Cân y Coed Rainforest Symphony at the House of Commons
The earth beneath me was damp, the tree held my back firm and I felt my roots for the first time since waking up with hearing loss. I decided then and there, that I would find a way to repay nature for this healing, raising awareness of our most fragile ecologies and our vulnerability as part of them. I didn’t know how at that point, but I trusted the intention and it has led me here, to the House of Commons. In this blog post, I’m going to unearth how it came about, to show that, as individuals, when we connect with each other, we become greater than the sum of our parts. Cân y Coed / Song of the Trees Rainforest Symphony was created by repurposing hearing aid technology and other biomedical equipment to record biorhythmic readings from within the Rainforests of Wales, collaborating with trees, ferns and moss. Back in my studio, I used these readings to compose music & created a nature narrative across the rainforest enclaves to represent how, centuries ago, they were one enormous eco system, now divided by reservoirs, nuclear power stations, roads, housing, industry …
The work was a Main Commission for Unlimited funded by the Arts Council of Wales and my residencies were organised by Coed Cadw. When Cân y Coed, Song of the Trees Rainforest Symphony launched at the National Botanic Garden of Wales in 2021, with a permanent installation under an oak tree, it also screened for 2 weeks at the Welsh Senedd. If my work was truly going to make a difference, it felt important to place it in the heart of politics. However, I didn’t expect the trajectory of Cân y Coed from this point to become global. It took me by surprise. I learnt a very interesting lesson because as it started to fly, I decided not to have a plan but instead, set an intention to follow the work where it led. This was, at times, overwhelming, like the email from the Prime Minister’s Office to represent the UK. I couldn’t have managed these situations without the incredible organisations in Wales that support the Arts. I literally emailed the Director of Wales Arts International, Eluned Haf, and said, ‘Help, I’m out of my depth, the Prime Minister’s Office want me to jump in a Zoom and talk about representing the UK in Qatar’ and she said, ‘I’ll be there, I’ll come.’ And that level of support has held me and my work on this trajectory.

Following my tree installation at the Great Garden of Diversity in Qatar, I was browsing online and I saw that there was an exhibition space in the Houses of Parliament – imagine if the Rainforests of Wales could sing out directly to MPs at the House of Commons. When I looked to see how it might happen, I read that artists must be invited by their MP and I felt that asking mine was too great a thing. We live in an area of poverty, unemployment and have many other social issues. I didn’t want to take up the time of Dame Nia Griffiths, who works tirelessly on the ground as our member. But that very week, a flier came through my door inviting locals to come and meet with Nia at the Goods Shed in Llanelli, which is 5 minutes from my house and what’s more, we could book a one-to-one session to talk with her about anything we wanted. Given that I had committed myself to paying attention to where the work wanted to lead, I made an appointment to see Nia. When I told her all about my work, she didn’t hesitate. A week later, her PA contacted me and the arrangements began. Cân y Coed would exhibit at the House of Commons, a private viewing for members. Then Nia suggested a launch, where she would invite guests. It was a limited number allowed into the space, so I decided we would invite the strategic partners who had helped me. What a wonderful way to thank them. And I also invited organisations that have approached me for potential work in the future.
Now for the preparation – my first challenge was that the exhibition space needed to be silent. I am an Environmental Sound Artist who has composed a Rainforest Symphony, how can I exhibit in a silent space? I turned to my own listening experience. I hear the world through my hearing aids, little devices in my ears, so I decided to invite audience to do the same, using earphones & buds on their devices, by scanning a QR Code. But how could I exhibit a QR Code in this grand space?
You can see in the photograph that The Upper Hall is magnificent and huge! So, I needed something that would sit within it, not dominate, or overpower, but by the same token, not be lost. I decided to adapt a 4-meter banner, using it instead, as an installation to exhibit one poignant photograph that I took of the 10,000-year-old moss of our rainforests, a photograph used by The Woodand Trust as a centre fold in their 50th Anniversary magazine, earlier this year.
On the back of the installation, is a picture of me with the first tree where I experimented with collating biorhythms from beneath the bark. I didn’t want to be on the front of the installation, because my work places ‘nature’s voice centre stage’ not my own. I am the quiet conduit behind the trees. Only the truly inquisitive who venture behind the installation, will know I am there. That’s the exciting thing about art. People receive it differently. We can guide them as artists through our considerations, but the level at which they engage, belongs to them.

The installation was made with recycled plastic waste and can be recycled again. That felt important. In raising awareness of fragile ecologies, I do not want to compromise them. Therefore, alongside this, I placed wooden QR Codes, leading to the Symphony. CD’s would require non-recyclable products, and I wanted it to be plastic free. Fusion Carmarthenshire, Unlimited, Wales Arts International & Addo Creative Consultancy covered the cost outlay of the exhibition & related support. I had to go to London 3 times – set up, the day of launch and take down, each trip, needing a hearing assistant. I am so grateful to these organisations because I would never have been able to afford to do it otherwise, with the Cân y Coed network of support that I have developed on this journey, I was enabled to place the voice of the Rainforests in the heart of British politics.
It is an incredible achievement for me and the work. Personally, with my hearing loss, tinnitus and hyperacusis, the very idea of going to London even once, is beyond me. I have managed it by resting in a dark room for 2 to 3 days after every visit and by having hearing assistants to support me. Dealing with my anxiety and fear has been a challenge, but I have learnt that sometimes, the opportunity is greater than the fear. I am the first artist from Wales to exhibit at the House of Commons and that I am a disabled artist feels like a quiet form of activism in itself. I hope that by sharing with you how it came about, you might be the next Welsh artist and if you are, please write to tell me. I’d love to hear about it.
CYMRAEG : Symffoni'r Coedwigoedd Glaw Cân y Coed yn Nhŷ'r Cyffredin
Roedd y ddaear oddi tanaf yn llaith, daliodd y goeden fy nghefn yn gadarn a theimlais fy ngwreiddiau am y tro cyntaf ers i mi ddeffro wedi colli fy nghlyw. Penderfynais yn y fan a'r lle y byddwn yn chwilio am ffordd o ad-dalu natur am fy iacháu, gan godi ymwybyddiaeth o'n hecolegau mwyaf bregus a'n breuder ninnau fel rhan ohonynt. Doedden i ddim yn siŵr sut fyddwn yn gwneud hyn bryd hynny, ond ymddiriedais yn y bwriad ac mae wedi fy arwain yma, i Dŷ'r Cyffredin. Yn y postiad blog hwn, rwy'n mynd i esbonio sut ddigwyddodd hyn i ddangos, pan fyddwn ninnau fel unigolion yn ymgysylltu â'n gilydd, rydym yn dod yn fwy na swm ein rhannau.
Crëwyd Symffoni'r Coedwigoedd Glaw Cân y Coed drwy ailbwrpasu technoleg teclynnau clyw, ac offer biofeddygol arall i recordio darlleniadau biorhythmig o du mewn Coedwigoedd Glaw Cymru, gan gydweithio gyda choed, rhedyn a mwsogl. Yn ôl yn fy stiwdio, defnyddiais y darlleniadau hyn i gyfansoddi cerddoriaeth a chreu naratif natur ar draws y lleiniau o goedwig law i gynrychioli sut oeddent, ganrifoedd yn ôl, yn un system anferth, ac yn awr maent wedi'u gwahanu gan gronfeydd dŵr, gorsafoedd ynni niwclear, ffyrdd, tai, diwydiant …
Roedd y gwaith yn Brif Gomisiwn gan Unlimited a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a threfnwyd fy mhreswyliadau gan Goed Cadw. Pan gafodd Symffoni'r Coedwigoedd Glaw Cân y Coed ei lansio yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn 2021, gyda gosodiad parhaol dan goeden dderw, cafodd hefyd ei sgrinio am bythefnos yn Senedd Cymru. Os oedd fy ngwaith yn mynd i wneud gwahaniaeth go iawn, teimlai'n bwysig ei fod yn cael ei osod wrth galon gwleidyddiaeth.
Fodd bynnag, doedden i ddim wedi disgwyl y byddai llwybr Cân y Coed yn symud o'r man hwn i fod yn fyd-eang. Roedd yn syndod mawr i mi. Dysgais wers ddiddorol iawn oherwydd, wrth i bethau ddechrau hedfan, penderfynais beidio â chael cynllun ond yn hytrach, pennu'r bwriad o ddilyn y gwaith i ba le bynnag byddai'n fy arwain. Ar adegau, roedd hyn yn llethol, fel yr e-bost o Swyddfa'r Prif Weinidog yn gofyn i mi gynrychioli'r DU. Ni fyddwn wedi llwyddo i reoli'r sefyllfaoedd hyn heb y sefydliadau anhygoel yng Nghymru sy'n cefnogi'r Celfyddydau. Yn llythrennol, anfonais e-bost at Gyfarwyddwr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Eluned Haf, a dweud, ‘Help, rwyf mewn dyfroedd dyfnion, mae Swyddfa'r Prif Weinidog eisiau i mi ymuno â chyfarfod Zoom i drafod cynrychioli'r DU yn Qatar’. Atebodd hithau, ‘Byddaf i yno, mi wna i ddod.’ Ac mae'r lefel hon o gymorth wedi fy nghynnal innau a'm gwaith ar hyd y llwybr hwn.
Ar ôl fy ngosodiad coed yn yr Ardd Fawr Amrywiaeth yn Qatar, roeddwn yn pori ar-lein a gwelais fod man arddangos yn y Senedd yn Llundain – dychmygwch pe byddai Coedwigoedd Glaw Cymru yn gallu canu'n uniongyrchol i'r ASau yn Nhŷ'r Cyffredin! Pan edrychais i weld sut gallai hyn ddigwydd, darllenais fod rhaid i artistiaid gael eu gwahodd gan eu AS a theimlais y byddai gofyn i'm AS innau yn ormod o beth. Rydym yn byw mewn ardal o dlodi, diweithdra a llawer o faterion cymdeithasol eraill. Doeddwn i ddim eisiau llyncu amser Y Fonesig Nia Griffiths sy'n gweithio'n ddiflino ar lawr gwlad fel ein haelod. Ond yr union wythnos honno, daeth taflen drwy fy nrws yn gwahodd pobl leol i ddod i gwrdd â Nia yn y Goods Shed yn Llanelli – 5 munud oddi wrth fy nhŷ, ac ar ben hynny, roedd cyfle i fwcio sesiwn un i un i siarad â hi am unrhyw beth. Gan fy mod wedi ymrwymo i dalu sylw i ble roedd y gwaith eisiau fy arwain, trefnais apwyntiad i weld Nia. Pan ddisgrifiais fy ngwaith, gwnaeth hi ddim petruso. Wythnos yn ddiweddarach, cysylltodd ei Chynorthwyydd Personol â mi a dechreuodd y trefniadau. Byddai Cân y Coed yn arddangos yn Nhŷ'r Cyffredin ar ffurf arddangosiad preifat i aelodau. Yna awgrymodd Nia lansiad, lle byddai'n gwahodd gwesteion. Roedd lle i nifer fechan yn unig, felly penderfynais y byddem yn gwahodd y partneriaid strategol oedd wedi fy helpu. Am ffordd ryfeddol o ddiolch iddynt! Yn ogystal, gwahoddais sefydliadau sydd wedi cysylltu â mi ar gyfer gwaith posibl yn y dyfodol.
Nawr at y cam paratoi – fy her gyntaf oedd bod rhaid i'r man arddangos fod yn ddistaw. Rwy'n Artist Sain Amgylcheddol sydd wedi cyfansoddi Symffoni gan y Coedwigoedd Glaw, felly sut alla i arddangos mewn man distaw? Trois at fy mhrofiad gwrando personol. Rwy'n clywed y byd trwy fy nheclynnau clyw, dyfeisiau bach yn fy nghlustiau, felly penderfynais wahodd y gynulleidfa i wneud yr un peth, gan ddefnyddio clustffonau a bydiau ar eu dyfeisiau, a sganio cod QR. Ond sut gallwn i arddangos cod QR yn y man godidog hwn?
Gallwch weld yn y llun fod y Neuadd Uchaf yn ysblennydd ac yn anferth! Felly roedd angen rhywbeth a fyddai'n eistedd o'i mewn, heb ei goruchafu neu lywodraethu drosti, ond ar yr un pryd, heb i’r gosodiad gael ei golli. Penderfynais addasu baner 4 metr a'i defnyddio fel gosodiad i arddangos un llun ingol a dynnais o fwsogl 10,000 o flynyddoedd oed yn ein Coedwigoedd Glaw, llun a ddefnyddiwyd gan Goed Cadw fel tudalen ganol eu cylchgrawn Hannercanmlwyddiant yn gynharach eleni.
Ar gefn y gosodiad, mae llun ohonof innau gyda'r goeden gyntaf lle bûm yn arbrofi ar goladu biorhythmau yn ymgodi o dan y rhisgl. Doeddwn i ddim eisiau bod ar wyneb blaen y gosodiad am fod fy ngwaith yn gosod ‘Llais Natur yng nghanol y llwyfan’ ac nid fy llais innau. Y fi yw'r sianel dawel y tu ôl i’r coed. Dim ond y rhai gwir chwilfrydig sy'n mentro y tu ôl i'r gosodiad fydd yn gwybod fy mod i yno. Dyna beth sy'n gyffrous ynglŷn â chelf. Mae pobl yn ei derbyn mewn ffyrdd gwahanol. Gallwn ei llywio fel artistiaid trwy ein hystyriaethau ninnau, ond mae'r lefel lle maent yn dewis ymgysylltu yn perthyn i’r bobl ei hun.
Gwnaed y gosodiad o wastraff plastig wedi'i ailgylchu a gellir ei ailgylchu eto. Roedd hyn yn teimlo'n bwysig. Wrth godi ymwybyddiaeth o ecolegau bregus, dydw i ddim eisiau eu cyfaddawdu. Felly, ar y cyd â hyn, gosodais Godau QR o Bren i arwain at y Symffoni. Byddai angen cynhyrchion na ellir eu hailgylchu i wneud CDs, ac roeddwn eisiau iddo fod yn rhydd o blastig.
Talodd Fusion Sir Gâr, Unlimited a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, a'r Addo Creative Consultancy am gost y gwariant ar yr arddangosfa a'r cymorth cysylltiedig. Roedd yn rhaid i mi fynd i Lundain 3 gwaith – i sefydlu’r arddangosfa, ar ddiwrnod y lansiad, ac i dynnu'r arddangosfa i lawr, ac ar gyfer pob taith, roedd angen cynorthwyydd clywed arnaf. Rwyf mor ddiolchgar i'r sefydliadau hyn oherwydd ni fyddwn fyth wedi gallu fforddio ei wneud fel arall – gyda’r rhwydwaith gymorth Cân y Coed rydw i wedi ei datblygu ar y daith hon, roeddwn yn gallu gosod llais y Coedwigoedd Glaw wrth galon gwleidyddiaeth Prydain.
Mae'n gyflawniad anhygoel i mi ac i'r gwaith. Yn bersonol, gan fy mod wedi colli fy nghlyw, ac yn dioddef o tinitws a hyperacusis, roedd yr union syniad o fynd i Lundain unwaith hyd yn oed, y tu hwnt i'm gallu. Rydw i wedi rheoli hyn drwy orffwys mewn ystafell dywyll am 2 neu 3 diwrnod ar ôl pob ymweliad a thrwy gael cynorthwywyr clywed i'm helpu. Mae delio â'm gorbryder ac ofn wedi bod yn heriol, ond rydw i wedi dysgu bod cyfle, weithiau, yn gallu gorchfygu ofn. Y fi yw'r artist cyntaf o Gymru sydd wedi arddangos yn Nhŷ'r Cyffredin ac mae'r ffaith fy mod yn artist anabl yn teimlo fel rhyw fath ar actifiaeth dawel yn ei hun. Trwy rannu gyda chi sut ddigwyddodd hyn, gobeithiaf mai chi fydd yr artist Cymreig nesaf efallai, ac os felly, rhowch wybod i mi. Byddwn wrth fy modd yn clywed eich hanes.