FUTURE WALES FELLOWSHIP 2023/25 |
CYMRODORIAETH CYMRU’R DYFODOL |
Friends, I have THE MOST INCREDIBLE NEWS!!! I'm very pleased to announce that I have been selected as one of 8 artists for the Future Wales Fellowship with Arts Council of Wales & Natural Resources Wales, National Trust Cymru & Elan Valley Trust. For the next 16 months, based at the National Botanic Garden of Wales, my research will enable a creative exploration, unearthing how nature makes us feel and the possibilities for deepening emotional connections by repurposing deaf associated technology, motivating a compassionate desire to embed nature literacy within a healing strategy for the climate crisis.
In addition to the partnership facilitating the Fellowship, I really want to thank two key people who inspired my research proposal. Kaz Jefferies at Llanelli Deaf Centre, who introduced me to woojer jackets during BSL classes; a way of feeling the vibration of sound in the body, as well as Bruce Langridge, a mycologist & interpretation manager at the NBGW for giving me feedback that my work reaches people on a deeper emotional level than science can. Like all good research, my Fellowship begins with a literature review - so if you know of any good books or papers that you think I should read, feel free to post the titles in the comments. Friends, your ongoing support on this rollercoaster ride means the world to me. There will be opportunities for you to join me in test groups later on in the research, so maybe you will be amongst the first to feel nature from beneath the bark, to within the skin. Here is a link that explains the Future Wales Fellowship in more detail - https://arts.wales/.../eight-artists-announced-future... |
Gyfeillion, mae gen i'r NEWYDDION MWYAF ANHYGOEL!!! Rwy'n falch iawn o gyhoeddi fy mod wedi cael fy newis yn un o 8 artist ar gyfer Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Am y 16 mis nesaf, byddaf yn gwneud ymchwil yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (NGBW) a fydd yn hwyluso archwiliad creadigol – i ddatguddio sut mae natur yn gwneud i ni deimlo a'r posibiliadau ar gyfer dyfnhau cysylltiadau emosiynol drwy ailbwrpasu technoleg sy'n gysylltiedig â byddardod, ac i ysgogi dyhead tosturiol i fewnblannu llythrennedd natur mewn strategaeth iacháu ar gyfer yr argyfwng hinsawdd.
Yn ogystal â'r bartneriaeth sy'n hwyluso'r Gymrodoriaeth, hoffwn hefyd roi diolch i ddau berson allweddol a ysbrydolodd fy nghynllun ymchwil. Kaz Jefferies yng Nghanolfan y Byddar Llanelli, a gyflwynodd siacedi Joofer i mi yn ystod dosbarthiadau BSL: mae hon yn ffordd o deimlo dirgryniad sain yn y corff; ynghyd â Bruce Langridge, mycolegydd a rheolwr dehongli yn NBGW, am roi adborth i mi fod fy ngwaith yn cyrraedd pobl ar lefel emosiynol ddyfnach nag y gall gwyddoniaeth ei wneud. Fel pob ymchwil da, mae fy Nghymrodoriaeth yn dechrau gydag adolygiad o'r llenyddiaeth – felly os ydych yn gwybod am lyfrau neu bapurau da rydych yn meddwl y dylen i eu darllen, mae croeso i chi bostio’r teitlau yn yr adran sylwadau. Gyfeillion, mae eich cefnogaeth barhaus ar y daith gyffrous hon yn werth y byd i mi. Bydd cyfleoedd i chi ymuno â mi mewn grwpiau prawf yn ddiweddarach yn yr ymchwil, felly efallai byddwch chi ymhlith y rhai cyntaf i deimlo natur o dan y rhisgl, i du mewn y croen. Dyma ddolen sy'n esbonio Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn fwy manwl – https://arts.wales/.../cyhoeddi-wyth-o-artistiaid |