|
Chlorophyll Photography - Please press play
|
Ffotograffiaeth Gloroffyl - Cymraeg
Un o'r pethau dwi wir eisiau ei wneud yw dod â gweledolrwydd sain i mewn i’r goedwig mewn ffordd naturiol iawn drwy ffotograffiaeth gloroffyl Felly penderfynais y byddwn yn dechrau gyda’r Cwlwm Dara gan fod fy logo ar gyfer CÂN Y COED yn seiliedig ar hwn. Ac wrth arbrofi gyda hyn, gweld a allwn i gael y ffotograffiaeth gloroffyl i weithio ar y dail Prynais ffrâm gyswllt, dyma beth welwch chi yma. Rwy’n gosod yr asetad yn ffrâm y Cwlwm Dara … gyda’r ddeilen, a’i gloi yn y ffrâm gyswllt, a’i adael yn yr haul. Nawr, rwy’n credu ‘mod i wedi ei adael yn yr haul yn rhy hir … Oherwydd pan dynnais ef allan nid oedd yn union fel yr oeddwn wedi dychmygu. Yr hyn dwi wedi’i ddysgu o’r broses hon, a dwi wedi rhoi 3 neu 4 cynnig arall arni – heb lwyddo eto, yw ’mod i wedi gadael y ddeilen yn yr haul yn rhy hir o lawer.
Mae wedi llosgi, wedi toddi ar yr asetad, ac roedd yn ddiwrnod poeth iawn, iawn – dylwn fod wedi ei gadael am awr neu ddwy yn unig. Wedyn rhoddais gynnig yn haul y bore, gan feddwl na fyddai mor ddisglair, ond mae’n debyg nad yw’r ddeilen yn cynhyrchu cloroffyl ar yr adeg honno o’r dydd. Fel y gwelwch drwy’r canlyniad hwn, mewn egwyddor, mae’r ffotograffiaeth gloroffyl wedi gweithio i mi, ond mae angen ei osod ... ar ddeilen gyfan, ac wedyn, gallaf ddechrau meddwl am drosglwyddo amledd sbectrol y sain i’r dail yn yr un ffordd. Ond mae tipyn o ffordd i fynd, a byddaf yn dal ati i arbrofi ar wahanol amserau o’r diwrnod, am wahanol hydoedd o amser nes i mi ei gael yn iawn – dyna beth mae ymchwil a datblygu’n ei olygu. Y gerddoriaeth a glywch yw biorhythmau lili heddwch wedi’u nodiannu. Am fwy o wybodaeth, ewch i fy ngwefan www.cherylbeer.com |