The hidden gem of Coed Cwm ElanI am almost too excited to write this blog because something happened while we were at the RSPB Cwn Elan Elan Rainforests, that I didn’t even know about in full, until we got back and I played all the recordings in my studio though my loud speakers; I discovered a hidden gem, but before I go further, let me tell you what happened when myself and my hearing assistant, Alison, arrived.
We followed the coordinates given and the google maps, ending up in Cnwch at Elan Valley, but I could tell this wasn’t a rainforest. For a start, it was too accessible and the trees were all non-native. Hardly any oaks, so that was a dead giveaway, but we trusted the geography and carried on. I worked with 4 trees collating the biorhythms and to be honest, we were very happily set up on a comfortable bench with our picnic and flask, lots of lovely bird boxes around, wandering sheep, we could have easily stayed there all week, but my hunch wouldn’t stop bugging me, so we went to the Information Centre to talk with an Officer there. We met a wonderful young man called Tom Jones. Now there’s a name that’s not easy to forget when you’re in Wales! But our Tom specialises in working with invertebrate – insects and he told us about a fascinating project that he was involved with through Welsh Water, RSPB and local farmers, one of whom is his dad. Tom grew up in this area on his family farm and came back here after university. The project is investigating the lack of birds in the forests. Now then, Alison and I were very interested in this because one of the most notable things so far, has been the lack of birdsong in the rainforests, which surprised us and we couldn’t understand it, but Tom explained. The overgrown ferns and bracken cause too much shade on the ground. This ecology is not good for insects and consequently, they have died away. This has affected the food chain because small mammals and birds have nothing to feed on. So, the project started by introducing lots of sheep to the woods. They are absolutely beautiful and seemingly pop up everywhere, but what Tom told us is that the sheep cause the reverse problem, because they just don’t’ stop eating! So much so, that they munch all the ferns and bracken too far back, with the same result for the insect ecology and the food chain. So, the project has introduced cows to the forests. Now who would have thought that cows would increase the number of birds but, the cows are much slower eaters and they don’t eat back to the root like sheep do, leaving just the right amount of shade for the insects, which has started attracting the small mammals and birds back to the area. Genius! Anyway, I digress, Tom said that as far as he knew, Cnwch woods was the rainforest but having said that, only a few weeks back some researchers like us had been working in the same area and the Rainforest Officer had wondered why they were there, saying to Tom that it wasn’t the right place. Sadly, the Officer was on leave during our stay. So, I got some old maps and lined them up with directions that Kirsten Manley, had sent me from Coed Cadw and as far as I could see, the RSPB rainforests began in Cwm Coel, which was past the information centre, across the reservoir bridge, parking up by Nantgwyllt Church. |
There is a very interesting story about the church as it was re-sited there after the village of Elan had been drowned to create the reservoir. The poet Shelley had wanted to live at Elan, and was set to until he found out that the whole valley was being sacrificed for water. Knowing this inspired me to write my own poem, which, if you’re interested, I will include at the end of this blog post – where I imagine a woman reluctant to leave her family home, the place where she had birthed her children and nursed her parents.
But, back to the RSPB Celtic rainforests, where were they? There is a map in the car park and it shows you a hairpin footpath and if you walk to the turn, there is a wooden bridge over a small water fall. If you take the bridge, you will miss the entrance to the rainforest. It is barely an entrance, more an animal trail, as if made by a fox, thin and spindly, and very steep. So, Alison and I decided not climb it. We were carrying all my recording equipment and to be honest, we didn’t feel safe – but I worked out that if we carried on around the hairpin, there was a fence that had been installed by RSPB to begin the cultivation of the rainforests, reinstating the native trees and when you look up into the steep rise, all you can see is oak trees. We based ourselves here for the remainder of the residency, working with the trees on the cusp of the rainforest and it is here that the most remarkable thing happened, that I didn’t know about in full, until I got home to my studio. I worked with 6 trees in total and for the first time, also a fern, collating the biorhythms by measuring the dispersion of water conductivity from root to leaf. Now, when I played back the recordings in my studio, at first there were no surprises, 5 of the trees all did as I expected, they were all in a similar spot and so able to replenish with similar resources. The fern sounded different, as you would expect but during my very last recording of a young oak tree, the last recording of our residency, a miracle happened that opened my heart until it burst. Whilst in the rainforest, I am transposing the biorhythms into digital sound and with this young oak, at first, all is as it was with the other trees, but then, on playback, I heard a bird who starts to join in with the digital transposition of the biorhythms. Then other birds join in. Now, remember what I have told you about the lack of birdsong in the rainforest, this is the first time we had heard it outside of the morning chorus. Slowly, more and more birds join in with the biorhythms of the tree, and then, the tree’s biorhythms begin to change, they become more tuneful, if you like, much more so than the other trees. There is no biological reason for this, the environment was the same for all the trees. The more the birds joined in, the more melodic the biorhythms became. Now there is a point in the recording where Alison and I notice this … we look at each other in absolute joy and disbelief … it is akin to a duet between a tree and the birds but the extent of this was not clear to my ears until playback in my studio. I am not sure what to do with the recording. It is a sound sculpture in itself and I am still sitting with it artistically to feel where it fits into the overall Sound Sculpture of Can Y Coed, but the longer I am in the rainforests, the more the sculpture become a deeply unique story of itself. You may remember, on my Woodland Trust residency, we noticed how tree biorhythms slow down or stop when the loud noise of the low flying aircraft went past and now, in this residency, a tree and a whole choir of birds, have sung together and it is these unexpected, serendipitous findings that shape and re-shape my experience as an environmental sound artist, as well as how I understand the natural world as a human being and I need to reflect upon this and how it will impact the final sculpture. I am not a scientist and what I tell is you is not empirical evidence collated under scientific conditions. I am an environmental sound artist experimenting with and applying technology through a creative lens and all I can tell you is what I see and hear. When you hear it, is for you to decide if the birds and trees sing together, for me and Alison, who have spent many hours in the rainforest working with the trees, this unprecedented duet, is a truth that will always stay with us. |
Coed Cwm Elan ‒ y trysor cudd
Rydw i wedi cynhyrfu gormod i ysgrifennu'r blog hwn bron iawn, am fod rhywbeth wedi digwydd pan oedden ni yng Nghwm Elan nad oeddwn wedi ei ddeall yn llawn nes i ni ddod adref ac i mi chwarae'r holl recordiadau yn fy stiwdio drwy'r seinyddion: deuthum ar draws drysor cudd. Ond cyn i mi fynd ymhellach, gadewch i mi esbonio beth ddigwyddodd pan gyrhaeddais innau a'm cynorthwyydd clywed, Alison.
Dilynom y cyfesurynnau a'r mapiau Google a roddwyd, gan lanio yng Nghoedwig Cnwch yng Nghwm Elan, ond roedd yn amlwg i mi nad coedwig law oedd hon. I ddechrau, roedd yn rhy hygyrch ac roedd y coed i gyd yn anfrodorol. Braidd dim coed derw, fel roedd yn annhebygol, ond ymddiriedom yn y ddaearyddiaeth a bwrw ymlaen. Gweithiais gyda 4 coeden yn coladu'r biorhythmau ac, a dweud y gwir, roedden ni'n gwbl ddedwydd yno ar fainc gyfforddus gyda'n picnic a'n fflasg. Roedd llawer o flychau adar, a defaid yn crwydro o gwmpas a gallen ni fod wedi aros yno drwy'r wythnos ‒ ond roedd syniad yn troi yn fy mhen drwy'r amser, felly aethom i'r Canolfan Croeso i siarad ag un o’r Swyddogion.
Cawsom sgwrs gyda dyn ifanc hyfryd o’r enw Tom Jones. Am enw na ellir ei anghofio yng Nghymru! Ond mae ein Tom ninnau yn arbenigo mewn gweithio gydag infertebratau ‒ pryfed, a soniodd wrthym am brosiect cyfareddol roedd yn gweithio arno gyda Dŵr Cymru, yr RSPB a ffermwyr lleol ‒ roedd ei dad yn un o’r rhain. Magwyd Tom yn yr ardal hon ar fferm ei deulu a daeth nôl yma ar ôl mynd i'r brifysgol. Mae'r prosiect yn ymchwilio i'r prinder adar yn y coedwigoedd. Wrth gwrs, roedd diddordeb mawr gen i ac Alison yn hyn am mai un o'r pethau mwyaf nodedig hyd yma yw'r prinder adar yn canu yn y coedwigoedd glaw ‒ roedd hyn wedi ein synnu a doedden ni ddim yn deall y peth. Ond cawsom esboniad gan Tom.
Mae’r rhedyn sy'n tyfu'n wyllt yn taflu gormod o gysgod ar y ddaear. Dydy'r ecoleg hon ddim yn dda i bryfed ac, o ganlyniad, maen nhw wedi diflannu. Mae hyn wedi effeithio ar y gadwyn fwyd oherwydd does dim bwyd i famolion bach ac adar. Felly dechreuodd y prosiect drwy gyflwyno llawer o ddefaid i'r goedwig. Maen nhw'n hynod o hardd ac yn crwydro ym mhobman, ond yn ôl Tom, mae'r defaid, yn achosi problem i'r gwrthwyneb, oherwydd dydyn nhw ddim yn stopio bwyta! I'r graddau eu bod yn bwyta'r rhedyn i lawr i'r bôn, ac mae hyn yn creu'r un canlyniad o ran ecoleg pryfed a'r gadwyn fwyd.
Felly mae'r prosiect wedi dod â gwartheg i'r coedwigoedd. Pwy yn y byd fyddai’n meddwl y byddai gwartheg yn gallu cynyddu nifer yr adar ond, mae gwartheg yn bwyta'n llawer arafach a dydyn nhw ddim yn bwyta i’r gwreiddyn fel defaid, gan adael y swm cywir o gysgod i’r pryfed. Mae hyn wedi dechrau denu'r mamolion bach a'r adar nôl i'r ardal. Anhygoel!
Beth bynnag, rwy'n crwydro. Hyd y gwyddai Tom, Coedwig Cnwch oedd y goedwig law, ond ar ôl dweud hynny, ychydig wythnosau yn ôl roedd ymchwilwyr fel ninnau wedi bod yn gweithio yn yr un ardal ac roedd y Swyddog Coedwigoedd Glaw wedi dweud wrth Tom ei fod yn amau nad hwn oedd y lle cywir. Yn anffodus, roedd y Swyddog ar ei wyliau yn ystod ein hymweliad. Felly cesglais hen fapiau a'u paru â'r cyfarwyddiadau a gefais gan Kirsten Manley o Goed Cadw a, hyd y gallwn weld, roedd y coedwigoedd glaw yn dechrau yng Nghwm Coel, y tu hwnt i’r canolfan croeso, yr ochr draw i bont y gronfa ddŵr, ar ôl parcio ger Eglwys Nantgwyllt.
Mae hanes yr eglwys hon yn ddiddorol iawn gan iddi gael ei hadleoli yma pan foddwyd pentref Elan i greu'r gronfa ddŵr. Roedd y bardd Shelley eisiau byw yn Elan ac roedd ar fin gwneud hynny pan sylweddolodd bod y cwm cyfan wedi cael ei aberthu i gyflenwi dŵr. Pan ddarllenais hyn, cefais fy ysbrydoli i ysgrifennu cerdd hefyd ‒ os oes ddiddordeb gennych, fe wnaf ei chynnwys ar ddiwedd y post blog hwn. Rwy’n dychmygu gwraig sy'n anfodlon gadael ei chartref teuluol, y man lle ganwyd ei phlant a lle gofalodd am ei rhieni.
Ond, nôl a ni i'r coedwigoedd glaw Celtaidd – ble roedden nhw? Mae map yn y maes parcio sy'n dangos llwybr troed â bachdro ac os cerddwch at y tro hwn, mae pont bren yn croesi rhaeadr fechan. Os croeswch y bont, byddwch wedi colli'r fynedfa i'r goedwig law. Nid mynedfa go iawn ydyw ‒ mae'n debycach i lwybr anifail, fel llwynog, yn gul ac yn heglog, ac yn serth iawn. Felly penderfynais innau ac Alison beidio â'i ddringo. Roeddem yn cario fy holl offer recordio ac, a bod yn onest, doedden ni ddim yn teimlo'n ddiogel ‒ ond sylweddolais, pe byddem yn mynd yn ein blaen o gwmpas y bachdro, roedd yno ffens a osodwyd gan yr RSPB i ddechrau amaethu'r coedwigoedd glaw ac adfer y coed brodorol, ac wrth edrych i fyny'r rhiw serth, y cyfan a welwch yw coed derw. Arhosom yma am weddill y preswyliad, gan weithio gyda'r coed ar ymyl y goedwig law. A dyma lle digwyddodd y peth mwyaf anhygoel, nad oedden wedi ei ddeall yn iawn nes i mi gyrraedd nôl at fy stiwdio.
Gweithiais gyda chyfanswm o 6 choeden ac, am y tro cyntaf, gyda rhedynen hefyd, gan goladu'r biorhythmau trwy fesur dargludedd y dŵr o'r gwreiddyn i'r ddeilen. Wrth i mi ailchwarae'r recordiadau yn fy stiwdio, i ddechrau, doedd yna ddim byd annisgwyl. Gwnaeth 5 o'r coed yn union fel y disgwyliwn ‒ roeddent bob un yn yr un man ac felly yn gallu atgyflenwi ag adnoddau tebyg. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, roedd sŵn gwahanol gan y rhedynen, ond yn ystod fy recordiad olaf o dderwen ifanc, recordiad olaf ein preswyliad, digwyddodd gwyrth a agorodd fy nghalon nes iddi ffrwydro.
Yn y goedwig, rwy'n trawsnodi'r biorhythmau’n sain ddigidol ac i ddechrau, roedd y dderwen ifanc hon yn debyg i'r holl goed eraill. Ond wedyn, wrth ailchwarae, clywais aderyn yn dechrau ymuno â thrawsnodiad digidol y biorhythmau. Yna mae adar eraill yn ymuno. Mae angen i chi gofio beth ddywedais am y prinder caneuon adar yn y goedwig law, a dyma'r tro cyntaf i ni eu clywed heblaw am gôr y bore bach. Yn araf, ymunodd mwy a mwy o adar â biorhythmau'r goeden, ac wedyn, mae biorhythmau'r goeden ei hun yn dechrau newid ‒ maen nhw'n dod yn fwy soniarus, yn fwy soniarus o lawer na'r coed eraill. Nid oes unrhyw reswm biolegol am hyn, roedd yr holl goed yn yr un amgylchedd.
Mwyaf oll roedd yr adar yn ymuno, mwyaf melodaidd oedd y biorhythmau. Mae un man yn y recordiad lle mae Alison a minnau yn sylwi ar hyn ... edrychom ar ei gilydd mewn anghrediniaeth a llawenydd llwyr. Mae'n debyg i ddeuawd rhwng y goeden a'r adar, ond nid oedd fy nghlustiau’n gallu clywed y gwir raddau nes i mi ei ailchwarae yn fy stiwdio.
Dydw i ddim yn siŵr beth i'w wneud â'r recordiad hwn. Mae'n gerflun sain unigryw ac rwy'n dal i roi ystyriaeth artistig iddo i geisio gweld ble mae'n ffitio yng Ngherflunwaith Sain Cân y Coed. Ond mwyaf oll o amser rwy'n treulio yn y coedwigoedd glaw, mwyaf fydd y cerflunwaith hwn yn dod yn stori unigryw am ei hunan.
Efallai byddwch yn cofio i ni sylwi, yn ystod fy mhreswyliad cyntaf, sut mae biorhythmau coed yn arafu neu'n stopio pan fydd sŵn uchel awyrennau isel yn mynd heibio. A nawr, yn y preswyliad hwn, mae coeden a chôr cyfan o adar wedi canu gyda'i gilydd. Y casgliadau serendipaidd ac annisgwyl hyn sy'n llunio ac yn ail-lunio fy mhrofiad fel artist sain amgylcheddol, ynghyd â sut rwy'n deall y byd naturiol fel bod dynol, ac mae angen i mi fyfyrio ar hyn a sut fydd yn effeithio ar y cerflunwaith terfynol.
Dydw i ddim yn wyddonydd ac nid yw'r pethau a ddywedaf wrthych yn dystiolaeth empirig wedi'i chrynhoi dan amodau gwyddonol. Rwy'n artist sain amgylcheddol sy'n arbrofi â thechnoleg ac yn ei chymhwyso drwy lens greadigol ‒ y cyfan y gallaf ddisgrifio i chi yw'r pethau a welaf ac a glywaf. Pan fyddwch yn ei glywed, gallwch benderfynu dros eich hun a yw'r adar a'r coed yn canu gyda'i gilydd. I minnau ac Alison, sydd wedi treulio oriau lawer yn y goedwig law yn gweithio gyda'r coed, mae'r ddeuawd ddigynsail hon yn wirionedd a fydd yn aros gyda ni am byt