BREATHING ON BORROWED TIME
Commissioned by the Dyer Arts Centre, New York and supported by Wales Arts International, Breathing on Borrowed Time explores creativity and deaf sisterhood through life story and artistic practice; a video collaboration between myself and Ruth Fabby MBE. In this blog, I want to give you some background to the work and offer you a taster of what’s to come.
Let’s start with how we met. After my sudden hearing loss, onset of severe tinnitus & hyperacusis, I was lost. In that darkness, Ruth held out a guiding hand, helping me back to my creative Self. At the time, she was Director of Disability Arts Cymru and I was following my heart mission, to raise awareness of fragile ecologies and our vulnerabilities within them, by repurposing hearing aid technology to notate music from nature’s biorhythms.
Ruth lives with a life limiting lung disease which punctuates her vibrancy for life with an oxygen machine. For her, breath is even more poignant. At the showing of my initial research with Addo Creative Consultancy, Ruth made a comment in the Q&A that really touched me. She said, ‘I wish I had known about your work as a child. It would have changed how I felt about my deafness.’

What ensued over the years since, is a deep respect and friendship, a sisterhood where each appreciates the other, in our completeness of who we are. So, when we were commissioned by Fran Flaherty, the Director of the Dyer Arts Centre in New York, to make a film about that sisterhood, exploring how it has informed our creative practice, we were overjoyed. Dyer Arts Centre is part of Rocester University and the home of America’s National Technical Institute for the Deaf. Of course, I was pleased for myself, what an incredible opportunity, and what joy to work in person with Ruth, since the pandemic had forced our friendship online. However, what resonated with me more deeply was the opportunity to repay the compassion and support Ruth had shown me, by holding space for her to step fully into her creative self as an artist; to create a platform for her story and mine, side by side, just as we are in life.
We contacted Wales Arts International and formed a partnership with them, Dyer Arts Centre and the Wetlands Trust, Llanelli, where Ruth and I spent a week together, working within the vulnerable and yet nurtured wetlands, telling our story through mime, creative sign language, environmental sound art, music, poetry and film, supported by Ruth’s husband, Derek and by Nathan Williams, a volunteer with the Wetlands Trust, who has a passion for photography.
‘Breathing on Borrowed Time’ screens in New York during 2024, meanwhile, here in Wales, we wanted to give you a very special, early taster. During the filming of our life stories, Ruth penned a beautiful poem capturing the essence of the work and so we decided to make a creative piece together, collaborating in the woods – where Ruth responded within the environment & I took care of the technical aspects, like recording her spoken word poem, making the film, creating the soundscape, embedding the subtitles and ensuring a Welsh translation. (See below)

Press Play
We would like to thank Wales Arts International and Dyer Arts Centre for this incredible opportunity to tell and archive our stories as deaf creatives. It is important not just to us as the artists, because our stories are part of a hidden history; we are archiving an artistic voice that, until now, has seldom been heard, the voice of creativity and deaf sisterhood.
For more details of Ruth’s work please contact www.ruffyarts.com
And if you’d like to speak with me, CLICK HERE
Scroll Down for Welsh Language

CYMRAEG
Anadlu ar Amser Benthyg
Comisiynwyd Anadlu ar Amser Benthyg gan Ganolfan Gelfyddydau Dyer, Efrog Newydd gyda chymorth gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, ac mae'n archwilio creadigrwydd a chwaeroliaeth fyddar trwy stori bywyd ac ymarfer artistig: cydweithrediad fideo rhyngof innau a Ruth Fabby MBE. Yn y blog hwn, rydw i eisiau rhoi rhywfaint o gefndir i'r gwaith a chynnig blas i chi ar beth sydd i ddod.
Beth am ddechrau gyda sut wnaethon ni gwrdd. Ar ôl i mi golli fy nghlyw yn sydyn a chael tinitws difrifol, roeddwn ar goll. Yn y tywyllwch hwnnw, estynnodd Ruth law arweiniol, gan fy helpu i ailddarganfod fy Hunan creadigol. Ar yr adeg honno, roedd yn Gyfarwyddwr Celfyddydau Anabledd Cymru ac roeddwn innau'n dilyn cenhadaeth fy nghalon, sef codi ymwybyddiaeth o ecolegau bregus a'n bregusrwydd ninnau o'u mewn, drwy ailbwrpasu technoleg teclynnau clyw i nodiannu cerddoriaeth o fiorhythmau natur.
Mae Ruth yn byw gyda chlefyd sy'n cyfyngu ar fywyd ac mae peiriant ocsigen yn elfen ysbeidiol yng nghanol ei hangerdd dros fywyd. Iddi hi, mae anadl yn arbennig o ingol. Pan arddangosais fy ymchwil cychwynnol gydag Addo Creative Consultancy, rhoddodd Ruth sylw yn y sesiwn Holi ac Ateb a'm gwefreiddiodd. Dywedodd, ‘Hoffwn fod wedi gwybod am eich gwaith pan oeddwn yn blentyn. Byddai wedi newid sut roeddwn yn teimlo ynglŷn â'm byddardod.’
Yn sgil hyn, mae parch a chyfeillgarwch dwfn wedi datblygu rhyngom ar hyd y blynyddoedd ‒ chwaeroliaeth lle rydym yn gwerthfawrogi ein gilydd yng nghyflawnrwydd pwy ydym ni. Felly, pan gawsom ein comisiynu gan Fran Flaherty, Cyfarwyddwr Canolfan Gelfyddydau Dyer yn Efrog Newydd, i wneud ffilm am y chwaeroliaeth honno ac archwilio sut mae wedi llywio ein hymarfer creadigol, roeddem ar ben ein digon.
Mae Canolfan Gelfyddydau Dyer yn rhan o Brifysgol Rochester ac yn gartref i Athrofa Dechnegol y Byddar yn yr Unol Daleithiau. Wrth gwrs, roeddwn yn falch dros fy hunan wrth gael cyfle mor anhygoel, a hefyd yn llawn llawenydd o gael gweithio'n bersonol gyda Ruth, gan fod y pandemig wedi gyrru ein cyfeillgarwch ar-lein. Fodd bynnag, y canlyniad pwysicaf i mi oedd cael cyfle i ad-dalu’r tosturi a'r gefnogaeth roedd Ruth wedi eu dangos tuag ataf, trwy roi lle iddi gamu'n llawn i'w hunan creadigol fel artist: drwy greu llwyfan ar gyfer ei stori a'm stori innau, ochr yn ochr, yn union fel yr ydym mewn bywyd.
Cysylltom â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru gan ffurfio partneriaeth gyda nhw, Canolfan Gelfyddydau Dyer ac Ymddiriedolaeth Gwlypdiroedd Llanelli, lle treuliais i a Ruth wythnos yn gweithio gyda'n gilydd yn y gwlypdiroedd hyn sy’n fregus ond yn cael eu meithrin, gan ddweud ein stori trwy feim, iaith arwyddion creadigol, celfyddyd sain amgylcheddol celf, cerddoriaeth, barddoniaeth a ffilm, gyda chymorth gŵr Ruth, Derek, a Nathan Williams, gwirfoddolwr gyda'r Ymddiriedolaeth Gwlypdiroedd, sy'n frwd dros ffotograffiaeth.
Bydd ‘Breathing on Borrowed Time’ yn cael ei sgrinio yn Efrog Newydd yn ystod 2024, ond roeddem eisiau rhoi blas cynnar i chi. Wrth ffilmio storïau ein bywydau, ysgrifennodd Ruth gerdd hardd a gipiodd hanfod y gwaith ac felly penderfynom roi darn creadigol at ei gilydd, gan gydweithio yn y goedwig ‒ ymatebodd Ruth yn yr amgylchedd tra roeddwn innau'n gyfrifol am yr agweddau technegol, fel recordio'i cherdd ar lafar, gwneud ffilm, creu'r sainlun a gosod yr isdeitlau, a threfnu cyfieithiad i'r Gymraeg.
Ydy'r gwynt yn anadlu?
Oes ganddo ysgyfaint i gasglu'r aer
yna ei chwalu fel rhythm cylchol am byth
i mewn ac allan, acw ac yma, uchel ac isel?
A yw'r gweiriau'n griddfan o dan bwysau'r aer hwn?
Ydyn nhw'n coleddu'r ddawns siglo ac anwirfoddol o fod?
Ydyn nhw'n dychwelyd ffafr gan fod yr awelon yn eu gorchuddio'n dawel
neu ydynt yn torri mewn herfeiddiad wrth i bwysau eu gorfodi
i droelli a gyradu gan rym corwynt?
Ydy'r coed yn anadlu?
Ydyn nhw'n gwahodd atomau o nwy i drwytho
Yna’n diarddel gronynnau sydd yn dwyn cusan tragywyddol bywyd i bawb?
Ydynt yn aros eu tir
fel allwyr, iachawyr a chysurwyr natur?
Ydy'r pridd yn anadlu?
A yw'n ehangu ac yn crebachu gan ysgogi'r ddaear
i genhedlu dro ar ôl tro?
Y ffyngau, y cytrefi myceliwm
cudd mewn partneriaethau tywyll sy'n adeiladu pydredd
ac egino gyda chludiant actif.
Ydw i'n anadlu?
Ymunwch â'r greadigaeth oedd yno o'm blaen
a pharha hynny ar fy ôl.
Ydw i'n tynnu mewn bywyd i alfeolws gwan, llidus
sy'n gwrthod bywiogi fy endid
rhwystro fy argraffnod corfforol i'r byd hwn?
Y metaffisegol, y presennol, y technegol
mae holl hanfodion bywyd yn anadlu ar amser benthyg
chwyddedig, blinedig, anhwylus, y foment hon
casglu'r briwsion syrthiedig o'r wledd anghyfannedd
Dymunwn ddiolch i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Dyer am y cyfle anhygoel hwn i ddweud ac archifo ein storïau fel creawdwyr byddar. Mae'n bwysig nid yn unig i ni fel artistiaid, ond am fod ein storïau'n rhan o hanes cudd: rydym yn archifo llais artistig sydd braidd wedi cael ei glywed hyd yma, llais creadigrwydd a chwaeroliaeth fyddar.
Am ragor o fanylion am waith Ruth, cysylltwch â www.ruffyarts.com
Ac os hoffech siarad â minnau CLICIWCH YMA