Cheryl Beer
  • HOME
    • Cymraeg
  • #songofthetrees tour
    • Press Pack
  • Blog
  • Symphony Store
  • SOUND ARTIST
    • Addo R & D
    • My Story >
      • Cymraeg
  • Rewilding
  • Connect

C h e r y l   B e e r

​​A R T I S T   S A I N   A M G Y L C H E D D O L 

A E L O D M Y G E D O L   O ' R   1 0 0   O   F E N Y W O D   M W Y A F   A R L O E S O L
​ ​A M   E I   C H Y F R A N I A D   I ' R   C E L F Y D D Y D A U  ( WWEN: 2020 )

​Daeth Cheryl i Gymru gyntaf yn ei harddegau ac erbyn iddi orffen ei gradd gyntaf ym Mhrifysgol De Cymru, roedd wedi cwympo mewn cariad â'r diwylliant, y bobl a’r cefn gwlad – Cymru yw ei chartref bellach ac, er nad yw'n siarad Cymraeg, mae'n chwilio am ffyrdd o gynnwys yr iaith yn ei gwaith. 

Mae Cheryl Beer yn creu naratifau natur ysbrydoledig, yn archwilio'r perthnasoedd amgylcheddol rhwng lle, y ddynoliaeth a lles.

​Cafodd Cheryl ei hanrhydeddu’n un o'r 100 o fenywod mwyaf arloesol yng Nghymru, ac ni ddychmygodd erioed pa mor anhygoel fyddai ei bywyd. Ysgrifennodd ei chân gyntaf yn 13 oed, a dechrau ar yrfa gerddorol, gan fynd ar deithiau gyda Syr Bob Geldof a Van Morrison ymhlith eraill. Byddai'n swyno'i chynulleidfaoedd â'i chaneuon, ei cherddi a'i storïau ingol, wrth iddi berfformio yn ein gwyliau enwocaf a'n theatrau gorau. Roedd Cheryl yn un o'r terfynwyr yng nghategori’r Artist Solo Benywaidd Gorau yn y Gwobrau Cerddoriaeth Cymreig, a dewiswyd ei halbwm Little Fish: Bare Bone Songs yn albwm y mis gan HMV. Arweiniodd hyn at daith lofnodi o gwmpas eu siopau recordiau yn y DU.
 
Ar y cyd â'i gyrfa anhygoel fel cerddor, mae Cheryl yn adnabyddus hefyd fel dyngarwr creadigol, ac fel arloeswr mewn ymyriadau dyfeisgar yn y maes Celfyddydau ac Iechyd. Mae ei phrosiectau gweledigaethol yn hwyluso newid cymdeithasol cynaliadwy yng nghraidd bywyd Cymreig. Cafodd ei gwahodd gan Clymu Celf i ysgrifennu casgliad o 30 o ganeuon ar draws 7 Sir, gan lywio Gweledigaeth 21 Mlynedd Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer y Celfyddydau. Cheryl oedd sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol Celtic Womensfest yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, a than ei harweinyddiaeth unigryw, daeth y digwyddiad yn ŵyl gerdd i fenywod fwyaf Ewrop. O osodiadau castio corff gyda goroeswyr canser y fron i gyfarwyddo opera gymunedol ar stadau cyngor, mae'n eiriolwr dros y rhai nas clywir eu llais, gan greu man lle gall pob llais wneud gwahaniaeth.​

​Fodd bynnag, ers iddi ddatblygu nam ar y clyw yn sydyn, mae Cheryl wedi mabwysiadu ffordd newydd o fod, gan ganiatáu i hyn lywio’i harfer fel Artist Sain Amgylcheddol, a chynnal archwiliad dwfn o'r berthynas rhwng natur, y ddynoliaeth a lles ...

​​Stori Cheryl

Y gwir yw, nid yw’r un ohonom yn un stori sengl. Rydyn ni cyn ddyfned â'r goedwig, gyda'r un nifer o goed. Fel llawer, roeddwn innau'n credu bod popeth yn bosibl, petawn ond yn dal ati. Am gyfnod hir, roedd yn ymddangos bod y ddamcaniaeth hon yn gweithio. Roedden i'n byw'r freuddwyd. Pan oeddwn yn ganwr/cyfansoddwr caneuon teithiol, byddwn yn perfformio rhyw 300 o gigs bob blwyddyn, gan deithio i leoedd annychmygadwy, a chwarae wrth ochr cerddorion oedd yn eiconau i mi – yn canu ar y llwyfannau gorau a pherfformio yn y gwyliau mwyaf. Yna, pan ddes i'n artist cymunedol, helpais filoedd o bobl eraill i wireddu eu breuddwydion.​ Fel Cyfarwyddwr Creadigol, roedd gen i gast o fwy na 300 ym mhob cynhyrchiad, a sefydlais yr ŵyl gerdd i fenywod fwyaf yn Ewrop, yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Wrth edrych nôl, gallaf weld mod i wedi gwthio fy hunan yn rhy galed, ac mewn ymateb, ac yn ddirybudd, penderfynodd fy nghlustiau eu bod wedi cael digon.​

Pan sylweddolais yn gyntaf fod gen i nam ar y clyw, gwywodd fy enaid ac roedd y golau a ddisgleiriodd i gymaint o bobl wedi pylu’n llygedyn bellach. Ynysais fy hunan yn llwyr, yn rhy ofnus i adael y tŷ, ac yn methu gwrando ar gerddoriaeth, heb sôn am ei chwarae. Fodd bynnag, wrth i fy mywyd grebachu fel hyn, darganfyddais ddyfnderoedd newydd. Dechreuais ymgysylltu'n ddyfnach â'r amgylchedd o'm cwmpas, gan ddod i'w ddeall mewn ffyrdd newydd.
​
Wna i fyth anghofio'r diwrnod pan ddes i allan o'r ysbyty yn gwisgo fy nghymorthion clyw. Wylais wrth i mi glywed yr adar yn canu, y môr yn rhuo, y gwynt yn suo yn y dail, ac yn bennaf oll, lleisiau f’anwyliaid. Bu’r llwybr yn hirfaith, ond sylweddolais mai'r peth pwysicaf oedd gallu cymhwyso fy nghreadigrwydd mewn ffyrdd a fyddai'n fy ngalluogi i barhau i wneud fy nghyfraniad i’r byd.

Trwy ganiatáu i newid lywio fy ngwaith, rydw i bellach yn Artist Sain Amgylcheddol, yn dod â'r tu allan i'r tu mewn i bobl hŷn drwy greu mapiau sain o naratifau eu hoff deithiau cerdded. Gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru ac Achosion Da'r Loteri Genedlaethol, rydw i wedi hyfforddi 4 Artist Sain arall sy'n gweithio gyda mi ar hyn o bryd ar Radio Dementia-Gyfeillgar Atgofion Sain, lle rydw i'n Gyfarwyddwr. Mae'r namau ar fy nghlyw yn caniatáu i mi olygu adnoddau sain dementia-gyfeillgar oherwydd mae llawer o'r sensitifrwydd sain a brofir gan y rhai sy'n byw gyda'r cyflwr yn debyg i fy mhrofiad personol innau. Mae'r cerrig milltir a drysoraf ar fy nhaith yn cynnwys :-

Cael fy ngwahodd yn Aelod Mygedol o'r 100 o Fenywod Mwyaf Arloesol erioed gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, am fy nghyfraniad i’r Celfyddydau.

Ennill y Wobr Cydraddoldeb Menywod am gynhyrchu a chyflwyno fy Nghyfres Radio, sy’n rhannu storïau bywyd menywod nodedig i symbylu eraill.

Derbyn y Wobr Rhagoriaeth mewn Llenyddiaeth am fy ngwaith fel Y Storïwr Cwsg, yn ysgrifennu storïau byr ac yn helpu plant i feddwl am derfyniadau amgen i'r pethau sy'n eu poeni fwyaf.

Ennill y Wobr Rhagoriaeth mewn Cyfryngau Digidol Creadigol am fy ngwaith fel Cyfarwyddwr Radio Atgofion Sain. Dod yn Ddatblygwr Digidol Creadigol cyntaf y Gynhadledd Rhyngwladol ar Adrodd Storïau er budd Iechyd, a chydysgrifennu papur a gyhoeddwyd yn yr International Journal of Storytelling for Health.

Yn y bywyd newydd hwn, rydw i'n neilltuo amser i ymgysylltu â'm harfer personol trwy ddatblygu fy hoffter o goladu sainluniau newydd ac archwilio ffyrdd o roi fy ngherddi a'm storïau yn ôl i natur sy'n eu hysbrydoli. Yn bennaf oll, rydw i'n ddiolchgar. ​

 ... A dwi'n dweud wrthych am y pethau hyn, nid i ddylanwadu ar sut rydych yn fy ngweld, ond i ddangos i chi, yn gwbl onest, bod modd i'r darnau o'r Hunan sydd wedi torri gynnig posibiliadau newydd nad oeddent yno o'r blaen.

​Os yw fy stori'n eich ysbrydoli ac mae gennych ddiddordeb yn fy ngwaith, mae croeso i chi gysylltu â mi. Mae gen i dudalen facebook ddyddiol a byddwn yn hapus i'ch ychwanegu fel ffrind. Gofalwch am eich hunan, rydych chi wir yn werthfawr.

​Cysylltwch â mi @facebook
FACEBOOK
  • HOME
    • Cymraeg
  • #songofthetrees tour
    • Press Pack
  • Blog
  • Symphony Store
  • SOUND ARTIST
    • Addo R & D
    • My Story >
      • Cymraeg
  • Rewilding
  • Connect