Cheryl Beer
  • Home
    • CYMRAEG
  • Sonic Nature
  • Current Work
    • Natur am Byth
    • Himalayan Birch Mantra
  • Past Work
  • Blog
  • Connect
Croeso, Cheryl Beer yw f'enw i. Fel artist sain amgylcheddol, rwy'n nodiannu ac yn cyfansoddi cerddoriaeth a arweinir gan ddarlleniadau gweledol, diagramau a phatrymau rwyf yn eu crynhoi o’r byd naturiol, gan rymuso natur fel llais sy'n codi ymwybyddiaeth o'i heiddilwch hithau a'n breuder ninnau fel rhan ohoni. Ar y cyd â'm cerddoriaeth a'm cyfansoddiadau celfyddyd sain a arweinir gan natur, dangosir ffilmiau cadwraeth a grëwyd i ddwysáu ein cysylltiad ag ymdeimlad dwfn o le. I gychwyn, dechreuais wneud ffilmiau i roi cyd-destun gweledol i’r gymuned B/byddar ac o ganlyniad, mae wedi dod yn agwedd hanfodol ar fy ymarfer creadigol.
Dechreuodd hyn fel ymarfer iachaol, wrth i mi ailbwrpasu technoleg teclynnau clyw i nodiannu cerddoriaeth o fiorhythmau natur, ac arweiniodd at breswyliad blwyddyn fel Artist Sain yng Nghoedwigoedd Glaw Cymru. Yno cyfansoddais symffoni o dan y rhisgl a dyfodd yn organig yn ymgyrch rhyngwladol i rymuso llais ecolegau bregus ar draws y blaned. Ar ddiwedd 2023, ar ôl taith ryngwladol 18 mis gyda Symffoni'r Coedwigoedd Glaw Cân y Coed, cefais fy newis ar gyfer y Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol glodfawr, i gynnal archwiliad creadigol i Gerddoriaeth dan arweiniad Natur a Chysylltedd Emosiynol.

​Dechreuodd ymchwil fy Nghymrodoriaeth yn agos i gartref, ar y waliau amddiffyn rhag llifogydd yn Llanelli, lle bûm yn archwilio'r syniad o nodiannu cerddoriaeth o'r patrymau gweledol ar y traeth. Yn gyntaf, roedd y crychdonnau tywod aneirif yn debyg i farddoniaeth arallfydol, ond wrth eu hastudio'n fwy manwl, roedd y llwch du ynddynt yn rhoi rhybudd bygythiol – er i ni dybio bod ein systemau soffistigedig wedi rhoi stop ar erydu glan y môr, mae'r môr yn parhau i erydu ein hamddiffynfeydd, un gronyn du ar y tro. Roeddwn eisiau gwybod sut oedd y rhybuddion darfodedig hyn yn swnio: beth oedd y môr yn ceisio dweud wrthym yn barhaus?
Picture
Natur sonig : Llwybr Ymchwil Artist
Gan ddefnyddio llyfr erwydd a phensil, dechreuais fraslunio patrymau'r crychdonnau ar gerddoriaeth ddalen, gan ddarganfod alawon wedi'u hysgrifennu ar gynfas y tywod, a gyfansoddwyd gan donnau'r llanw. Cefais fy ysbrydoli i ddechrau dyfeisio ymarfer creadigol a elwais yn Ddarlunio Sonig, sef cydweithio gyda natur i gyfansoddi cerddoriaeth drwy'r patrymau gweledol a wehyddir gan y byd naturiol – cewch brofi hyn wrth i chi ymuno â'm Llwybr Natur Sonig Artist Ymchwilydd.​
​Ar ôl gorffen camau cychwynnol fy ymholiad creadigol, es ati i gymhwyso’r pethau roeddwn wedi'u dysgu yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, lle rwy'n gweithio fel Artist Preswyl ar gyfer fy Nghymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol. Yn ystod un ymweliad, mentrais i Waun Las, y Warchodfa Natur Genedlaethol gyfagos a reolir gan yr Ardd, ac wrth eistedd dan ganopi hen dderwen anferth 200 mlwydd oed, dechreuais greu Darlun Sonig o'r dirwedd anferth wrth iddi ymestyn tuag at yr awyr.​​ Roedd yn brofiad mor hardd nes i mi gael fy llethu gan deimlad. Doedd dim angen technoleg arnaf i glywed alawon – gan fod Darlunio Sonig wedi dod yn rhan hanfodol o'm hymarfer creadigol, roeddwn yn gallu eu gweld, ym mhobman. ​Yng ngham nesaf fy Nghymrodoriaeth, dechreuais ymchwilio i ffyrdd cynhwysol o rannu fy nghasgliadau gydag eraill ac, yn bwysig, cofnodi eu hymateb i'm helpu i ddeall fy ngwaith yng nghyd-destun y gymuned ehangach. Roedd yr adborth hwn yn fy helpu i lunio Natur Sonig.​

Natur Sonig : Synhwyro Gardd Cymru

Picture
Natur sonig : Llwybr Ymchwil Artist
Ar ôl cael llawer o sgyrsiau diddorol am yr amgylchedd gyda staff yr Ardd, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr, dechreuais ar y Darlunio Sonig mewn pum man gwahanol, gan greu Llwybr Natur Sonig Artist Ymchwilydd hybrid sy'n eich gwahodd i brofi Darlunio Sonig ble bynnag y boch ac fel y gallaf innau weld sut rydych yn ymateb i'm gwaith. Mae'r Llwybr yn gasgliad o​ alawon a storïau dan arweiniad ein hecoleg sy’n fregus, yn frau ond eto'n wydn, gyda chasgliad ychwanegol o flogiau y tu ôl i'r llenni i roi dealltwriaeth ddyfnach i chi. 
​
Eich Gwahoddiad ...
Hoffwn eich gwahodd i brofi fy Llwybr Natur Sonig Artist Ymchwilydd: Synhwyro Gardd Cymru. Gallwch ymuno’n hawdd a’i gyrchu ble bynnag y boch – drwy glicio ar y ddolen uchod. Cewch fideos yn Gymraeg, Saesneg a BSL, gyda lle i roi eich meddyliau a'ch myfyrdodau. Bydd eich cyfraniad yn helpu i lywio fy ngwaith yn y dyfodol. Wrth gwrs, gallwch hefyd gymryd rhan yn yr Ardd ei hun drwy sganio'r arwyddion â Chod QR ym mhob lleoliad. Neu efallai yr hoffech ymuno â mi yn yr Ardd yn ystod y flwyddyn ar gyfer y Daith Gerdded Ddistaw at y goeden 200 mlwydd oed neu eistedd gyda mi yn y Cwt Gwenyn i deimlo dirgryniad y cwch gwenyn dan eich croen ...
Picture
Natur sonig : Llwybr Ymchwil Artist
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am wahanol agweddau ar fy ngwaith, fel yr amser a dreuliais yn Sefydliad Helmholtz yn cyfansoddi celf sain o alwad morfil danheddog yn y capiau iâ sy'n toddi yn Antarctica, neu ddarllen am fy mhrosiectau eraill, fel trefnu Symffoni'r Coedwigoedd Glaw Cân y Coed ar gyfer pumawd recorders bas, mae croeso i chi bori drwy dudalennau fy ngwefan. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich diddordeb yn fy ymarfer creadigol ac am gymryd yr amser i ymweld. Os hoffech gael cipolygon rheolaidd, gallwch fy ychwanegu fel ffrind ar FACEBOOK – galwch heibio i ddweud helo – bydd yn dda cael cysylltu â chi. Cyfarchion cynnes, Cheryl.

'Ynghudd dan y cefnforoedd,
​yn nyfnderoedd y moroedd, yn ymledu ar draws tirweddau,
yn canu dan risgl coed, mae alawon aneirif yn cysgu.'
AELOD MYGEDOL O'R 100 O FENYWOD MWYAF ARLOESOL AM EI CHYFRANIAD I'R CELFYDDYDAU ( WWEN :  2020 )
Teilyngwr yng Ngwobrau Dewi Sant 2024 am ei Chyfraniad Diwylliannol Cenedlaethol a Rhyngwladol i Gymru.

Picture
  • Home
    • CYMRAEG
  • Sonic Nature
  • Current Work
    • Natur am Byth
    • Himalayan Birch Mantra
  • Past Work
  • Blog
  • Connect