I offer this reflection of my year, not to shape how you view me, but to show the power of presence, even in absence. My body of work as a hearing impaired environmental sound artist is testament, I hope, to the contribution, resilience & social value of disabled artists in making a better world. |
Cynhaliwyd fy mhreswyliadau coedwig law, #cânycoed, mewn cydweithrediad â Choed Cadw, yr RSPB, yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Eryri lle treuliais 6 mis gyda fy nghynorthwyydd clyw hyfryd, Alison, yn estyn ffiniau technoleg fiofeddygol a theclynnau clyw drwy goladu biorhythmau ein hecosystem werthfawr, ac o bwysigrwydd byd-eang.
Ym mis Mai, cefais fy ngwahodd fel gwneuthurwr ffilmiau i ddweud fy stori yn Everything Change, sef digwyddiad tair Cenedl dan arweiniad Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Gŵyl Lenyddiaeth Dhaka a Margaret Atwood. Cafodd fy ngwaith ei gynnwys yng nghyfraniad y digwyddiad i COP26 yn Glasgow. Yn y Gwanwyn, creais bartneriaeth rhwng Radio Atgofion Sain, FUSION, Ail-gysylltu Sir Gaerfyrddin a Feel Good Records ar gyfer y prosiect The Virtual Bird Table, a ddaeth â llawenydd eich gerddi at bobl hŷn mewn lleoliadau gofal. Gwahoddodd Unlimited fi fel panelwr mewn digwyddiad Cenedlaethol i drafod y ffyrdd y gall celf gael effaith ar y newid yn yr hinsawdd, a dangoswyd fy ffilm H2O, fel gwaith 1 o 4 artist ar draws y DU, i arbenigwyr diwydiant i'w hysbysu am ffyrdd o fynd i'r afael â materion amgylcheddol yn greadigol. Daeth y ffilm i sylw Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, a dangoswyd H2O fel rhan o gynnwys Cymru yn COP26. Ar ôl hyn, comisiynodd Celfyddydau Anabledd Cymru ddarn ar gyfer lansiad y Maniffesto Diwylliannol a Rhyngwladol ar gyfer pobl anabl, fel rhan o'r Cenhedloedd Unedig. Agorodd Bardd y Rhisgl y lansiad ar-lein byw a fynychwyd gan 8 gwlad. Yna cynhwyswyd Bardd y Rhisgl yn #PethauBychain a guradwyd gan Marc Rees, ac a ddangosodd waith ar draws Cymru sy'n adlewyrchu nodau Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, sy’n greiddiol i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd fy nghyfansoddiad dan arweiniad coed, 'Cylchred Bywyd Derwen', ei ddewis a'i arddangos mewn Arddangosfa Ryngwladol Artistiaid Anabl yn Oriel Genedlaethol Indonesia. Flwyddyn yn ddiweddarach, dyma fi yma yn fy stiwdio, yn ysgrifennu blogiau, yn recordio podlediadau amgylcheddol wrth i mi drosi biorhythmau coed yn gerddoriaeth, ac yn creu rhith blatfform lle gallaf arddangos fy Ngherflun Sain Coedwig Law 12 mis yn ôl, fydden i fyth wedi dychmygu y byddwn yn cyfansoddi cerddoriaeth dan arweiniad coed mewn cydweithrediad â choedwigoedd glaw Cymru gan ail-bwrpasu technoleg fiofeddygol a theclynnau clyw! Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd fy Ngherflun Sain yn cael ei lansio yn y Gwanwyn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ac rwy'n pennu bwriad i deithio a lledaenu fy ngwaith yn rhyngwladol drwy god QR a Digwyddiadau ZOOM byw. Dw i eisiau estyn diolch i gymaint o bobl. Yn bennaf, Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales am gymaint o resymau. Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, heb eu cymorth argyfwng, byddwn yn sicr wedi mynd i'r wal ac ni fyddai hyn oll wedi bod yn bosibl. Ariannwyd yr ymchwil ADDO a'r Comisiwn Unlimited Main ganddynt. Maen nhw hefyd yn darparu'r cyllid craidd ar gyfer Celfyddydau Anabledd Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru... felly mewn rhyw ffordd neu gilydd, maent wedi hwyluso bron pob agwedd ar fy ngwaith. Diolch yn fawr i Unlimited. Ymgeisiodd bron 800 o artistiaid o bob rhan o'r DU a derbyniodd 8 ohonynt gomisiwn Main... diolch yn fawr am fy ngweld i a'm hymarfer. Diolch yn fawr i Isabella Tulloch Gallego, fy ngoruchwyliwr, ac i'm mentoriaid, Simon Coates, Lyndy Cooke Angharad Lee a Sarah Pace. Diolch yn fawr i'm tîm iaith Gymraeg, Joy Davies ac Annette Bowen James, ac wrth gwrs, i Alison Williams sydd wedi dod yn chwaer goeden i mi yn hytrach na chynorthwyydd clyw. Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi'n gwthio'n hunain y tu hwnt i'n terfynau corfforol a byddaf yn ei charu am byth am ei hymroddiad wrth fy helpu. Diolch yn fawr i @peoplespeakup YPSU a threftadaeth y loteri, i CAVS a Chyngor Tref Llanelli, ac i’r bartneriaeth gymunedol a hwylusodd ein gwaith tîm. Diolch yn fawr i FUSION ac Ail-gysylltu Sir Gaerfyrddin, y Fifty Plus Forum a Chynghrair Anabledd Sir Gaerfyrddin sy'n ariannu fy ymchwil mynediad y tu ôl i'r llenni. Byddaf yn cyfarfod grwpiau o Ddefnyddwyr ym mis Ionawr i roi fy atebion synhwyraidd ar brawf gan eu bod yn galluogi pobl sy'n fyddar/ddall i gyrchu rhith-sain. Diolch yn fawr i'r gwneuthurwyr sydd wedi hwyluso fy nyluniadau. A diolch yn fawr i CHI, fy nheulu a'm ffrindiau Facebook, am gael rhannu fy mywyd gyda chi, y da a'r drwg xx. Rwy'n cynnig y myfyrdod hwn ar fy mlwyddyn, nid i ddylanwadu ar sut rydych yn fy ngweld, ond i ddangos grym presenoldeb, hyd yn oed yn ystod absenoldeb. Gobeithio bod fy nghorff o waith fel artist sain amgylcheddol â nam ar y clyw yn dyst i gyfraniad, gwydnwch a gwerth cymdeithasol artistiaid anabl wrth greu byd gwell. |