Lansiad – Dydd Llun 29 Gorffennaf 2024
Mae Natur Sonig yn gyfle i ymgysylltu â'r byd naturiol trwy'r synhwyrau. Mae Natur Sonig yn eich gwahodd i synhwyro natur trwy eich bod cyfan wrth i chi gyffwrdd, clywed, teimlo a phrofi'r storïau bregus ond cydnerth a anwybyddir yn aml ond sy'n cynnig cysylltiad dwfn ar y daith drwy ecoamser, o'r planhigyn blodeuol cyntaf i'r ffosiliau sy'n adeiledd craidd Cymru.
F'enw i yw Cheryl Beer. Fel un o'r 8 artist a ddewiswyd ar gyfer Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol, rwy'n gweithio yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn archwilio ffyrdd newydd o gysylltu cymunedau â natur trwy'r synhwyrau. Rwy’n defnyddio technegau hybrid sy'n eich galluogi i gyrchu fy ngwaith yn yr Ardd, neu ble bynnag yr ydych yn y byd, ac rwy'n eich gwahodd i gyfrannu at fy ymchwil gyda'ch meddyliau a'ch myfyrdodau.
Dechreuodd fy ymholiad creadigol drwy archwilio fy mherthynas innau â'r byd naturiol. Fel artist sain amgylcheddol â nam ar y clyw, rwy'n defnyddio ciwiau gweledol o fyd natur i gyfansoddi cerddoriaeth dan arweiniad y byd naturiol, gan greu platfform lle gall ecolegau bregus siarad trwy eu llais eu hun. Fel rhan o ymchwil fy Nghymrodoriaeth, rydw i wedi datblygu ymarfer newydd o'r enw ‘Darlunio Sonig’, gan weithio gyda'r marciau ar ffosiliau coed 310 miliwn mlwydd oed, croen cysegredig y fedwen Himalaiaidd a chylch bywyd y goeden magnolia, sef planhigyn blodeuol cyntaf y Ddaear, i gyfansoddi cerddoriaeth dan arweiniad yr amgylchedd.

Rydw i hefyd wedi cydweithio gyda'r tîm cadw gwenyn yn archwilio dirgryniad fel ffordd o ymgysylltu, gan recordio y tu mewn i nythfa o 30,000 o wenyn a defnyddio fest ddirgryniad i alluogi ymwelwyr i brofi'r sŵn dan y croen a theimlo sut mae bod yn wenynen sy’n byw yn y cyfryw gymuned.
Mae fy Llwybr Ymchwil Artist yn gorffen gyda Thaith Gerdded Ddistaw at Dderwen 200 mlwydd oed sy'n tyfu yn Waun Las, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cymru. Ers i mi golli fy nghlyw, rydw i wedi datblygu dealltwriaeth ryfeddol o brofi natur trwy'r synhwyrau. Mae'r Daith Gerdded Ddistaw yn wahoddiad i brofi'r byd naturiol yn yr un ffyrdd â minnau. Byddaf yn arwain rhai o'r Teithiau Cerdded Distaw fy hunan trwy gydol yr Haf. Bydd yn hyfryd cael cwrdd â chi. Cliciwch ar y ddolen isod i fwcio eich lle.