Meet the Trees
There are so many trees to choose from in a Rainforest, how on earth would I know which ones to work with? I decided to trust my instinct, and wait to see which of the trees chose me.
One of the most breath-taking parts of the rainforest is the number of oak saplings carpeting the floor and how the little acorns are 'hatching' like chicks upon both life & death. Stood in The Woodland Trust Coed Felenrhyd rainforest, I realised that we think of life in a very linear way - we are born, we live, we die or sometimes we acknowledge a cycle of life but being in a rainforest, it becomes clear that life is a matrix, where living & death are one of the same thing. I found a fallen tree, only trunk remaining and it lay in a thousand decaying pieces, held together like a giant Jenga puzzle. The nutrients from the dying trunk, dissolved into the earth & fed the new acorn saplings. Some of them had even embedded into the decay and towering above, the watchful shade of the Mother Oak who had gifted her acorns to the forest floor. My first reaction was a very human one - realising that most of the saplings would die, momentarily I felt sad because I was not understanding - the saplings would not die in the way we understand it. Death was as much a part of living as life itself. The saplings that fade back into the earth, will nourish the ones that grow, becoming part of them ... each tree, essential to the other. I knelt down beside the trunk carcass and found a thriving sapling. Very gently, I began collating her biorhythms & converting them into digital sound, measuring the flow of her water from root to leaf tip - she was fast and guzzling, just like any baby. Once I had spent time with the sapling, it seemed only right to connect with an adolescent oak, and as we passed the river, there was a flat area which housed not only a young oak, but 2 neighbours, a young sycamore and a birch. So, we spent time with this young trio. |
Further into the rainforest, we found an adult oak, her biorhythms were much slower and had bigger spaces between them. The last oak that I am planning to work with at Coed Felenrhyd, is the Mother of all Oak trees. She stood tall & magnificent. On closer inspection, we noticed a dog tag nailed to her trunk. Curious, we climbed the slope to read it - UKNTSP - What could it mean?
When we got back to the cottage, we looked it up online - It stands for the 'UK National Tree Seed Project' being run by Kew Gardens, collecting seeds from significant native trees, so that their genetics can be saved for the future. Not only has this magnificent Oak tree seen back beyond the Celts, her DNA will be preserved past all understanding of time. I can't wait to collect her biorhythms & hear beneath her bark; on our next trip up to North Wales later this year, I will be setting a day aside to work with her. During our first residency, we also visited The Woodland Trust Coed Llennyrch. It should be a 3 or 4 mile walk to the rainforest, but as we pulled up in the car park, Alison, my hearing assistant, started talking with locals. She is brilliant like that; she just naturally connects with people. Perhaps it is her big open smile, but I think perhaps, it is her big open heart that they can sense. Anyway, the locals told us about a sneaky short cut that would cut our walk down to a mile and a half and given that we would be carrying all my sound equipment, we were grateful for this. We walked along a winding track that has been installed in front of the Trawsfynydd nuclear powered damn. Stepping stones across the boggy field and up over to the first wooded area. It wasn’t long before I met a brave and courageous Rowan tree. She is only able to stay alive because her roots have attached to an oak tree, otherwise she would certainly fall and crash down into the ravine. When a tree does this, it is called ‘inosculation’ and is common amongst trees who grow close together. It really feels as if the oak is holding onto the rowan, but in actual fact, by holding her, the oak become stronger too, so it is a form of reciprocity beneath the soil. The more time I spend in the rainforests, the more I am sensing what we might describe as love, but that trees naturally do without question. The Celts believed that the rowan was a tree of protection, warding off evil and they used to whittle the branches into small pieces to keep in their pocket, so it seemed right to collate the biorhythms of this beautiful, tree, in a respectful way that will enable me to share part of her, with you. All of the biorhythms collected from these trees were converted to digital sound and now, I am in my studio notating those biorhythms into music, commissioning musicians to play them, building and nurturing the team that is growing around me. In my next blog, I will talk to you in more depth about what I am actually doing with the trees, so that you get a greater understanding of my work. Thankyou for listening, for hearing me & being part of my journey. This work is part of my Unlimited Commission, funded by The Arts Council of Wales. My Celtic Rainforest Residencies are organised by Coed Cadw, the Welsh branch of the Woodland Trust, supported by the Celtic Rainforest Project, with the RSPB, Snowdonia National Trust & The Wildlife Society. |
CYMRAEG
Mae cymaint o goed i ddewis o'u plith mewn Coedwig Law, sut yn y byd fyddwn i'n gwybod pa rai i weithio gyda nhw? Penderfynais ymddiried yn fy ngreddf ac aros i weld pa rai o'r coed fyddai'n fy newis i.
Un o'r elfennau mwyaf syfrdanol yn y goedwig law yw'r carped o lasbrennau derw ar y llawr a sut mae'r mes bychain yn 'deor' fel cywion yng nghanol bywyd a marwolaeth. Wrth sefyll yng nghoedwig law Coed Felenrhyd, sylweddolais ein bod yn meddwl am fywyd mewn ffordd linol iawn – cawn ein geni, rydym yn byw, rydym yn marw, neu weithiau rydym yn cydnabod cylchred bywyd, ond pan fyddwch yn sefyll mewn coedwig law, mae'n dod yn amlwg mai matrics yw bywyd, lle mae byw a marw yn rhan o'r un peth.
Des i ar draws coeden wedi syrthio – dim ond ei boncyff oedd ar ôl ac roedd yn gorwedd yno mewn mil o ddarnau dadfeiliol yn sownd wrth ei gilydd fel pos Jenga enfawr. Roedd y maetholion o'r boncyff marw yn toddi i'r ddaear gan fwydo'r mes a'r glasbrennau newydd. Roedd rhai o’r rhain wedi'u mewnblannu yn y sylwedd dadfeiliol hyd yn oed, ac yn ymgodi yng nghysgod gwyliadwrus y Fam Dderwen oedd wedi gwasgaru ei mes ar hyd llawr y goedwig.
Roedd fy ymateb cyntaf yn un dynol iawn – wrth i mi sylweddoli y byddai'r rhan fwyaf o'r glasbrennau'n marw, teimlais ennyd o dristwch, ond doedden i ddim wedi deall – ni fyddai'r glasbrennau'n marw yn y ffordd a ddeallwn ninnau. Roedd marwolaeth yn rhan yr un mor hanfodol o fyw â bywyd ei hun. Bydd y glasbrennau sy'n ymdoddi nôl i'r ddaear yn maethu'r rhai sy’n tyfu, gan ddod yn rhan ohonyn nhw ... pob coeden yn hanfodol i'r llall.
Penliniais wrth ymyl sgerbwd y boncyff a gweld glasbren llewyrchus yn tyfu. Yn ofalus, dechreuais goladu ei fiorhythmau a'u trosi’n sain ddigidol, gan fesur llif ei ddŵr o'r gwreiddyn i flaen y dail – roed yn llowcio’n gyflym, yn union fel pob baban.
Wedi i mi dreulio amser gyda'r glasbren, teimlai'n briodol i ymgysylltu â derwen lencynnaidd, ac wrth i ni fynd heibio i'r afon, roedd man gwastad lle safai derwen ifanc, ar y cyd â dwy gymdoges – sycamorwydden a bedwen ifanc. Felly treuliom amser gyda'r triawd ifanc hwn.
Yn ddyfnach yn y goedwig law, daethom ar draws derwen llawn dwf – roedd ei biorhythmau'n arafach o lawer ac roedd bylchau hirach rhyngddynt. Y dderwen olaf rwy'n bwriadu gweithio gyda hi yng Nghoed Felenrhyd yw Mam yr holl Goed Derw. Safai hon yn dalog ac yn ysblennydd. Wrth graffu arni, sylwom fod tag ci wedi'i hoelio ar ei boncyff. Yn chwilfrydig, dringom i fyny'r llethr i ddarllen – UKNTSP Beth allai hyn olygu?
Ar ôl dychwelyd i'r bwthyn, chwiliom ar-lein. Mae'r llythrennau’n dynodi’r ‘UK National Tree Seed Project’ a redir gan Erddi Kew. Maent yn casglu hadau o goed brodorol pwysig fel y gellir cadw’u geneteg ar gyfer y dyfodol. Mae'r Dderwen ysblennydd hon nid yn unig wedi gweld nôl i’r oes cyn y Celtiaid, ond bydd ei DNA yn cael ei gadw y tu hwnt i bob dealltwriaeth o amser. Rwy'n dyheu am gael casglu ei biorhythmau a chlywed dan ei rhisgl – ar ein taith nesaf i Ogledd Cymru yn ddiweddarach eleni, byddaf yn neilltuo diwrnod i weithio gyda hi.
Yn ystod ein preswyliad cyntaf, ymwelom â Choed Llennyrch hefyd. Dylai’r daith i'r goedwig law fod yn 3 neu 4 milltir ar gerdded, ond wrth i ni gyrraedd y maes parcio, dechreuodd Alison, fy nghynorthwyydd gwrando, siarad â phobl leol. Mae hi'n wych am wneud hyn – mae'n gallu cysylltu â phobl yn naturiol. Efallai oherwydd ei gwên fawr agored, ond yn fy marn i, efallai eu bod yn synhwyro'i chalon fawr agored. Beth bynnag, dywedodd y bobl leol bod yna lwybr llygad cudd a fyddai’n torri'r daith i filltir a hanner, a gan y byddem yn cario fy holl offer sain, roeddem yn ddiolchgar am hyn.
Cerddom ar hyd trac troellog o flaen argae niwclear Trawsfynydd. Croesom y cae corslyd ar y cerrig stepiau ac yna i fyny at y llain goediog gyntaf. Cyn hir des ar draws Criafolen wrol, ddewr. Mae hon yn goroesi oherwydd bod ei gwreiddiau wedi ymlynu wrth goeden dderw – fel arall byddai'n sicr o syrthio i'r ddyfnant. Pan fod coeden yn gwneud hyn, gelwir y broses yn ‘ymgydio’ ac mae'n gyffredin ymhlith coed sy'n tyfu'n agos at ei gilydd. Mae’n ymddangos fel pe bai'r dderwen yn gafael yn y griafolen, ond mewn gwirionedd, drwy ei dal, mae'r dderwen yn dod yn gryfach hefyd, felly mae'n fath ar gytbwysedd o dan y pridd. Mwyaf oll o amser byddaf yn treulio yn y coedwigoedd glaw, mwyaf ymwybodol ydwyf o'r hyn y gallem ddisgrifio’n gariad – ond mae'n rhywbeth y mae coed yn ei wneud yn naturiol ac yn ddi-gwestiwn.
Credai'r Celtiaid bod y griafolen yn goeden sy'n diogelu pobl ac yn cadw drygioni draw, felly byddent yn naddu'r canghennau’n ddarnau bach a'u cadw yn eu poced. Roedd yn teimlo'n iawn felly i goladu biorhythmau'r goeden hardd hon, mewn ffordd barchus a fydd yn fy ngalluogi i rannu rhan ohoni gyda chi.
Cafodd yr holl fiorhythmau a gasglwyd o'r coed hyn eu trosi i sain ddigidol a nawr, rydw i yn fy stiwdio yn nodiannu'r biorhythmau hyn yn gerddoriaeth, gan gomisiynu cerddorion i'w chwarae, a datblygu a meithrin y tîm sy'n tyfu o'm cwmpas.
Yn y blog nesaf, byddaf yn siarad â chi’n fwy helaeth ynglŷn â beth yn union rwy'n gwneud gyda'r coed, fel y gallwch ddeall fy ngwaith yn well.
Diolch yn fawr am wrando, am fy nghlywed, ac am fod yn rhan o'm taith.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o'm Comisiwn Unlimited a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Trefnir fy Mhreswyliadau Coedwigoedd Glaw Celtaidd gan Goed Cadw, cangen Cymru o'r Woodland Trust, gyda chymorth gan y Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd, ar y cyd â'r RSPB, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Eryri a'r Gymdeithas Bywyd Gwyllt.