How & what do I hear beneath the bark?
|
Welcome to CÂN Y COED – SONG OF THE TREES podcast where today I am going to explain the art & technology fusion that I use when I am working with trees, that enable me to create sound sculptures from beneath the soil - but first, let me describe what is happening beneath the bark, because I think that will help you understand my process.
Inside the tree, there is a phenomenal pumping system. Think about it, trees are pumping water upwards! When, as we know, water likes to flow downwards. The roots of the tree bring up about 10 gallons of water per inch of trunk girth – so to make the maths easy, a tree with a 10-inch girth, is pumping up approx. 150 gallons of water a week! That’s 600 gallons a month. As an aside, have you ever wondered where that water goes when we cut them down? That’s right, flooding! Not only does the tree need this huge quantity of water, as I have said earlier, it has to pump it against gravity. Water wants to flow down, not up – you never see a river running up hill. So, inside the trunk the tree has 2 types of tubes – the phloem and the xylem, both of which carry water – the xylem travelling one way and the phloem having a 2-way water supply containing minerals and proteins. The water is forced up the tree by splinter like spikes inside the trunk, up into the branches and then the leaves, where is dissipates into the air – sometimes you might see mist over a rainforest and this is what is happening. Then that water is taken up by the clouds, the clouds rain and the whole cycle begins again. It’s absolutely immense when you think it through. Trees are vessels that hold the waters of the earth. |
So, what has this to do with my practice? When the water is travelling in the tree, this causes a conductivity & I use a wide range of technological equipment, apps & meters to measure this, taking readings from the root to the leaf, transposing these into digital sound, which I then take back to my studio, and notate into tree-led music.
This whole process began for me when I started repurposing the technology that fuels my hearing aids, such as spectral frequency and digital sound, some is biomedical, such as electronic stethoscope, some technological having been used to measure perspiration. As I become more confident, so my experimentation deepens and now my work is a combination of equipment that my Unlimited Main Commission has enabled me to build & will undoubtedly, continue to grow. Alongside this, I use my more traditional sound equipment, such as digital recorders & microphones with shields and a blimp, which is the big furry mic shield that you may have seen people use on television, used to reduce wind sound. Having said that, as an environmental sound artist, sometimes I like to record the wind and notate it – you can hear that as part of my previous work with add at the flood defence wall on the Millennium Coastal Path. I collate all of these sounds without judgement, and bring them back to my studio to catalogue & compose with. What I love most about composing in collaboration with a tree, is that all the rules of music go out of the window. I don’t try to bend, interpret or shape the biorhythms to fit music conventions, instead lightly shape the composition. Trees don’t have 4 beat rhythms or melody scales. When I was working with the Rowan tree at Coed Llennyrch, the gaps between biorhythms were so long that we wondered if it had stopped, & I have left this in the composition. After all, it was Mozart who said that music is not the notes, but the silence in-between, and I feel there is something so incredibly powerful about what humans will find an uncomfortable rest between sounds. But silence is a sound and it’s made me really excited about the potential for creating performance of the work. I can imagine a pianist poised and the audience at first waiting for the notated biorhythm, becoming agitated, waiting for the pianist, wanting it to flow in the traditional way, and my instinct tells me that the more accustomed and accepting they become throughout the performance, the more they will settle and let the tree lead, just as we did on the side of the mountain when collecting the biorhythms. I hope this explains my practice and process as an Environmental Sound Artist and helps you to understand it more clearly. Thankyou so much for joining me on this fascinating and life changing delve beneath the bark. Your connection to my work means a great deal to me. This work is part of my Unlimited Commission, funded by The Arts Council of Wales. My Celtic Rainforest Residencies are organised by Coed Cadw, the Welsh branch of the Woodland Trust, supported by the Celtic Rainforest Project, with the RSPB, Snowdonia National Trust & The Wildlife Society. My name is Cheryl Beer. I am an Environmental Sound Artist, Notating Nature in her hour of distress, so that you might hear her better. |
BETH YDW I’N EI GLYWED DAN Y RHISGL, A SUT?
Croeso i'r podlediad CÂN Y COED - SONG OF THE TREES. Heddiw rwy'n mynd i esbonio'r cyfuniad o gelf a thechnoleg dwi'n ei ddefnyddio pan fyddaf yn gweithio gyda choed, sy'n fy ngalluogi i greu cerfluniau sain o islawr pridd. Ond yn gyntaf, gadewch i mi ddisgrifio beth sy'n digwydd dan y rhisgl – rwy'n credu bydd hyn yn eich helpu i ddeall fy mhroses.
Y tu mewn i'r goeden, mae system bwmpio anhygoel. Meddyliwch am hyn – mae coed yn pwmpio dŵr tuag i fyny! Er bod dŵr fel arfer, wrth gwrs, yn llifo tuag i lawr.
Mae gwreiddiau'r goeden yn codi tua 10 galwyn o ddŵr am bob modfedd o gwmpas ei boncyff – neu i symleiddio'r fathemateg, mae coeden â chwmpas o tua 10 modfedd yn pwmpio rhyw 150 o alwyni o ddŵr i fyny bob wythnos! Mae hyn yn golygu 600 o alwyni bob mis.
Gyda llaw, ydych chi erioed wedi meddwl ys gwn i ble mae'r dŵr yn mynd pan fyddwn yn torri coed? Cywir, llifogydd!
Nid yn unig mae angen meintiau anferth o ddŵr ar goeden, ond fel y dywedais o’r blaen, mae'n rhaid iddi ei bwmpio yn erbyn disgyrchiant. Mae dŵr eisiau llifo i lawr, nid i fyny – welwch chi fyth afon yn rhedeg i fyny bryn. Felly, y tu mewn i foncyff coeden mae 2 fath o diwbiau – y ffloem a'r sylem, a'r ddau yn cario dŵr. Mae'r sylem yn symud i un cyfeiriad yn unig, ac mae gan y ffloem gyflenwad dŵr dwyffordd sy'n cynnwys mwynau a phroteinau. Mae'r dŵr yn cael ei wthio i fyny'r goeden gan sbigynnau tebyg i fflawiau y tu mewn i'r boncyff, i fyny at y canghennau a'r dail, lle mae'n cael ei wasgaru yn yr aer. Weithiau gallwch weld tarth dros goedwig law a dyna beth sy'n digwydd. Wedyn mae'r dŵr yn cael ei sugno i'r cymylau, mae'r cymylau'n glawio ac mae'r cylchred cyfan yn dechrau eto. Mae'n anhygoel pan fyddwch yn meddwl am hyn i gyd.
Mae coed yn llestri sy'n dal dyfroedd y ddaear.
Beth felly yw'r cysylltiad rhwng hyn oll a'm hymarfer? Pan fod y dŵr yn teithio yn y goeden, mae hyn yn creu dargludedd ac rwy'n defnyddio amrywiaeth eang o offer technolegol, aps a mesuryddion i fesur hyn, gan gymryd darlleniadau o'r gwreiddyn i'r ddeilen. Wedyn byddaf yn eu trosi'n sain ddigidol i’w cludo nôl i fy stiwdio, a'i nodiannu’n gerddoriaeth a arweinir gan goed.
Y sbardun i’r holl broses hon oedd pan ddechreuais ail-bwrpasu’r dechnoleg sy'n gyrru fy nheclynnau clyw, fel amledd sbectrol a sain ddigidol. Mae rhai elfennau'n fiofeddygol, fel stethosgop electronig, a rhai yn dechnolegol gan iddynt gael eu defnyddio i fesur chwys. Wrth i mi ddod yn fwy hyderus, mae fy arbrofi’n dyfnhau a nawr mae fy ngwaith yn gyfuniad o’r holl offer y mae fy Nghomisiwn Unlimited Main wedi fy ngalluogi i'w hadeiladu – ac yn ddiamau, bydd hyn yn parhau i ddatbygu.
Yn ogystal, rwy'n defnyddio fy offer sain mwy traddodiadol, fel recordyddion a microffonau digidol gyda thariannau a blimp, sef y gorchudd microffon mawr blewog y gwelwch bobl yn ei ddefnyddio ar y teledu i leihau sŵn y gwynt. Ond ar ôl dweud hyn, fel artist sain amgylcheddol, rydw i weithiau'n hoffi recordio'r gwynt a'i nodiannu – gallwch glywed hyn fel rhan o'm gwaith blaenorol wrth y wal amddiffyn rhag llifogydd ar Lwybr Arfordir y Mileniwm.
Rwy'n coladu’r holl synau hyn heb farnu ac yn dod â nhw nôl i fy stiwdio i'w catalogio ac i gyfansoddi gyda nhw. Y peth rwy'n hoffi fwyaf ynglŷn â chyfansoddi mewn cydweithrediad â choeden, yw bod holl reolau cerddoriaeth yn mynd allan drwy'r ffenestr. Dw i ddim yn ceisio plygu, dehongli neu lywio'r biorhythmau i gyd-fynd â chonfensiynau cerddorol – yn hytrach, rwy'n siapio'r cyfansoddiad yn ysgafn. Does gan goed ddim rhythmau 4 curiad neu raddfeydd melodig.
Pan oeddwn yn gweithio gyda'r Griafolen yng Nghoed Llennyrch, roedd y bylchau rhwng y biorhythmau mor hir nes i mi ddechrau meddwl eu bod wedi stopio, ac rydw i wedi gadael hyn yn y cyfansoddiad. Wedi'r cyfan, Mozart oedd y gŵr a ddywedodd nad y nodau yw cerddoriaeth, ond y distawrwydd rhyngddynt, ac rwy'n teimlo bod rhywbeth yn hynod bwerus yn yr hyn a ystyrir yn fwlch anghyffyrddus rhwng y seiniau gan fodau dynol.
Ond mae distawrwydd yn sŵn ac rwy'n teimlo'n gyffrous iawn ynglŷn â'r potensial i greu perfformiad o'r gwaith. Rwy'n gallu dychmygu pianydd a'i fysedd yn hofran, a'r gynulleidfa'n aros yn awyddus am y biorhythm wedi'i nodiannu cyntaf, yna maent yn dechrau cynhyrfu wrth aros i'r pianydd, am eu bod eisiau iddo lifo yn y ffordd draddodiadol. Rwy’n credu’n reddfol mai mwyaf oll y byddant yn cyfarwyddo ac yn derbyn drwy gydol y perfformiad, mwyaf fyddant yn ymdawelu ac yn gadael i'r goeden arwain, yn union fel y gwnaethom ninnau ar lethr y mynydd wrth gasglu'r biorhythmau.
Gobeithio bod hyn yn esbonio fy ymarfer a'm proses fel Artist Sain Amgylcheddol a'i fod yn eich helpu i'w ddeall yn well. Diolch yn fawr am ymuno â mi yn y broses o durio dan y rhisgl, sy'n brofiad cyfareddol a thrawsnewidiol. Mae eich ymgysylltiad â'm gwaith yn bwysig iawn i mi.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o'm Comisiwn Unlimited, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Trefnir fy Mhreswyliadau Coedwigoedd Glaw Celtaidd gan Goed Cadw, cangen Cymru o'r Woodland Trust, gyda chymorth gan y Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd, ar y cyd â'r RSPB, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Eryri a'r Gymdeithas Bywyd Gwyllt.
F'enw i yw Cheryl Beer. Rwy'n Artist Sain Amgylcheddol sy'n Nodiannu Natur yn ei hawr o gyfyngder, fel y gallwch ei chlywed yn well.