Cheryl Beer
  • Home
    • Cymraeg
  • Sonic Nature
  • Current Work
  • Past Work
  • Blog
  • Connect
​Artist Researcher
at the National Botanic
​Garden of Wales

​Artist Ymchwilydd yng 
Ngardd Fotaneg
​Genedlaethol Cymru

Artist Researcher at the
National Botanic ​Garden of Wales

​Hello, my name is Cheryl Beer. I am an Environmental Composer & Sound Artist. Currently, I am based at the National Botanic Garden of Wales as Research Artist in Residence. My placement enables me to carry out the creative enquiry for my Future Wales Fellowship.
The Fellowship is organised by the Arts Council of Wales in partnership with Natural Resources Wales, National Trust & Elan Valley Trust. I am one of eight artists selected from across Wales to carry out research through creative enquiry into our connections with Nature.  This quote from the Arts Council of Wales explains the Fellowship in full: -

‘The Future Wales Fellowship is an opportunity to challenge the understanding of our relationship to nature & how to reconnect with it, exploring the artist’s own relationship with nature, & that of the people & communities around them. Fellows are invited to look through the lens of lived experience. Making space for reflection personal development & also for action. Artist research can disrupt current ways of thinking & offer new possibilities. The starting points for research may consider any angle on the theme of connection to nature.’
Picture
The first part of my Fellowship focussed on a literature review in relation to my own creative practice as an environmental composer & sound artist. All of my life, I have worked as a musician, composer and musical director, but 7 years ago I awoke with sudden hearing loss, severe 24/7 tinnitus and hyperacusis, a sound sensitivity that effects my central nervous system. At the time, it felt like the end of my life as I knew it, but actually, it was the beginning of a very new way of living.
​
I retreated to the woods opposite my cottage and there, nature taught me what it is to heal. My conditions didn’t get any better but my attitude towards them changed and I made a promise to the natural world that I would raise awareness of fragile ecologies and our vulnerability as part of them – even though, at the time, I wasn’t sure how.
Picture
I began by recording nature narratives for older people in care homes, which became an important resource more widely during Covid. When I got my NHS hearing aids, I marvelled at how they had given me back my creativity, but I wondered what technology fuelled them and if this could be the art itself. I applied for a research mentorship with Addo Creative Consultancy and began working at the flood defence walls on the coastal path near my home, using spectral frequency to make graphs of the marine biorhythms.

Spectral frequency is used during hearing aid tests to see which parts of our hearing are missing, so that they can be digitally replaced by programming our hearing aids – but they also measure what is present. From the spectral diagrams I was able to transfer the markings onto musical staves and make compositions led by the sea itself. You can see this work here - www.cherylbeer.com/addo-r--d.html

From the Addo research, I went on to secure an Unlimited Main Commission, working for a year in the Rainforests of Wales with Coed Cadw, repurposing biomedical equipment to compose Cân y Coed Rainforest Symphony with biorhythms recorded from beneath the bark. There is a permanent installation of the Symphony at the Garden near the shop and cafe, by the oak tree.
Cân y Coed toured the globe, representing the UK at the Garden of Great in Qatar, becoming part of the Wales Cultural Squad at the World cup with Wales Arts International, it was gifted to dignitaries at the Commonwealth Games, exhibited in galleries throughout the UK, ending the tour at the Houses of Parliament & the inaugural Festival of Silence in London. 
​
During the literature review for my Fellowship, I began looking more closely at others who have been applying visual sound, like I have, to notate music and create art, finding to my surprise that NASA had been working on something very similar but using Artificial Intelligence. This drew into question, for me, my own use of technology and I decided to experiment with making work with visual sound, using just my eyes and my musicianship. The result is a technique that I call ‘Sonic Sketching’ and it is this that I am experimenting with at the Garden during my artist research placement.
Picture
Once I was settled into Garden life, I started having conversations with staff, volunteers and visitors about which areas of the Garden resonated with them and from these, have chosen 5 areas to focus my research.
​
By using Sonic Sketching, I am composing music from the markings of the 310-Million-Year-Old Calamite Fossils and the Himalayan Birch trees: Creating music from the microscopic images of decaying Magnolia leaves in the Evolution Garden: Experiencing the hum of the hives in our bodies by repurposing deaf associated technology and experimenting with a silent walk to a 200-year-old tree in Waun Las, the adjoining National Nature Reserve, a mosaic of wildflower-rich hay meadows and pastures  managed by the National Botanic Garden of Wales.

I’ve had meetings with key members of the Garden Team and am currently working with Angharad Phillips, the Engagement Officer, looking at how we can instal my research as an artist trail for visitors to respond to in the Summer. My hypothesis is that if we can connect more deeply with nature by experiencing it creative ways, then perhaps we will be more likely to nurture the natural world as a result.

When you see me at the Garden, feel free to stop and chat. I wear hearing aids, so as long as we stand in front of each other and I can see your face, we’ll be able to enjoy a conversation. I’d love to know what connects you most deeply to nature and if you’d like to take part in my artist trail, please keep an eye on reception for details.

If you’re interested in a more regular updates, feel fee to join me on Facebook – 
www.facebook.com/cherylbeertoday

Or at my website www.cherylbeer.com where you are able to contact me directly.
I look forward to meeting you in either real time or a virtual space.
Warmly, Cheryl

​Artist Ymchwilydd yng 
Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

​Helo, f'enw i yw Cheryl Beer. Rydw i'n Gyfansoddwr Amgylcheddol ac yn Artist Sain. Ar hyn o bryd, rwy'n Artist Ymchwilydd Preswyl yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae fy lleoliad yn fy ngalluogi i gynnal ymholiad creadigol ar gyfer fy Nghymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol.
Trefnir y Gymrodoriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Cwm Elan. Rwy'n un o wyth o artistiaid a ddewiswyd o bob rhan o Gymru i gynnal ymchwil trwy ymholiad creadigol i'n cysylltiadau â Natur.  Mae'r dyfyniad hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn esbonio'r Gymrodoriaeth yn glir: -

‘Mae Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn gyfle i herio ein dealltwriaeth o’n perthynas â byd natur a dysgu sut i ailgysylltu â byd natur, ac i archwilio perthynas yr artist ei hun â byd natur, yn ogystal â pherthynas y bobl a’r cymunedau o’u cwmpas.  Gwahoddir cymrodorion i edrych drwy lens eu profiad byw. Gan greu lle ar gyfer datblygu personol, myfyrdod a hefyd ar gyfer gweithredu. Gall ymchwil artistiaid darfu ar ffyrdd presennol o feddwl a chynnig posibiliadau newydd. Gallai'r mannau cychwyn ar gyfer ymchwil ystyried unrhyw safbwynt ar y thema ymgysylltu â natur.’
Canolbwyntiodd ran gyntaf fy Nghymrodoriaeth ar adolygu'r llenyddiaeth yn ymwneud â'm hymarfer creadigol personol fel cyfansoddwr amgylcheddol ac artist sain. Ar hyd fy oes, rydw i wedi gweithio fel cerddor, cyfansoddwr a chyfarwyddwr cerddoriaeth, ond 7 mlynedd yn ôl dihunais a darganfod fy mod wedi colli fy nghlyw yn sydyn, ac wedi cael tinitws 24/7 difrifol, a hyperacusis, sef sensitifrwydd i sŵn sy'n effeithio ar fy mhrif system nerfol. Bryd hynny, teimlwn fod y bywyd roeddwn yn gyfarwydd ag ef wedi dod i ben, ond mewn gwirionedd, bu'n gychwyn ar ffordd newydd o fyw.
​
Enciliais i'r goedwig gyferbyn â'm bwthyn ac yno, dysgais gan natur sut i gael iachâd. Ni welais wellhad o ran fy nghyflyrau ond newidiodd fy agwedd tuag atynt a gwnes addewid i'r byd naturiol y byddwn yn mynd ati i godi ymwybyddiaeth o ecolegau bregus a'n breuder ninnau fel rhan ohonynt – er nad oeddwn yn siŵr, bryd hynny, sut fyddwn yn gwneud hyn.
Picture
Dechreuais drwy recordio naratifau natur ar gyfer pobl hŷn mewn cartrefi gofal, a daeth hwn yn adnodd pwysig yn ehangach yn ystod Covid. Pan ges i fy nheclynnau clyw gan y GIG, roeddwn yn rhyfeddu at sut wnaethant adfer fy nghreadigrwydd, ond roeddwn eisiau gwybod pa dechnoleg oedd yn eu gyrru a phe gallai hon fod yn ffurf ar gelf yn ei hunan. Ymgeisiais am fentoriaeth ymchwil gydag Addo Creative Consultancy a dechreuais weithio ger y waliau amddiffyn rhag llifogydd ar lwybr yr arfordir ger fy nghartref, yn defnyddio amledd sbectrol i greu graffiau o fiorhythmau’r môr.

Defnyddir amledd sbectrol yn ystod profion teclynnau clyw i weld pa rannau o'n clyw sy’n ddiffygiol. Yna gellir adfer y rhain yn ddigidol drwy raglennu ein teclynnau clyw – ond maent hefyd yn mesur beth sy'n bresennol. O'r diagramau sbectrol roeddwn yn gallu trosglwyddo'r marciau i erwyddi cerddorol a gwneud cyfansoddiadau a arweiniwyd gan y môr ei hun. Gallwch weld y gwaith hwn yma – www.cherylbeer.com/addo-r--d.html.
​
Ar sail yr ymchwil Addo, llwyddais i gael Comisiwn Unlimited Main a gweithio am flwyddyn yng Nghoedwigoedd Glaw Cymru gyda Choed Cadw, gan ailbwrpasu offer biofeddygol i gyfansoddi Symffoni'r Coedwigoedd Glaw Cân y Coed gyda’r biorhythmau oddi tan y rhisgl. Mae gosodiad parhaol o'r Symffoni yn yr Ardd ger y siop a'r caffi, wrth ochr y dderwen.
Picture
Teithiodd Cân y Coed o gwmpas y byd, gan gynrychioli'r DU yng Ngardd GREAT Qatar, a dod yn rhan o Garfan Ddiwylliannol Cymru gyda Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru yng Nghwpan y Byd. Cafodd hefyd ei roddi i urddasolion yng Ngemau'r Gymanwlad, a'i arddangos mewn orielau ledled y DU, gan ddiweddu yn y Senedd a'r Ŵyl Tawelwch agoriadol yn Llundain.
​
Yn ystod yr adolygiad o'r llenyddiaeth ar gyfer fy Nghymrodoriaeth, dechreuais astudio pobl eraill sydd wedi bod yn cymhwyso sain weledol, fel finnau, i nodiannu cerddoriaeth a chreu celf. Er mawr syndod darganfyddais fod NASA wedi bod yn gweithio ar rywbeth tebyg ond gan ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial. Gwnaeth hyn i mi gwestiynu fy nefnydd innau o dechnoleg a phenderfynais arbrofi ar waith gyda sain weledol, yn defnyddio fy llygaid a'm dawn gerddorol. Y canlyniad yw techneg a alwaf yn ‘Fraslunio Sonig’ ac rwy'n arbrofi ag ef yn yr Ardd yn ystod fy lleoliad fel artist ymchwilydd.
Picture
​Ar ôl i mi ymsefydlu ym mywyd yr Ardd, dechreuais gael sgyrsiau gyda staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr ynglŷn â pha rannau o'r Ardd oedd yn taro tant gyda nhw, ac o blith y rhain, rydw i wedi dewis 5 rhan lle byddaf yn canolbwyntio fy ymchwil.

Trwy ddefnyddio Braslunio Sonig, rwy'n cyfansoddi cerddoriaeth o farciau o Ffosiliau Calamit 310 miliwn mlwydd oed a Choed Bedw o Fynyddoedd Himalaia: Creu cerddoriaeth o ddelweddau microsgopig o ddail Magnolia sy'n pydru yn yr Ardd Esblygiad: Profi mwmian y cychod gwenyn yn ein cyrff trwy ailbwrpasu technoleg gysylltiedig â byddardod ac arbrofi gyda thaith gerdded ddistaw at goeden 200 mlwydd oed yn Waun Las, y Warchodfa Natur Genedlaethol gyfagos, sy'n fosaig o ddolydd gwair a phorfeydd llawn blodau gwyllt dan reolaeth Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

​Rydw i wedi cwrdd ag aelodau allweddol o Dîm yr Ardd ac ar hyn o bryd rwy'n gweithio gyda’r Swyddog Ymgysylltu, Angharad Phillips, i ystyried sut gallwn drosi fy ymchwil yn llwybr artist y gall ymwelwyr ymateb iddo yn yr Haf. Fy namcaniaeth yw, os gallwn ymgysylltu'n ddyfnach â natur trwy ei phrofi mewn ffyrdd creadigol, yna efallai byddwn yn fwy tebygol o feithrin y byd naturiol o ganlyniad.

Pan fyddwch yn fy ngweld yn yr ardd, mae croeso i chi stopio a chael sgwrs. Rwy'n gwisgo teclynnau clyw, felly cyhyd ag y byddwn yn wynebu ein gilydd fel y gallaf weld eich wyneb, byddwn yn gallu mwynhau sgwrs. Byddwn wrth fy modd yn clywed beth sy'n eich cysylltu orau â natur ac os hoffech gymryd rhan yn fy llwybr artist, gofynnwch am fanylion yn y dderbynfa.

Os oes diddordeb gennych mewn cael diweddariadau mwy rheolaidd, mae croeso i chi ymuno â mi ar Facebook – www.facebook.com/cherylbeertoday

Neu drwy fy ngwefan www.cherylbeer.com lle gallwch gysylltu â mi yn uniongyrchol. Edrychaf ymlaen at gwrdd â chi mewn amser real neu mewn rhith ofod. Cyfarchion cynnes, Cheryl
Picture
  • Home
    • Cymraeg
  • Sonic Nature
  • Current Work
  • Past Work
  • Blog
  • Connect