Teyrnged i Dderwen y Cwm
Pan ddihunais am y tro cyntaf wedi colli fy nghlyw, fy mhen yn llawn twrw di-baid o sŵn, fy myd yn chwalu o'm cwmpas, roedd enydau pan deimlais na allwn ddal ymlaen. Yn llythrennol, ymddieithriais oddi wrth fy myd cyfarwydd, gan gilio i’r Cwm, sef coedwig ein pentref. Ac yma, des ar draws Derwen a ddysgodd i mi sut i weld fy mywyd mewn ffordd wahanol. Roedd hi’n glynu wrth y pridd, a hanner ei gwreiddiau yn y golwg, yn hongian uwchlaw'r dibyn, ond eto, roedd ei holl fod yn canolbwyntio ar y bywyd oedd yn parhau yn ei chorff. Nid oedd yn wylo dros y rhannau o'i hunan oedd wedi newid neu ddiflannu – yn lle hynny, daeth ei chorff yn gartref i fwsogl gwyrdd toreithiog, ei gwely pridd yn fan ar gyfer blodau gwyllt, ac yn ei gwreiddiau ar farw roedd tyrchfa. Dysgodd i mi nad oeddwn ‘wedi torri’ –yn hytrach, roeddwn yn gwella. Yn sgil y newid hwn yn fy safbwynt, newidiodd fy agwedd at fywyd yn llwyr. Mae ‘wedi torri’ yn gyrchfan. Mae iachâd yn daith. Teimlais yn effro, yn gwbl ymwybodol ac yn dra diolchgar am y byd naturiol: yn llawn bywyd, gydag ymdeimlad angerddol o fod. Byddwn yn trochi fy nhraed noeth yn y nant oer, byddai arogl llwydni'r mwsogl yn codi fy nghalon, byddai teimlo rhisgl yn gwneud i'm celloedd ganu. Yn gwbl bresennol, gwnes addewid cysegredig i Fam Dderwen y Cwm, y byddwn yn ad-dalu ei gwersi bywyd hael trwy gysegru fy ymarfer creadigol i natur – er nad oedd gen i unrhyw syniad bryd hynny i ble byddai’r addewid hwnnw'n fy arwain. Dechreuais addasu'r dechnoleg a ddefnyddir mewn profion teclynnau clyw i fesur biorhythmau dan y rhisgl, a Derwen y Cwm oedd y goeden gyntaf y gwnes i gydweithio â hi. Yr ymchwil hwn gyda Derwen y Cwm arweiniodd at fy nghais llwyddiannus am brif gomisiwn gydag Unlimited, pan dreuliais flwyddyn yn coladu biorhythmau yng Nghoedwigoedd Glaw Cymru a thrawsnodi'r rhain i gyfansoddi symffoni dan arweiniad coed. Agorodd Derwen y Cwm lwybr anhygoel a lywiodd fy ymarfer, fy ymagwedd a'm bywyd fel artist byddar.
Felly gallwch ddychmygu fy arswyd a'r anobaith llwyr a lenwodd fy mron pan glywais ei bod wedi syrthio yn ystod storm Eowyn ym mis Ionawr 2025. Rhuthrais i fod gyda hi, gan ddarganfod ei charcas yn unig, wedi'i dorri'n ddarnau gan y ffermwr. Yn gorwedd ar ffurf pentwr o bren marw yn y man lle safai'n urddasol gynt, nawr doedd dim byd, dim ôl ohoni ...
Chwliais am unrhyw ddarnau o'i holion. Wedi'i daflu i lawr ochr y llethr, gwelais dalp o’i gwreiddiau, y myceliwm wedi'i rwygo ac wedi sychu. Wylais dros ei rhisgl – dan orchudd o fwsogl o hyd, fel yr oedd y ddaear lle'r oedd wedi syrthio. Gorweddais ar fy mol ar ei boncyff, ac yna, gan wisgo ei mwsogl fel penwisg rhyfelwr, yn drist ac yn ddig wrth golli perthynas teuluol, siantiais fantra i'r awyr. Roeddwn yn credu y byddai fy nghalon yn torri. Ond o gil fy llygad, sylwais fod llu o fes yn gorwedd yn y man lle'r oedd wedi syrthio. Cesglais lond poced yn gyflym.
Ar ôl cyrraedd adref, plennais y mes mewn potiau bach er mwyn tyfu glasbrennau a fydd yn dychwelyd i’r Cwm er anrhydedd iddi. Rydw i wedi ymweld â hi yn aml ers hynny. Yr wythnos ddiwethaf, sylwais fod math ar ffwng o’r enw pelenni duon yn tyfu ar ei rhisgl. Hyd yn oed yn farw, wedi'i thorri'n bentwr o bren, mae hi'n parhau i roi bywyd i'r goedwig. Ni allwch beidio â pharchu ei anhunanoldeb. Gosodais fy nwylo ar ei chylchoedd pren ... 'Sut alla i dy wasanaethu, fy Mam Dderwen?' gofynnais. 'Parha â'th fywyd a dweud fy stori,’ oedd ei hateb.











