I'm so very excited to share with you a work of absolute love. I was commissioned by ONCA gallery, as their resident artist, to write & create a reference book containing the photographs & stories of my year long residency with Coed Cadw at the Rainforests of Wales.
After pouring my heart into the pages, I worked closely with a Welsh translator to make sure the story was told bi-lingually. It felt important to speak through the native language of the Rainforests. I then researched the most eco-friendly ways of producing the book, learnt how to navigate print on demand online publishing, did all the graphic design myself ... and here it is, folks, my very first Cân y Coed Rainforest Symphony book. I'm so chuffed with it, that yesterday, I took my shiney new book out for a photoshoot in places where it should be, in amongst the trees. Last job is to wrap it up & special deliver to ONCA gallery in Brighton, where it will form part of my month-long residency, along with my talking book, film & Cân y Coed Rainforest Symphony Sound Installation. My gallery residency is funded by Unlimited & ONCA. Many thanks to my Welsh translator Joy Davies who made it possible for me to be bi-lingual & to Lazarus Carpenter who kindly talked me through print on demand publishing. To the staff team at ONCA gallery who are managing the physical space & to Unlimited who change & challenge the world by 'supporting extraordinary work by disabled artists.' |
Rydw i'n llawn cynnwrf wrth gael rhannu gwaith o gariad pur gyda chi. Cefais fy nghomisiynu gan oriel ONCA, fel eu hartist preswyl, i ysgrifennu a chreu cyfeirlyfr sy’n cynnwys lluniau a storïau fy mhreswyliad blwyddyn gyda Choed Cadw yng Nghoedwigoedd Glaw Cymru.
Ar ôl rhoi fy nghalon yn y tudalennau, bûm yn cydweithio gyda chyfieithydd Cymraeg i sicrhau bod y stori'n cael ei dweud yn ddwyieithog. Teimlwn ei bod yn bwysig siarad ym mamiaith y Coedwigoedd Glaw. Yna ymchwiliais i'r ffyrdd mwyaf ecogyfeillgar o gynhyrchu'r llyfr, gan ddysgu sut i lywio’r system argraffu yn ôl y galw mewn cyhoeddi ar-lein, a gwnes yr holl ddylunio graffig fy hunan ... a dyma ni, fy ffrindiau, fy llyfr Symffoni'r Coedwigoedd Glaw Cân y Coed cyntaf oll. Roeddwn mor hapus gyda fy llyfr newydd sgleiniog newydd nes i mi fynd ag ef i sesiwn dynnu lluniau yn y mannau lle dylai fod, yng nghanol y coed. Y dasg olaf yw ei lapio a'i ddanfon at oriel ONCA Brighton, lle bydd yn rhan o'm preswyliad mis, ar y cyd â'm llyfr llafar, fy ffilm, a Gosodiad Sain Symffoni'r Coedwigoedd Glaw Cân y Coed. Ariennir fy Mhreswyliad yn yr Oriel gan Unlimited ac ONCA. Diolch yn fawr i'm cyfieithydd Cymraeg, Joy Davies, a'm galluogodd i fod yn ddwyieithog ac i Lazarus Carpenter a fu mor garedig ag esbonio'r broses o gyhoeddi yn ôl y galw i mi. Diolch hefyd i dîm y staff yn oriel ONCA sy'n trefnu'r lleoliad ffisegol ac i Unlimited sy'n newid ac yn herio'r byd drwy ‘gefnogi gwaith eithriadol gan artistiaid anabl’. |
Supported by Unlimted & ONCA