6 Beautiful Saplings
Let me introduce the 6 beautiful saplings that are part of my Cân y Coed story, & tell how their growth is a symbolism of unity. I brought together Coed Cadw, Snowdonia National Trust and the National Botanic Garden of Wales to cultivate & grow 6 saplings seeded from the Rainforests of Wales & to be sited at the Woods of the World Aboretum at National Botanic Garden of Wales. I went up to the nurseries to see how the saplings are doing & they are now ready to go into the nursery beds. The Rainforests of Wales would once have been connected together beneath the soil, across the country & now, I will be reconnecting them through sound & composition with a QR code sited at the Garden that takes the visitor to a virtual platform to meet the rest of the Rainforest trees. And tho' it is a small thing, today, when we face a changed World, it feels poignant to me that in this new growth & bringing together of trees from different parts of the world, there is a small symbol of hope. |
6 Glasbren Hardd
Gadewch i mi gyflwyno'r 6 glasbren hardd sy'n rhan o'm stori Cân y Coed, ac esbonio sut mae eu twf yn symbol o undod. Trefnais i Goed Cadw, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Eryri a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddod at ei gilydd i feithrin a thyfu 6 glasbren y daeth eu hadau o Goedwigoedd Glaw Cymru. Byddant yn cael eu plannu yng Nghoedardd Coedwigoedd y Byd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Gelwais heibio i'r planhigfeydd i weld sut mae'r glasbrennau'n datblygu ac maen nhw nawr yn barod i fynd i welyau'r blanhigfa. Yn y gorffennol, roedd Coedwigoedd Glaw Cymru wedi'u cysylltu â'i gilydd dan y pridd ar draws y wlad. Nawr, byddaf yn eu hailgysylltu drwy sain a chyfansoddi gyda chod QR yn yr Ardd sy'n arwain ymwelwyr at rith blatfform i gwrdd â'r coed eraill yn y Goedwig Law. Ac er mai rhywbeth bach yw hwn, heddiw, wrth i ni wynebu Byd sydd wedi newid, mae'n ingol i mi fod y twf newydd hwn, a chael dod â choed o wahanol rannau o'r byd at ei gilydd, yn cynrychioli llygedyn o obaith. |