FIRST LOVE & PEACE LILY
What better way to start my Cân Y Coed blog than with a Peace Lily, especially in these unprecedented times of unrest, but my relationship with the natural world starts long before this.
I was 2 when we moved to the maisonettes. We lived on the ground floor, next to the washing lines. Once a week, everybody walked past our kitchen to hang out their smalls. The maisonettes were built in a square, with a slightly sloping hill, which led down to a single, ancient, oak tree, that likely used to stand as part of a forest, cut down to house the likes of us; young, working class families, living on the breadline. I hadn't long come out of hospital with peritonitis. Medicine wasn't how it is now. I wore a bandage waistcoat as my scars wouldn't heal & the surgery had left a hole in my stomach. Every week, the District Nurse visited to change the waistcoat, she would place the bandages in an old biscuit tin & heat them in the oven to sterilise. Yes, they were different times, indeed. Having been stuck wistfully gazing from a hospital window, the very idea of being outside was like heaven to me and my Mum says she struggled to get me indoors. It was an instant love affair between me and that old, ancient oak tree. I'm not even sure what I did down there all day, but I would cry at the thought of leaving her overnight. Her name was 'The Big Tree' and I took little reminders of her home with me; leaves, acorns, twigs, tiny little stones, dust & dirt, keeping them under my bed. 'Why can't you keep toys under your bed!’ my Mum would say, ‘Your bedroom is full of oak tree.'' 40 years later, I returned to the maisonettes. When I pulled up, I could literally feel my heart racing, it was as if I was 5 years old again. Would The Big Tree remember me? I ran through the main entrance, down the slightly sloping hill so fast, that I thought my legs might get there first, but I was stopped in my tracks. They had cut her down. All that was left, was her stump. I sat on the ground next to her, just as I had all those years ago, and I cried into the rings of her trunk. |
Then, from the corner of my eye, I noticed, not far from where she stood, another oak tree had grown, probably about 10 years old, I recognised her as Big Tree's daughter and flung my arms around her. Only now do I know, through my research for Cân Y Coed, that likely Big Tree was holding her daughter under the ground with the fine feathery threads of fimgi called mycelium, that likely holds their roots together, still. 'I love you Big Tree,' I cried. She was my first love, teaching me the most important lesson, & that is, to love all trees.
Perhaps that is why Cân Y Coed feel like such an important commission. When I awoke hearing impaired 4 years ago, it was the sound of nature I missed the most, and the natural world who nursed my other senses until my hearing aids gave me back my connection to place. Since that moment, I have worked tirelessly to bring the joy of nature to those disconnected from it – I am so grateful to the natural world for giving me back a sense of Self, so much so that I began to wonder, what could I do for her? That, with a combined desire to hear her more deeply, inspired me to start experimenting with the very technology that fuels my hearing aids, using bio medical science, technology and sound to create something meaningful, that raises awareness of how fragile and yet crucial nature is to our well-being. My deepened research began during lockdown. I suppose I had the time to focus fully on it and remarkably, I worked out how to transpose natural biorhythms, that is, the activity within trees, plants and the natural world, turning into digital sound – and once I had done that, through the visualisation of that sound i.e./ spectral frequency, I was able to notate it – I hope this film I include here of the peace lily will show you the process within my practice. This is the first in a series of blogs, vlogs and what I am calling 'podtapes', that I’ve been commissioned to make of my Cân Y Coed adventure, so why not add me as a friend on Facebook for daily updates, and come back here, to my website, and catch up with me in the rainforests of Wales. My name is Cheryl Beer. I am the conduit composer, an environmental sound artist notating nature in her hour of distress, enabling you to hear her song. |
CYMRAEG : CARIAD CYNTAF a Lili Heddwch
Does dim ffordd well o ddechrau ar fy nhaith Cân Y Coed na gyda Lili Heddwch, yn enwedig yn y cyfnod digynsail hwn o aflonyddwch – ond dechreuodd fy mherthynas â'r byd naturiol ymhell cyn hyn.
Pan oeddwn yn 2 flwydd oed, symudon ni i fyw yn y 'maisonettes'. Roedden ni'n byw ar y llawr gwaelod, wrth ochr y leiniau dillad. Unwaith yr wythnos, byddai pawb yn cerdded heibio i'n cegin i hongian eu dillad isaf. Roedd y maisonettes mewn sgwâr, ar riw fechan a arweiniai i lawr at hen dderwen ar ei phen ei hun. Yn ôl pob tebyg, roedd hon gynt yn rhan o goedwig a dorrwyd i greu cartrefi i bobl fel ninnau: teuluoedd ifanc, dosbarth gweithiol, yn byw mewn tlodi.
Roedden i newydd adael yr ysbyty ar ôl cael peritonitis. Roedd meddygaeth bryd hynny'n wahanol iawn i nawr. Roedd rhaid i mi wisgo gwasgod o rwymynnau am nad oedd fy nghreithiau'n gwella ac roedd y llawdriniaeth wedi gadael twll yn fy stumog. Bob wythnos, byddai'r Nyrs Ardal yn galw i newid y wasgod. Byddai'n rhoi'r rhwymynnau mewn hen dun bisgedi a'u cynhesu yn y ffwrn i'w diheintio. Yn wir, roedd yr amserau hynny’n wahanol iawn.
Ar ôl cael fy nghaethiwo mewn ysbyty yn syllu’n hiraethus drwy'r ffenestr, roedd dim ond meddal am fod y tu allan yn nefoedd i mi, a byddai fy Mam yn cael anhawster i'm denu i mewn i'r tŷ. Roedd yn garwriaeth ddisyfyd rhyngof i a'r hen dderwen hynafol. Dwi ddim hyd yn oed yn siŵr beth oedden i'n ei wneud drwy'r dydd, ond byddwn i'n wylo wrth feddwl am ei gadael dros nos. Ei henw oedd 'Y Goeden Fawr' a byddwn i'n dod â darnau ohoni adref i'm hatgoffa: dail, mes, brigau, cerrig bychain, llwch a baw, ac yn eu cadw dan fy ngwely. ‘Pam na alli di gadw teganau dan dy wely!’ dywedai fy Mam‘, ‘Mae dy ystafell wely'n llawn coeden dderw.’'
40 mlynedd yn ddiweddarach, dychwelais i'r maisonettes. Wrth gyrraedd, roedd fy nghalon yn rasio, teimlwn yn 5 mlwydd oed eto. A fyddai'r Goeden Fawr yn fy nghofio? Rhedais drwy'r brif fynedfa, ac i lawr y rhiw fechan, mor gyflym nes i mi feddwl y byddai fy nghoesau'n cyrraedd o'm blaen, ac yna sefais yn stond. Roeddent wedi ei thorri. Dim ond ei bôn oedd ar ôl. Eisteddais ar y ddaear wrth ei hochr, fel y byddwn yn ei wneud flynyddoedd maith yn ôl, ac wylais dros y cylchoedd yn ei boncyff. Ac yna, o gil fy llygad, gwelais fod derwen arall, tua 10 mlwydd oed, wedi tyfu’n agos at yr hen goeden. Deallais mai merch y Goeden Fawr oedd hi, a theflais fy mreichiau o'i chwmpas. Drwy fy ymchwil, rydw i wedi deall bellach fod y Goeden Fawr, yn ôl pob tebyg, yn dal ei merch dan y ddaear gan edeifion pluog mân o fyseliwm, ac mae'n debyg bod hwn yn parhau i ddal eu gwreiddiau gyda'i gilydd. ‘Rwy'n dy garu, Goeden Fawr,’ wylais. Hon oedd fy nghariad cyntaf, a ddysgodd y wers bwysicaf i mi – bod rhaid i ni garu coed.
Efallai mai dyna pam mae Cân Y Coed yn teimlo'n gomisiwn mor bwysig. Pan ddihunais â nam ar fy nghlyw 4 blynedd yn ôl, y peth fyddwn i'n ei golli fwyaf oedd sŵn natur, a'r byd naturiol a faethodd fy synhwyrau eraill nes i'r teclynnau clyw adfer fy nghysylltiad â lle. Ers y foment honno, rydw i wedi gweithio'n ddiflino i ddod â llawenydd natur i'r rhai sydd wedi eu datgysylltu oddi wrthi – rwyf mor ddiolchgar i'r byd naturiol am adfer fy ymdeimlad o Hunan, nes i mi ddechrau meddwl, beth allwn i ei wneud iddi hithau? Oherwydd hyn, ac am fod gen i awydd i'w chlywed yn ddyfnach, cefais fy ysbrydoli i ddechrau arbrofi â'r dechnoleg sy'n gyrru fy nheclynnau clyw. Defnyddiais wyddor fiofeddygol, technoleg a sain i greu rhywbeth ystyrlon, sy'n codi ymwybyddiaeth o ba mor fregus, ond eto mor hanfodol yw natur ar gyfer ein llesiant.
Dechreuodd fy ymchwil yn ystod y cyfyngiadau symud. Roedd gen i'r amser i ganolbwyntio'n llawn arno ac, yn rhyfeddol, llwyddais i ddysgu sut i drawsnodi biorhythmau naturiol, sef y gweithgaredd sy’n digwydd y tu mewn i goed, planhigion a'r byd naturiol, yn sain ddigidol. Ac ar ôl gwneud hynny, drwy ddelweddu'r sain honno h.y. amledd sbectrol, roeddwn i'n gallu ei nodiannu. Gobeithio bydd y ffilm a gynhwysir yma o'r lili heddwch yn dangos y broses yn fy ymarfer.
Rwyf wedi cael fy nghomisiynu i wneud cyfres o flogiau, vlogiau a phod-dapiau o'm hantur, Cân Y Coed, a dyma'r cyntaf yn y gyfres. Felly beth am ofyn i mi am ddiweddariadau dyddiol, fel ffrind ar Facebook, a dod nôl yma i'm gwefan, i'm dilyn drwy goedwigoedd glaw Cymru.
Croeso, f'enw i yw Cheryl Beer. Y fi yw'r cyfansoddwr cwndid, yr artist sain amgylcheddol, sy'n nodiannu natur yn ei hawr o gyfyngder, a'ch galluogi i glywed ei chân.