Bass Recorder Quintet
|
|
Cymraeg
Pumawd Recorders Bas - Ar Drywydd Trefnu Cerddorfaol Cynhwysol
Yn ystod fy ymchwil gyda Thŷ Cerdd ac Anabledd Cymru i'r math o offerynnau sy'n gydwedd â'm hanghenion clyw, cawsom fod y recorders bas nid yn unig yn ddi-boen o ran y tinitws a’r hyperacusis, ond roedden nhw'n lliniarol hyd yn oed. Ac ar ben hynny, y peth anhygoel yw – am fod amrediad isaf fy nghlyw yn gyflawn o hyd, roedden yn gallu eu clywed yn iawn! Allwch chi ddychmygu gallu clywed cerddoriaeth yn glir ar ôl 6 blynedd o seiniau aneglur? Cerddoriaeth rydw i wedi'i chyfansoddi ar y cyd â biorhythmau coed y Coedwigoedd Glaw – mae'n golygu fy mod i'n gallu clywed y coed rydw i wedi gweithio gyda nhw yn berffaith.
Gan fy mod ar ben fy nigon gyda'r profiad hwn, siaradais â Delyth Holland o Abertawe amdano, a buodd hi mor garedig â chynnig ffurfio pumawd recorders bas fel y gallwn fynd â'r ymchwil gam ymhellach. Cysylltais â People Speak Up yn Ffwrnes Fach, sef capel drws nesa i theatr Y Ffwrnes sydd wedi cael ei ailwmapio'n hyfryd yn adnodd celfyddydau cymunedol. Caiff ei redeg gan People Speak Up sy'n hybu lles trwy greadigrwydd mewn ffyrdd arloesol. Bu'r Cyfarwyddwr a'r Sylfaenydd, Eleanor Shaw, mor garedig â darparu lle i ni ymarfer, ac ymunodd aelod o'i huwch dîm, Carys, â ni yn ystod y noson i sicrhau bod popeth yn mynd yn hwylus.
Am brofiad rhyfeddol – cael clywed y 5 recorder gyda'i gilydd! Gwnes fideo bach ohono ar fy ffôn symudol a'i olygu fel y gallwch chi ei brofi hefyd, ond nid yw fy ffôn yn cipio harddwch swynol a llonyddol yr holl recorders yn chwarae ar unwaith. Mae rhywbeth yn digwydd sy'n llawer mwy na swm y rhannau. Rwy'n dwli ar y ffaith fod y
chwaraewyr recorders yn perthyn i wahanol genedlaethau, o 11 i 68 oed – yn union fel y coed y cydweithiais â nhw yng Nghoed Felenrhyd i gyfansoddi'r darn, o'r glasbren i'r hen dderwen ddoeth. Nid ydynt yn chwarae Symffoni'r Coedwigoedd Glaw Cân y Coed yn y fideo gan nad yw wedi cael ei threfnu eto, yn hytrach chwaraeir darn ymarfer gan Michael Praetorius, a welir yn y llun uchod.
Gan fy mod yn gwybod nawr bod recorder Bas yn gydwedd â'm clyw, gallaf symud at y cam nesaf, sef sicrhau cyllid i weithio gyda Lloyd Coleman, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Cysylltiol y Paraorchestra, i greu trefniant cynhwysol ar gyfer Pumawd recorders.
Fy nod terfynol yw trefnu a recordio'r pumawd fel Anthem i Goedwig Genedlaethol Cymru, lle mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i blannu Nawr ar gyfer y dyfodol. Mae tyfu coed newydd mor bwysig, ond yn ein diwylliant gwastraffus, rwy'n credu ei bod yr un mor bwysig hybu gofalu am ein ecolegau coedwig hŷn. Ac nid oes gwell ffordd i wneud hyn na chwarae symffoni ar offerynnau pren ac anadl, gyda cherddoriaeth sydd wedi'i nodiannu o fiorhythmau Coedwig Law Cymru, sy’n gartref i ecolegau hynaf ein gwlad.